Ewch i’r prif gynnwys

Diogelu plant ac oedolion mewn perygl

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel i bob plentyn ac oedolyn sydd mewn perygl, neu oedolion sy’n agored i niwed y deuir ar eu traws drwy ein gweithgareddau addysgu, ymchwil, allgymorth, mynediad a gweithgareddau eraill.

Cynlluniwyd ein polisi Diogelu i arwain y Brifysgol yn ei dyletswydd statudol a moesol i ddiogelu plant ac oedolion mewn perygl/sy’n agored i niwed sy’n dod i gysylltiad â chymuned y Brifysgol, a’r staff sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion mewn perygl/sy’n agored i niwed, i wneud yn siŵr bod canllawiau a gweithdrefnau clir ar gyfer nodi perygl a rhoi gwybod am bryderon.

Mae canllawiau wedi’u paratoi hefyd i roi rhagor o wybodaeth i staff, myfyrwyr a gwirfoddolwyr ar gyfer cynnal gweithgareddau penodol lle mae gofyn neilltuol am ddiogelu.

Prif ystyriaethau

Diogelu yw’r cam a gymerir i ddiogelu plant (o dan 18 oed) ac oedolion mewn perygl (am eu bod yn derbyn gofal neu wasanaethau eraill – mae’r diffiniad yn y polisi) o niwed gan gynnwys cam-drin.

Os ydych yn gweithio gyda phlant (o dan 18 oed) neu oedolion mewn perygl, gwnewch yn siŵr:

  • Eich bod wedi darllen y polisi, yr arweiniad perthnasol ac wedi cwblhau’r hyfforddiant perthnasol – mae angen i chi fod yn gyfarwydd â’r polisi Diogelu a chwblhau’r hyfforddiant perthnasol.
  • Bod Swyddog Diogelu Dynodedig (DSO) wedi’i benodi – os yw maes eich gwaith yn ymwneud â phlant neu oedolion yn y gwaith, rhaid i chi wneud yn siŵr bod DSO yn cael ei enwebu ac yn cwblhau’r hyfforddiant perthnasol.
  • Eich bod yn cofnodi a’n rhoi gwybod am unrhyw bryderon – mae dyletswydd i gofnodi a rhoi gwybod am unrhyw bryderon am y plant a’r oedolion mewn perygl. Ni allwch ddewis gwneud dim ond nid oes rhaid i chi wneud hyn ar eich liwt eich hun. Gallwch gael cyngor gan y Swyddog Dynodedig perthnasol yn ogystal â Phrif Swyddog Diogelu a Swyddog Diogelu Arweiniol y Brifysgol sydd wedi’u rhestru yn y polisi.
  • Eich bod yn ystyried a oes angen gwiriad DSB arnoch – mae’n bosibl y bydd angen gwiriad heddlu (gwiriad DBS) ar rai staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion yn aml – darllenwch y polisi a thrafodwch gydag Adnoddau Dynol.
  • Eich bod yn ymddwyn yn briodol bob amser – dylai staff, myfyrwyr a chontractwyr gymryd camau i sicrhau nad ydynt, yn anfwriadol, yn rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle gellir gwneud honiadau o gam-drin neu esgeuluso yn eu herbyn, a’u bod yn ymddwyn mewn modd priodol bob amser tuag at blant ac oedolion mewn perygl y maent yn dod i gysylltiad â nhw. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad priodol o ran cyswllt corfforol, sylwadau awgrymog ynghylch rhyw, a’r cyfryngau cymdeithasol. Ceir canllawiau pellach yn y polisi Diogelu.

Rydym yn cymryd yr holl bryderon ynghylch diogelu a honiadau am gam-fanteisio, niweidio neu gam-drin (gan gynnwys radicaleiddio) o ddifrif, a byddwn yn rhoi gwybod am bryderon mewn da bryd.

Ein Polisi Diogelu

Polisi Gweithdrefn Adrodd ar Ddiogelu 2021

Polisi gweithdrefn adrodd ar ddiogelu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y canllawiau ar y dudalen hon neu’r dogfennau cysylltiedig, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaeth Sicrwydd.

Cydymffurfiaeth a Risg