Ewch i’r prif gynnwys

Polisi Atal

Mae gennym ddyletswydd statudol i egluro’r camau y byddwn yn eu cymryd yn unol â’r gofynion yn Neddf Gwrthderfysgaeth 2015, fel maent yn berthnasol i ddarparwyr addysg uwch.

Mae annog terfysgaeth a/neu geisio cefnogaeth ar gyfer corff gwaharddedig yn drosedd. Mae ein Polisi Atal yn egluro ein hagwedd at elfennau a gofynion penodol y Ddeddf fel maent yn berthnasol i ddarparwyr addysg uwch, yn ogystal â'n hagwedd fwy cyffredinol at faterion yn ymwneud â'r perygl i'n staff a'n myfyrwyr mewn perthynas ag aflonyddu neu radicaleiddio o unrhyw ffynhonnell, a mesurau perthnasol sy'n galluogi ein myfyrwyr i ddysgu mewn amgylcheddau diogel ac sy'n eu hysgogi'n ddeallusol.

Yn unol â'r arweiniad statudol i ddarparwyr addysg uwch rydym ni hefyd wedi sefydlu cofrestr risg a chynllun gweithredu a adolygir yn rheolaidd ac sy'n agored i'w monitro a'u gorfodi fel y nodir yn y Ddeddf. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i'r holl staff, myfyrwyr, ymwelwyr ag adeiladau'r Brifysgol a'r rheini sy'n cynnal busnes ar ran y Brifysgol.

Prevent Policy

The Prevent Policy provides the measures the university has put in place in accordance with provisions in the Counter-Terrorism Act 2015 as they apply to higher education providers.