Ewch i’r prif gynnwys

Dyma’r bobl a fydd yn eich addysgu

Mae ein dulliau addysgu’n cael eu datblygu drwy ddefnyddio tystiolaeth ymarferol o’r hyn sy’n gweithio orau ym maes addysg feddygol ledled y byd.

Rydym yn mynd ati i sicrhau ein bod yn addysgu ein myfyrwyr yn y ffordd orau bosibl er mwyn eu galluogi i lwyddo.

Clinigwyr ac ymchwilwyr mawr eu bri’n rhyngwladol yw ein haddysgwyr – byddwch yn dysgu gan rai o’r arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd ac yn gweithio ochr yn ochr â nhw.

Dyma rai aelodau o'n staff addysgu

Dr Athanasios (Thanasi) Hassoulas

Darllenydd mewn Addysg Feddygol a Chyfarwyddwr Uned Arloesi Addysgu HIVE, Prif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (AdvanceHE)

Dr Athanasios (Thanasi) Hassoulas
Dr Athanasios (Thanasi) Hassoulas

Ymunais â'r Ysgol Meddygaeth yn 2014 yn Ddarlithydd Seiciatreg, cyn cael fy mhenodi i swydd Cyfarwyddwr y rhaglen MSc Seiciatreg (2018-2023). Ar hyn o bryd, rwy'n Ddarllenydd Addysg Feddygol, a fi yw Cyfarwyddwr yr Uned Arloesedd Addysgu: Rhith-amgylcheddau Hybrid a Rhyngweithiol.

Mae'r Ysgol Meddygaeth wedi fy nghefnogi yn academydd, yn ysgolhaig ac yn addysgwr. Fy ngobaith yw y gallaf innau hefyd helpu cymaint o fyfyrwyr a chydweithwyr ag y gallaf i wireddu eu potensial yn llawn.

Rwy'n addysgu niwroseicoleg a meddygaeth ymddygiadol yn rhan o’r rhaglen meddygaeth i israddedigion (MBBCh) a rhaglenni amrywiol i ôl-raddedigion. Rwy'n goruchwylio myfyrwyr MSc a PhD sy’n gwneud ymchwil i bynciau sydd o ddiddordeb angerddol i mi, sy'n cynnwys anhwylder gorfodaeth obsesiynol ac addysg feddygol.

Rwy'n ymroddedig i wella profiad y myfyrwyr drwy arferion arloesol, gan groesawu technolegau newydd sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer y gweithle yn y dyfodol. Rwyf wedi derbyn nifer o wobrau am fy addysgu, gan gynnwys y wobr Raise the Line ranbarthol gan Osmosis (from Elsevier) am addysgu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod a chydweithio â chi, ein cenhedlaeth nesaf o weithwyr meddygol proffesiynol gwych.

Gweld proffil Dr Athanasios Hassoulas

Yr Athro Rhian Goodfellow

Darllenydd Clinigol a Chyfarwyddwr C21

Rhian Goodfellow
Professor Rhian Goodfellow

A minnau’n berson siaradus a chwilfrydig fy natur – a busneslyd, efallai, ym marn rhai pobl – meddygaeth oedd y dewis delfrydol i mi o ran llwybr gyrfaol, a hyd yma, mae wedi rhagori ar yr holl ddisgwyliadau.

Mae'r fraint a'r wefr o wrando ar gleifion, gwneud diagnosis a gallu trin unigolion wedi hynny’n parhau i fy nghyffroi, ac mae hyn oll yn ei gwneud yn hawdd mynd i'r gwaith bob bore.

A minnau’n Uwch-ddarlithydd Clinigol ym maes Rhiwmatoleg, nid oes amser i ddiflasu na llaesu dwylo.

Bydd her wahanol bob dydd, boed trafod meddygaeth flaenllaw ‘o’r labordy i erchwyn y gwely’ (gan gyfuno theori sylfaenol ym maes gwyddoniaeth ac ymarfer clinigol), trin cefn gwael unigolyn oedrannus neu addysgu’r genhedlaeth nesaf o feddygon a thanio eu brwdfrydedd.

Ni allaf ddychmygu fy hun yn gwneud unrhyw beth arall.

Gweld proffil yr Athro Rhian Goodfellow

Dr Sarju Patel

Cyfarwyddwr Dros Dro Blwyddyn 2
Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch

Dr Sarju Patel
Dr Sarju Patel

A minnau’n addysgwr meddygol â mwy na 25 mlynedd o brofiad o addysgu a gwneud ymchwil, rwy'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddylunio, cyflwyno ac asesu cwricwlwm meddygol israddedigion.

Mae myfyrwyr meddygol wedi bod yn alluog ac yn chwilfrydig erioed, ond nid yw gwybodaeth glinigol yn unig yn ddigon i lwyddo yn y byd sydd ohoni; mae angen i fyfyrwyr hefyd fedru cyfathrebu ac ymgysylltu â chleifion mewn ffordd ystyrlon. Yn ogystal â hynny, rwyf o’r farn bod creu amgylcheddau dysgu cynhwysol yn allweddol i lwyddiant myfyrwyr, a thrwy roi cyfleoedd dysgu cynhwysol a diogel sy’n eu galluogi, ynghyd â chymorth bugeiliol cryf, gallwn sicrhau bod ein myfyrwyr yn gwireddu eu potensial. Mae fy nghredoau a’m gwerthoedd yn sail i’r gwaith rwy’n ei wneud ar y dasg hon, ac rwy’n gweithio'n galed i rymuso tegwch, parch, gonestrwydd a chydraddoldeb ar gyfer fy nghydweithwyr a’m myfyrwyr. Yn sgîl hyn, cefais fy newis yn Astudiaeth Achos ar gyfer y portffolio Addysg a Phrofiad Myfyrwyr yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth Addysgu Prifysgol Caerdydd 2023.

Mae gennyf ddiddordeb angerddol hefyd mewn Ehangu Mynediad, gan annog pobl ifanc o bob cefndir i ystyried gyrfa ym maes meddygaeth; cefais wobr MEDIC STAR am Gyfraniad Eithriadol at Weithgareddau Ymgysylltu am fy arweinyddiaeth yn y maes hwn.

Nid yw datblygiad personol byth yn stopio, ac wrth i mi addysgu myfyrwyr, rwy'n dysgu fy hun.  Mae sesiynau grŵp bach, lle rwy’n gallu ymgysylltu â'm myfyrwyr, yn un o’r nifer o resymau pam rwyf wrth fy modd yn addysgu.

Gweld proffil Dr Sarju Patel

Yr Athro Marcus Coffey

Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch

Marcus Coffey
Dr Marcus Coffey

Rwy'n addysgu israddedigion ar y rhaglen radd Meddygaeth (MBBCh), a hynny ym maes Ffarmacoleg.

Mae deall sut mae cyffuriau'n gweithio’n rhan hollbwysig o hyfforddi meddygon i fod yn rhagnodwyr diogel. Er mai dim ond effaith therapiwtig yr hoffem i’r cyffuriau a ddefnyddir gennym ei chael, mae'n rhaid i ni gydnabod hefyd y gallai pob meddyginiaeth achosi sgîl-effeithiau dieisiau. Felly, gall dealltwriaeth well o weithrediad cyffuriau helpu i leihau nifer yr achosion o 'ymatebion anffafriol i gyffuriau'.

Er mwyn helpu ein myfyrwyr i ddeall y cyffuriau y gellir eu hystyried ar draws yr holl arbenigeddau meddygol gwahanol sy'n cael sylw yn rhan o'r cwrs, rwy'n defnyddio ystod o dechnegau addysgu sy'n helpu i egluro effeithiau cyffuriau. Mae hyn yn cynnwys rhoi cyd-destun i’r defnydd o gyffuriau sy’n targedu system neu feinwe benodol yn y corff dynol. Felly, rwy'n creu deunyddiau addysgu sy'n ymdrin â phopeth o gardioleg i imiwnoleg i seiciatreg ... a phopeth rhyngddynt!

Rwyf wedi ennill nifer o wobrau am fy nulliau arloesol o addysgu, ac mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn creu adnoddau e-ddysgu rhyngweithiol sy’n apelio’n weledol y gall myfyrwyr meddygol eu defnyddio i wella eu gwybodaeth am faes pwnc penodol.

Gweld proffil yr Athro Marcus Coffey

Yr Athro Susan Wong

Athro Metabolaeth a Diabetes Arbrofol

Professor Susan Wong
Professor Susan Wong

Mae fy ngwaith addysgu'n canolbwyntio ar ddiabetes sydd, fel y gwyddoch eisoes mae'n debyg, yn fwy nag un math o gyflwr yn unig.  Mae gweithio gyda phobl sydd â gwahanol fathau o ddiabetes yn heriol ond yn werth chweil, ac rwy'n mwynhau rhannu'r profiadau hyn gyda fy myfyrwyr. Mae'r hyn y byddwch yn ei ddysgu gyda mi yn seiliedig ar fy ngwaith clinigol gyda phobl sy'n byw gyda diabetes, yn ogystal â'm gwaith academaidd clinigol yn ymchwilio i’r hyn sy’n achosi diabetes Math 1.

Gwybodaeth yw popeth ym maes gofal iechyd, a rhan hanfodol o'n gwaith yn feddygon yw ymgysylltu â’r cyhoedd a’u haddysgu i ddeall materion meddygol ac ymchwil wyddonol.  Mae fy myfyrwyr yn gweithio gyda mi i wneud hyn mewn amrywiol ffyrdd, sy’n cynnwys cyfrannu at arddangosfa mewn oriel gelf ysbyty i ddathlu canmlwyddiant defnyddio inswlin.

Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â chi.

Gweld proffil yr Athro Susan Wong

Yr Athro Paul Frost

Cyfarwyddwr Sgiliau Clinigol ac Efelychu ac Ymgynghorydd Anrhydeddus ym maes Meddygaeth Gofal Dwys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Yr Athro Paul Frost
Yr Athro Paul Frost

A minnau’n ymgynghorydd ym maes meddygaeth gofal dwys, rwy'n gofalu am gleifion sy'n ddifrifol wael a chleifion sydd wedi'u hanafu’n ddifrifol. Mae'n swydd ddifyr llawn amrywiaeth sy’n cynnwys rheoli pob math o argyfwng meddygol y gellir ei ddychmygu.

Nid oes llawer sy’n rhoi mwy o foddhad wrth roi gwasanaeth meddygol nag achub bywyd person sydd ar fin marw a’i weld yn gwella a mynd adref i’w deulu.

Cyn dechrau ar fy swydd bresennol ym Mhrifysgol Caerdydd, roeddwn yn ddigon ffodus i fod wedi treulio deng mlynedd yn Awstralia a Seland Newydd yn gweithio mewn canolfannau trawma mawr, unedau llosgiadau ac unedau gofal dwys pediatreg ac yn adfer cleifion difrifol wael yn eromeddygol.

Rwy'n deall yn dda iawn faint mae meddygon dan hyfforddiant a myfyrwyr meddygol yn poeni ynghylch delio â’r cleifion sâl iawn hyn, ond rydym yn ymfalchïo ym Mhrifysgol Caerdydd mewn addysgu ein myfyrwyr sut i wneud hyn yn dda.

Braint i mi, yn Gyfarwyddwr Sgiliau Clinigol ac Efelychu, yw arwain ar y rhan hon o'r cwricwlwm.

Gweld proffil yr Athro Paul Frost

Dr Naomi Stanton

Darlithydd a Meddyg Teulu

Dr Naomi Stanton
Dr Naomi Stanton

Ar ôl graddio o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, cwblheais fy hyfforddiant yn feddyg iau yng Nghaerdydd cyn symud ymlaen i hyfforddi yng nghymoedd De Cymru i ddod yn feddyg teulu. Dychwelais i Brifysgol Caerdydd yn Gymrawd Academaidd i ddechrau, a datblygais ddiddordebau ym maes addysgu ac ymchwil.

Rwyf bellach yn Uwch-ddarlithydd Clinigol sy’n canolbwyntio ar anghydraddoldebau iechyd. Rwy'n datblygu sesiynau addysgu ac adnoddau ynghylch anghydraddoldebau iechyd. Mae hyn yn cynnwys meddygaeth ffordd o fyw a hefyd gynaliadwyedd ac iechyd. Mae sylweddoli bod ein hamgylchedd cymdeithasol yn dylanwadu llawer mwy ar iechyd a lles yn hanfodol wrth helpu i wella iechyd pobl ochr yn ochr â darparu gofal a thriniaeth glinigol dda. Rwy'n cyfrannu at addysgu ac asesu clinigol ar gyfer pob blwyddyn ac yn arwain ar fodiwl Anghydraddoldebau Iechyd yn rhan o’r rhaglen gradd ymsang Meddygaeth y Boblogaeth. Fy nod yw codi proffil heriau iechyd ymhlith grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu ddigon yn y boblogaeth. A minnau’n feddyg teulu hefyd yng Nghymoedd Rhondda, rwy’n mwynhau helpu fy myfyrwyr i roi eu dysgu ar waith a dangos y golygfeydd anhygoel wrth iddynt brofi heriau unigryw yn yr ardal hon.

Fi yw'r Cyfarwyddwr Derbyn a Recriwtio Myfyrwyr yn yr Ysgol Meddygaeth, ac rwy'n arwain ein Tîm Derbyn Myfyrwyr i ddenu a chadw'r ymgeiswyr gorau sydd â’r galluoedd, y sgiliau a'r priodoleddau rydym yn chwilio amdanynt i ddod yn feddygon yn y dyfodol. Rwy'n gweithio gyda myfyrwyr meddygol ac ysgolion i gynnal gweithgareddau allgymorth er mwyn annog disgyblion nad ydynt efallai wedi sylweddoli eto y gallant fod yn feddygon gwych ryw ddydd.
Y tu allan i'r gwaith, rwy’n hoffi teithio a phrofi gwahanol leoedd a diwylliannau, dringo, bod yn yr awyr agored a mynd â’r ci am dro ym Mannau Brycheiniog neu ar draeth Ogwr.

Pob lwc gyda'ch arholiadau, os ydynt yn dal o'ch blaen – ac rwy'n gobeithio cwrdd â chi yma ym mis Medi i'ch croesawu i Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd ar gam cyntaf eich taith i ddod yn feddyg.

Gweld proffil Dr Naomi Stanton

Yr Athro Paul Morgan

Y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau a’r Sefydliad Ymchwil Dementia

Professor Paul Morgan
Professor Paul Morgan

Rwy'n Fiocemegydd Clinigol sydd â hanes cryf o wneud ymchwil ym maes Imiwnoleg.

Fi oedd Deon a Phennaeth yr Ysgol rhwng 2008 a 2013, ond penderfynais gamu'n ôl er mwyn gallu treulio rhagor o amser yn gwneud gwaith ymchwil a gwaith clinigol. Yna, yn 2018, camais yn ôl o’r gwaith clinigol. Erbyn hyn, rwy’n cael y pleser o fod yn ymchwilydd llawn amser ac arwain tîm sy'n gweithio ar lid a llid yr ymennydd yn benodol.

Rwy'n mwynhau addysgu, yn enwedig addysgu un-i-un ac addysgu grwpiau bach, ac rwyf wedi mwynhau heriau'r cwricwlwm newydd. Rwyf wedi dysgu cymaint o ryngweithio â myfyrwyr ac wedi sylweddoli bod ein myfyrwyr yn rhan annatod o’n Hysgol Meddygaeth – ein hadnodd mwyaf gwerthfawr a’r bobl i fynd atynt i gael y cyngor gorau ar wella'r cwrs a phrofiad y myfyrwyr.

Gweld proffil yr Athro Paul Morgan