Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr sy’n rhieni

P’un a oes gennych chi blentyn eisoes neu eich bod ar fin dod yn rhiant, mae gwasanaethau ar gael gennym i gefnogi eich astudiaethau gyda ni.

Yn ein barn ni, ni ddylai bod yn feichiog, mabwysiadu neu ofalu am blentyn ynddo’i hun fod yn rhwystr rhag ceisio am le ar raglen astudio, cychwyn arni neu lwyddo ynddi. Rydyn ni’n ymdrechu i fod mor hyblyg â phosibl o dan amgylchiadau o'r fath.

Mae gan y Brifysgol a dod yn rhiant tra byddwch chi wedi ymrestru ar raglen astudiaethau ac mae’n cynnwys set o nodiadau canllaw.

Meithrinfa Ysgolheigion Bach

Meithrinfa Ysgolheigion Bach yw ein meithrinfa ar y campws sy'n croesawu plant myfyrwyr a staff rhwng deg wythnos a phum mlwydd oed.

Lle diogel, cefnogol, cynhwysol a sefydlog yw’r feithrinfa ond mae hefyd yn arloesi, yn ysgogi ac yn herio’r plant. Yma, mae pob plentyn yn gallu ffynnu, dysgu a gwneud ffrindiau newydd.

Rhagor o wybodaeth am Feithrinfa Ysgolheigion Bach

Gofal plant wedi ei ariannu gan y Llywodraeth

Gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth ar gyfer plant 3-4 oed

Mae’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn rhoi hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i blant 3 a 4 oed am 48 wythnos y flwyddyn.

Roedd y gallu i elwa ar addysg gynnar y cynnig yn un cyffredinol ond roedd gofal plant ond yn gymwys i rieni sy'n gweithio. Cyhoeddwyd bod y Cynnig wedi cael ei ymestyn o fis Medi 2022 sy’n golygu y bydd rhieni mewn addysg a hyfforddiant yn gallu elwa ar yr oriau ychwanegol o ofal plant a ariennir.

Cymorth ariannol ychwanegol

Efallai y bydd cyllid ychwanegol ar gael i fyfyrwyr â phlant drwy eich corff cyllido (Cyllid Myfyrwyr, Gwasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr y GIG). Gwneir prawf modd yn seiliedig ar incwm yr aelwyd ar gyfer y cyllid hwn. Hwyrach y bydd yn cynnwys lwfansau a chymorth ychwanegol tuag at gostau gofal plant. Cysylltwch â’ch corff ariannu i gael rhagor o fanylion.

Gall y Tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr, sy’n rhan o Fywyd Myfyrwyr, weithio gyda chi i sicrhau eich bod yn cael yr holl gyllid rydych chi’n gymwys i’w hawlio gan eich corff ariannu a budd-daliadau lles.

Os bydd arnoch chi angen cyngor neu wybodaeth ynghylch sut bydd bod yn rhiant yn effeithio ar eich astudiaethau, gallwch chi gysylltu â’r Tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr i drafod opsiynau megis rhoi gwybod am amgylchiadau esgusodol neu hyd yn oed wneud cais am saib yn eich astudiaethau. Os byddwch chi’n chwilio am gymorth i ddod o hyd i ofal plant neu ysgol wrth symud i’r ardal, gall y tîm estyn cymorth hefyd, a’ch cyfeirio ymlaen at wasanaethau a sefydliadau eraill.

Cysylltu â ni

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr

Bywyd Myfyrwyr

Fel yn achos unrhyw fyfyriwr cofrestredig ym Mhrifysgol Caerdydd, gallwch chi ddefnyddio’r holl wasanaethau eraill sy’n rhan o Fywyd Myfyrwyr megis y Gwasanaeth Cwnsela, Iechyd a Lles, y Gwasanaeth Anabledd i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.

Cysylltu â ni

Cyswllt Myfyrwyr