Seicoleg (MSc)
- Hyd: 1 flwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Cwrs trosi
Cwrs trosi yw hwn. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol na gradd benodol i'w astudio, ond bydd angen i chi ddangos diddordeb a dealltwriaeth o'r pwnc.
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn

Bydd y rhaglen drawsnewid achrededig BPS hon yn rhoi'r sgiliau angenrheidiol i chi ddechrau gyrfa ym maes seicoleg ar ôl cwblhau gradd israddedig neu lwybr gyrfa nad yw'n gysylltiedig â'r maes.
Achredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)
Mae’r achrediad hwn yn dangos bod y rhaglen hon yn bodloni’r safonau ansawdd uchel ar gyfer addysg a amlinellir gan y Gymdeithas.
Lleoliad seicoleg proffesiynol
Mae’r rhaglen hon yn cynnwys lleoliad 12 wythnos sy’n eich galluogi i weithio gyda seicolegwyr proffesiynol mewn clinig, sefydliad neu labordy ymchwil.
Y posibilrwydd o gyflymu eich gyrfa ym maes seicoleg ar ôl cyflawni gradd amherthnasol
Mae’r rhaglen hon yn eich galluogi i astudio MSc mewn Seicoleg ar ôl cwblhau gradd israddedig amherthnasol.
Seicoleg yw'r astudiaeth systematig a gwyddonol o greadigaethau mwyaf cymhleth a diddorol natur - y meddwl dynol. Mae'n archwilio rhai o gwestiynau mwyaf y ddynoliaeth ac yn ceisio deall ymddygiad a sut mae'r meddwl yn gweithio.
Ar y rhaglen hon sy’n para blwyddyn, cewch yr holl sgiliau angenrheidiol i ddod yn seicolegydd. Byddwch yn astudio seicoleg o safbwynt gwyddonol, gyda phwyslais ar ei hagweddau cymdeithasol, gwybyddol a biolegol, wrth ddatblygu eich sgiliau ymchwilio meintiol ac ansoddol. Mae'r rhaglen yn gwrs trosi felly ni fydd angen unrhyw wybodaeth flaenorol arnoch am seicoleg i wneud cais.
Mae’r addysgu’n cael ei arwain gan ymchwil, sy'n golygu y byddwch yn cael eich addysgu gan seicolegwyr sydd wedi cyflawni datblygiadau sylweddol mewn gwybodaeth a gwelliannau mewn ansawdd bywyd ledled y byd.
Mae'r rhaglen hon yn cael ei hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS). Os byddwch yn llwyddo i gwblhau, byddwch yn gymwys am Aelodaeth Siartredig i Raddedigion o Gymdeithas Seicolegol Prydain.
Achrediadau
The course is accredited by the British Psychological Society and so offers a way into careers in psychology that require BPS registration. Therefore, the course will be beneficial to those already working in psychology-informed fields or who already have some knowledge of psychology but who wish to pursue a career that requires BPS registration. However, it can also provide a first step into psychology for motivated and high achieving graduates without a background in psychology.

Cefais amser wrth fy modd ar y cwrs MSc Seicoleg. Roedd y pynciau yr oeddem yn eu hastudio yn hynod ddiddorol, ac roedd y staff bob amser wrth law i helpu. Rhoddodd y sgiliau a enillais ar y cwrs gyfle i mi fynd ymlaen i wneud PhD; cyfle na fyddwn wedi'i gael fel arall. Rwy'n wirioneddol argymell y cwrs hwn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn seicoleg ac sydd eisiau deall, mewn rhagor o ddyfnder, sut mae'r meddwl dynol yn gweithio.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Seicoleg
Dewch i astudio mewn amgylchedd dysgu deinamig sy’n ysgogi, wedi'i lywio gan ein gwaith ymchwil blaenllaw ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.
Meini prawf derbyn
Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol, a'ch cefnogi gyda newid gyrfa. Nid oes angen gwybodaeth na gradd flaenorol yn y pwnc.
Academic requirements:
Typically, you will need to have:
- a 2:1 Honours degree or Merit at Masters level, or international equivalent, and
- Maths at a level equivalent to at least a grade C/4 at GCSE, demonstrable with formal qualifications or professional/degree experience.
Other essential requirements:
You will also need to provide a personal statement that is relevant to your application. Please supply your statement as a PDF (500 words) and include the following questions as headings:
- How has psychology played a role in your work or studies? (200 words)
- How do you know that psychology is the right degree for you? (150 words)
- What do you wish to achieve with your MSc in Psychology? (150 words)
Within your answers to the questions please give details of or explain:
- Any courses/modules on psychological issues you have completed or any books that you have read on psychology that you have found particularly interesting;
- Whether you have been involved in a psychologically informed or psychologically related role either in a paid or voluntary way (e.g. teaching, counselling, support work);
- How you have observed the impact of or potential of psychology within that role;
- And how you intend to use the knowledge of psychology in your future career.
English Language Requirements:
IELTS with an overall score of 7.0 with 6.5 in all subskills, or equivalent.
Application deadline:
This programme has a limited number of places. If you submit a completed application by 31 January and meet the entry requirements you will be guaranteed consideration for the programme.
Selection process:
Places on the course are competitive and preference will be given to candidates deemed most likely to succeed on the course and benefit from it. Evidence for the potential to do well on the course will be taken from previous qualifications and the personal statement which should indicate the candidate’s previous experience of psychology or evidence of an interest in Psychology.
Only complete applications that are received before 31 January will be given guaranteed consideration. Applications will be scored based on the criteria listed above and offers will be made to the highest scoring applicants after the initial application deadline.
If you submit an application after the 31 January deadline, or if your application is deemed incomplete, you application may be considered at a later date should there be places available on the programme.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Cwrs amser llawn, blwyddyn o hyd yw hwn, sy’n dechrau yn yr hydref. Byddwch yn cyflawni cyrsiau a addysgir yn ystod y ddau semester cyntaf. Yn y semester olaf (yr haf), byddwch yn mynd ar leoliad ac yn gwneud traethawd hir.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Yn y semester cyntaf, byddwch yn dysgu am graidd academaidd Seicoleg, fel seicoleg annormal, seicoleg ddatblygiadol, a seicoleg gymdeithasol. Yn yr ail semester, byddwch yn cwblhau eich hyfforddiant sylfaenol ac yn cynnal eich prosiect ymchwil newydd eich hun. Yn ystod misoedd yr haf, byddwch yn ymgymryd â lleoliad proffesiynol 12-wythnos lle byddwch yn profi bywyd fel seicolegydd proffesiynol ac yn dysgu’r sgiliau sy’n gysylltiedig â hynny.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cognitive and Social Psychology | PST720 | 20 credydau |
Research Methods | PST722 | 20 credydau |
Research Project | PST723 | 60 credydau |
Biological Psychology and Individual Differences | PST724 | 20 credydau |
Developmental and Clinical Psychology | PST726 | 20 credydau |
Placement | PST725 | 40 credydau |
Placement | PST725 | 40 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae ein dulliau addysgu yn cael eu llywio’n helaeth gan ein hymchwil o safon fyd-eang ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd â pherthnasedd ymarferol. Mae ein cyfadran, sydd o fri rhyngwladol, yn cynnwys academyddion sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth yn eu maes. Maen nhw’n dod â’r gwersi maen nhw wedi eu dysgu o’u hymchwil ddiweddaraf i’r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am seicoleg a chynnig enghreifftiau a senarios cyfredol, go iawn.
Mae'r rhan fwyaf o’r modiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, addysgu mewn grwpiau bach (seminarau a thiwtorialau) a sesiynau ymarferol. Mewn darlith, bydd y darlithydd yn rhoi trosolwg o agwedd benodol ar gynnwys y modiwl (yn ogystal â chyfleoedd i chi ofyn cwestiynau a bod yn fyfyriol). Caiff darlithoedd eu recordio a byddan nhw ar gael yn fuan ar ôl eu traddodi i helpu gydag eglurder a dealltwriaeth o'r pwnc. Mewn seminarau a thiwtorialau cewch gyfle i drafod syniadau, cymhwyso cysyniadau a chyfnerthu eich dealltwriaeth yn y pwnc. Mewn sesiynau ymarferol, byddwch yn gallu cymhwyso'r technegau a'r theori rydych chi wedi dysgu amdanyn nhw a chael profiad o gynnal arbrofion.
Bydd modiwl y lleoliad, a gwblheir dros yr haf, yn cynnwys dysgu trwy brofiad (hyfforddiant ""yn y gwaith""). Byddwch yn ennill sgiliau a gwybodaeth trwy weithio'n agos gyda seicolegydd proffesiynol.
Sut y caf fy asesu?
Mae'r dulliau asesu'n amrywio o un modiwl i’r llall ond, ar draws cynllun y radd yn gyffredinol, gallwch ddisgwyl cymysgedd o arholiadau, gwaith cwrs, traethodau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau, prosiectau unigol ac mewn grŵp, a phortffolio myfyriol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Byddwch yn cael tiwtor personol ar ddechrau eich astudiaethau. Fel arfer, bydd eich tiwtor personol yn addysgu ar eich cwrs gradd chi a byddwch yn cadw’r un tiwtor personol drwy gydol eich cwrs.
Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd, gan gynnwys dewis modiwlau ac asesu. Os cewch unrhyw broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf bob tro. Bydd eich tiwtor yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â’r ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer myfyrwyr sy’n cael eu darparu gan y Brifysgol, ac Undeb y Myfyrwyr, fel y bo'n briodol. Bydd gofyn i chi gyfarfod â’ch tiwtor personol dair gwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd, ond fe’ch anogir hefyd i gysylltu â’ch tiwtor personol ar unrhyw adeg arall os oes angen help neu gyngor arnoch chi.
I gael gwybodaeth gyffredinol, mae staff cefnogaeth Academaidd Broffesiynol ein Hyb Myfyrwyr Ôl-raddedig ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu drwy e-bost, rhwng 8am a 6pm bob dydd o'r wythnos yn ystod y tymor i ateb eich cwestiynau.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Bydd y cwrs hwn yn dysgu ystod o sgiliau i chi sy'n ddefnyddiol ar gyfer gyrfa mewn seicoleg. Byddwch yn dysgu am feysydd craidd seicoleg, fel Seicoleg Glinigol a Datblygiadol, a hefyd sut i arfarnu theorïau seicolegol yn feirniadol yn y meysydd hynny. Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau ymarferol fel sut i ddylunio arbrawf, casglu, dadansoddi a dehongli ystod o ddata ymddygiadol cymhleth, a sut i gyflwyno a chyfleu eich gwaith. Yn ystod eich lleoliad byddwch yn dysgu sut i roi'r sgiliau hynny ar waith.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £11,700 | £2,000 |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £25,450 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Nid oes unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig â rhan academaidd y cwrs. Ond, os byddwch yn dewis mynd ar leoliad mewn tref wahanol efallai y byddwch yn wynebu costau byw neu deithio ychwanegol o gymharu â phe baech yn aros yng Nghaerdydd.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Gall gradd mewn seicoleg ddarparu amrywiaeth o opsiynau gyrfaol i chi a chaiff seicolegwyr eu cyflogi ar raddfa gynyddol eang mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys iechyd meddwl, ffactorau dynol, busnes ac addysg.
Mae cyflogwyr yn ffafrio graddedigion seicoleg oherwydd eu set sgiliau eang. Mae gradd mewn seicoleg yn adlewyrchu addysg prifysgol sydd nid yn unig yn datblygu sgiliau dadansoddol, meddwl beirniadol a llythrennedd ond hefyd sgiliau rhifedd a meintiol.
Lleoliadau
Byddwch yn mynd ar leoliad 12 wythnos yn Semester 3 (haf) lle cewch gyfle i weithio gyda seicolegwyr proffesiynol mewn clinig, labordy ymchwil neu sefydliad. Bydd hyn yn eich galluogi i roi'r sgiliau a'r wybodaeth rydych chi wedi'u datblygu yn y ddau semester cyntaf ar waith mewn lleoliad proffesiynol.
Bydd y lleoliadau ar yr MSc hwn yn debyg i'r rhai sydd i’w cael ar y rhaglen israddedig. Dyma rai enghreifftiau o leoliadau y mae ein myfyrwyr israddedig wedi bod arnyn nhw:
- Cynorthwy-ydd Ymchwil, Ysbyty Broadmoor;
- Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA), Cymorth i Fenywod Caerdydd;
- Hyfforddai Ymchwil, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi;
- Intern ymchwil yn adran cyfryngau, cyfathrebu a hysbysebu Ipsos MORI, Llundain (asiantaeth ymchwil i'r farchnad);
- Cynorthwy-ydd Gwerthu, Lenovo;
- Cynorthwy-ydd Ymchwil, Canolfan Datblygiad yr Ymennydd a Gwybyddol yng Ngholeg Birkbeck (Prifysgol Llundain).
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2022.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Psychology
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.