Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau

MRI

Mae ein cyfleusterau’n cynnig cyfleoedd unigryw ar gyfer cynnal astudiaethau ategol a chydweithredol ar draws methodolegau i fynd i’r afael â chwestiynau ymchwil newydd.

Nodwedd ragorol o ymgais wyddonol ein Hysgol yw’r defnydd o ystod eang o dechnegau methodolegol i fynd i’r afael â chwestiynau ymchwil newydd. I hwyluso hyn, mae modd i ymchwilwyr ddefnyddio cyfleusterau o’r radd flaenaf, sy’n cynnig cyfleoedd unigryw ar gyfer cydweithio ar draws grwpiau a chynnal astudiaethau ategol ar draws methodolegau.

Mae gennym dros 1,100 metr sgwâr o fannau labordy a gynlluniwyd yn bwrpasol ar gyfer cynnal arbrofion ymddygiadol, seicoffisegol ac olrhain y llygaid ac mae modd i ymchwilwyr ddefnyddio ein labordai canfyddiad gweledol a sain.

Bydd modd hefyd i bob myfyriwr ac ymchwilydd ddefnyddio ein hystafell gyfrifiaduron pwrpasol ac ystafelloedd seminarau rhyngweithiol.

Rhagor o wybodaeth am ein cyfleusterau ar gyfer disgyblaethau ymchwil penodol.

Clinical Psychology

Niwrowyddoniaeth weledol

Mae ein labordai ymchwil yn meddu ar y cyfleusterau diweddaraf i fynd i'r afael â chwestiynau allweddol ym meysydd niwrowyddoniaeth sylfaenol a chlinigol.

School of psychology 2

Delweddu'r ymennydd

Mae Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd yn gartref i gyfuniad o offer niwroddelweddu sy’n unigryw yn Ewrop, ac mae’n cynnwys sganiwr MRI sydd yn un o dri yn y byd.

Canolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriant-Dynol

Amdanom ni

Rydym yn enwog yn rhyngwladol am ymchwil drawsnewidiol, cydweithio’n agos â'r sector diwydiannol a chyhoeddus, ac am gyflwyno atebion cynaliadwy mewn modd effeithiol.

Rydym ni’n canolbwyntio ein hymchwil ar lawer o sectorau o bwysigrwydd strategol i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r byd ehangach, gan gynnwys gweithgynhyrchu digidol uchel ei werth, awyrofod, cerbydau awtomatig, gofal iechyd a heriau cymdeithasol fel cynaliadwyedd a heneiddio’n iach.

Ategir ein dull gan gydweithio agos â'n rhanddeiliaid o'r sectorau preifat a chyhoeddus ac mae wedi’i alinio â dyheadau sefydliadol, masnachol a chyhoeddus am ddefnydd a thegwch cydweithio agos rhwng bodau dynol a robotiaid.

Mae ein canolfan ryngddisgyblaethol yn adeiladu ar ragoriaeth ymchwil tair o Ysgolion academaidd Prifysgol Caerdydd, sy'n enwog yn rhyngwladol:

Drwy gynnull yr arbenigedd cyfunol hwn dan un faner, gallwn fanteisio’n llawn ar arbenigedd ymchwil drwy synergedd, gan sbarduno arloesedd fydd yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau pwysicaf i gymdeithas.

Ein gweledigaeth

Byd sy’n canolbwyntio ar bobl, yn rhyngweithiol, yn gydgysylltiedig, yn gyfoethog o ran data, yn ddwys ei wybodaeth ac yn glyfar.

Ein cenhadaeth

Yn y Ganolfan ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriant-Dynol (IROHMS) byddwn ni’n darparu arweinyddiaeth ymchwil, gan ddwyn ynghyd màs critigol o ymchwilwyr a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn ogystal â chyfleusterau o’r radd flaenaf. Byddwn ni’n cyflawni rhaglen uchelgeisiol o ymchwil drawsnewidiol ar lefel parodrwydd technoleg (TRL) 1–4. Byddwn ni hefyd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddiffinio agenda ymchwil y dyfodol.

IROHMS Image 8

Ein harianwyr

Caiff IROHMS ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

Centre for Artificial Intelligence, Robotics and Human-Machine Systems

Ymchwil

Rydym ni’n darparu amgylchedd ymchwil o safon fyd-eang sy’n hwyluso ymchwil arloesol gyda manteision i’r gymdeithas a’r economi.

Blaenoriaethau ymchwil

Mae ein canolfan mewn sefyllfa unigryw i dargedu cyfleoedd newydd sy’n dod i’r amlwg ar y croestoriad rhwng deallusrwydd artiffisial (AI), roboteg a systemau peiriant-dynol. Ein huchelgais yw datblygu gwybodaeth sylfaenol a chymhwysol ac i hyfforddi arbenigwyr y dyfodol mewn meysydd amlddisgyblaethol heriol fel cyfrifiadura seiliedig ar bobl, roboteg seiliedig ar bobl, deallusrwydd artiffisial tebyg i bobl, deallusrwydd artiffisial esboniadwy, cyfrifiadura affeithiol ac ymreolaeth y gellir ymddiried ynddo.

Mae ein diddordeb yn canolbwyntio ar archwilio problemau ymchwil anodd ar y croestoriad rhwng ymddygiad dynol a thechnoleg fel rhyngweithio greddfol, dryswch, chwilfrydedd, dychymyg a chreadigrwydd. Rydym ni’n canolbwyntio ar ddatblygu dulliau newydd ar gyfer astudio rhyngweithio peiriant-dynol, canfyddiad amser real cywir, lleoleiddio pobl a gwrthrychau lluosog a phrosesu a rheoli amlsynhwyraidd.

Abstract digital theme

Themâu ymchwil

Rydym ni wedi sefydlu thema ymchwil sy'n cwmpasu sbectrwm eang o flaenoriaethau. Mae pob thema ymchwil yn cynnwys tîm rhyngddisgyblaethol o academyddion gydag arbenigedd yn y meysydd hyn, sy'n ffurfio grwpiau i ymdrin yn gydweithredol â heriau o bwysigrwydd strategol:

Deallusrwydd artiffisial tebyg i berson

  • Cyfrifiadura affeithiol.
  • Gwybyddiaeth estynedig.
  • Semanteg gyfrifiadurol.
  • Rhesymu cyd-destunol.

Deallusrwydd artiffisial moesegol ac esboniadwy

  • Deallusrwydd artiffisial moesegol.
  • Deallusrwydd artiffisial esboniadwy.
  • Roboteg esboniadol.
  • Ymreolaeth gydag ymddiriedaeth.

Technolegau a chymdeithas yn seiliedig ar bobl

  • Cyfrifiadura'n seiliedig ar bobl.
  • Seiber ddiogelwch yn seiliedig ar bobl.
  • Technoleg a chymdeithas sy'n dod i'r amlwg.

Pobl a robotiaid

  • Roboteg yn seiliedig ar bobl.
  • Roboteg gymdeithasol.
  • Canfyddiad/dysgu robot.

Gweithio gyda randdeiliaid

Cawsom ein sefydlu gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid. Rydym ni’n croesawu ac yn annog cyfleoedd newydd i gydweithio â’r diwydiant, addysg uwch, y cyhoedd a'r trydydd sector.

Rydym ni’n cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd ymgysylltu i randdeiliaid allanol sy’n ymddiddori ym meysydd rhyngddisgyblaethol deallusrwydd artiffisial, roboteg a systemau peiriant-dynol gan gynnwys:

  • aelodaeth ar Fforwm Rhanddeiliaid IROHMS
  • adolygydd cymheiriaid
  • cynllun mentoriaid/mentoreion
  • cydweithredwr ar brosiectau ymchwil a datblygu
  • gwasanaethau/ymgynghoriaeth
  • nawdd ôl-raddedig (Meistr neu PhD)
  • datblygiad proffesiynol parhaus
  • lleoliadau myfyrwyr israddedig
  • rhwydweithio a phresenoldeb mewn digwyddiadau
  • partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth
  • mynediad at gyfleusterau/ymchwilwyr/data heb fod yn sensitif
  • darlithoedd gwadd.

Partneriaid

Centre for Artificial Intelligence, Robotics and Human-Machine Systems