Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifiadureg Uwch gyda Blwyddyn o Leoliad Gwaith Proffesiynol (MSc)

  • Hyd: 2 flynedd
  • Dull astudio: Amser llawn gyda blwyddyn ryngosod

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae’r rhaglen 'gyda blwyddyn ar leoliad gwaith proffesiynol' yn gyfle i fyfyrwyr ymgymryd â phrofiad 7-10 mis fel gweithiwr proffesiynol TG os ydynt yn llwyddo i ddod o hyd i leoliad addas.

Bydd yr MSc Cyfrifiadureg Uwch gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol yn cynnig cyflwyniad i chi i bynciau allweddol sy'n sbarduno datblygiadau a thueddiadau technolegol sy'n dod i'r amlwg.

Cyfrifiadureg yw un o’r disgyblaethau academaidd sy’n symud gyflymaf, ac mae canlyniadau’r gwaith ymchwil ac arloesedd yn y maes hwn yn debygol o gael effaith sylweddol ar gymdeithas.

Mae'r pwnc yn cynnwys pob agwedd ar fywyd modern, ac mae’r rhaglen hon yn cynnig y cyfle i ddefnyddio sgiliau newydd a thechnegau uwch yn y maes o’ch dewis, ac yn eich caniatáu i ddangos eich bod ar flaen y gad yn eich disgyblaeth ar yr un pryd.

Rhan greiddiol o’r rhaglen hon yw'r cyfle i ddatblygu cwmpas eich sgiliau datrys problemau ymhellach drwy astudio ieithoedd rhaglennu uwch a pharadeimau rhaglennu, ac i ennill gwybodaeth a sgiliau ar draws ystod eang o bynciau mewn Cyfrifiadureg.

Byddwch yn dewis astudio modiwlau dewisol a arweinir gan ymchwil sy’n rhoi rhyddid i chi adeiladu portffolio personol unigryw o sgiliau a gwybodaeth.

Mae hon yn rhaglen radd Meistr arbenigol a fydd yn gofyn am sgiliau technegol, mathemategol a rhaglennu cryf o ddiwrnod cyntaf y cwrs.

Byddwch yn gwneud cais am leoliad gwaith proffesiynol 7-12 mis â thâl, ar ôl cwblhau'r elfen o'r rhaglen a addysgir. Bydd hyn yn darparu profiad gwaith gwerthfawr i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol ym maes TG.

Nodweddion unigryw

The distinctive features of this course include:

  • A degree designed for computing graduates who wish to differentiate themselves further through an advanced mastery of the discipline.
  • In addition to coverage of core advanced computer science topics, you may select from a range of research topics in which to specialise (
  • The opportunity to undertake a paid professional work placement to further develop your IT skills
  • You will undertake an individual research project and complete a dissertation under the supervision of a member of academic research staff. The topic for this will be driven by your own interests.
  • You will be provided with a laptop during induction week that will remain with you throughout the duration of the course.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Ein hymchwil amlddisgyblaeth sy'n rhoi ffurf i'n rhaglenni gradd, ac yn eu gwneud yn berthnasol i gyflogwyr heddiw, gan eu gosod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ddatblygiadau yfory.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol fel cyfrifiadureg, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Byddwch yn astudio modiwlau a addysgir a ddaw i gyfanswm o 120 o gredydau yn ystod cam Diploma eich gradd. Mae’r holl fodiwlau a addysgir yn werth 20 credyd

Byddwch yn mynd ar leoliad yn dilyn cam a addysgir y cwrs a chyn dechrau gweithio ar eich prosiect a’ch traethawd hir unigol. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dechrau eu lleoliad yn ystod tymor yr haf eu blwyddyn gyntaf

Prosiect unigol (gwerth 60 credyd) fydd cam Meistr eich gradd, a byddwch yn ei ysgrifennu ar ffurf traethawd hir, ar ôl y cam Diploma. Cyflawnir y prosiect hwn yn ystod yr haf, o dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd.

Mae hwn yn gwrs amser llawn sy’n cael ei ddilyn dros ddwy flynedd academaidd. Mae hefyd ar gael fel cwrs amser llawn dros flwyddyn neu gwrs rhan-amser dros dair blynedd, y ddau heb leoliad.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Byddwch yn cymryd un modiwl 20-credyd gorfodol ar baradeimau rhaglennu a fydd yn rhoi profiad i chi o ddyfnder ac ehangder sgiliau rhaglennu. Byddwch yn cael arweiniad i ddewis pump o blith ystod o fodiwlau a ddewiswyd yn ofalus. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar bynciau cyfoes a pherthnasol sy’n dod i’r amlwg yn y ddisgyblaeth.

Blwyddyn dau

Bydd eich lleoliad gwaith fel arfer yn para rhwng 7 a 12 mis, a bydd fel arfer yn digwydd ar ddiwedd cyfnod addysgedig y cwrs, cyn eich traethawd hir terfynol, gan eich galluogi i ymarfer y sgiliau newydd rydych wedi'u datblygu a chymhwyso'r wybodaeth rydych wedi'i dysgu, yn y gweithle.

Byddwch yn dychwelyd i’r Brifysgol ar ôl cwblhau eich lleoliad gwaith yn llwyddiannus ar ddechrau Haf y flwyddyn ganlynol er mwyn cynnal eich prosiect unigol a chwblhau eich traethawd hir, gyda’r nod o orffen y cwrs o fewn 24 mis o gael eich derbyn.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
LleoliadCMT305120 credydau
Traethawd hirCMT40060 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ddiwylliant ymchwil cryf a gweithredol sy'n llywio ac yn arwain ein haddysgu. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu addysgu o'r safon uchaf.

Cyflwynir modiwlau drwy gyfres o naill ai sesiynau cyswllt diwrnod llawn neu hanner diwrnod, sy’n cynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a dosbarthiadau yn y labordy.

Bydd gan y rhan fwyaf o'ch modiwlau a addysgir wybodaeth bellach i chi ei hastudio a bydd disgwyl i chi weithio drwy hyn yn eich amser eich hun, yn unol â'r arweiniad gan y darlithydd ar gyfer y modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?

Asesir y modiwlau drwy gyfrwng gwaith cwrs neu arholiadau, neu gyfuniad o’r ddau.

Adborth:

Gallai adborth ar waith cwrs gael ei roi ar ffurf sylwadau ysgrifenedig ar waith a gyflwynir; atebion ""enghreifftiol"" a/neu drafodaeth mewn sesiynau cyswllt.

Sut y caf fy nghefnogi?

Rydyn ni’n ymfalchïo mewn darparu amgylchedd cefnogol lle gallwn helpu ac annog ein myfyrwyr.

Dyrennir Tiwtor Personol i chi ar ddechrau eich cwrs, sy’n aelod o staff academaidd yn yr Ysgol ac sy’n gweithio fel pwynt cyswllt er mwyn rhoi cyngor am faterion academaidd yn ogystal â phersonol mewn ffordd anffurfiol a chyfrinachol. Bydd eich Tiwtor Personol yn monitro eich cynnydd drwy gydol eich cyfnod yn y Brifysgol ac yn eich cefnogi yn eich Cynllun Datblygiad Personol.

Y tu allan i’r sesiynau a drefnir gyda’ch tiwtor, gweithredir polisi drws agored gan yr Uwch-diwtor Personol, ac mae ar gael i roi cyngor ac ymateb i unrhyw faterion personol wrth iddyn nhw godi.

Yn ystod eich blwyddyn ar leoliad byddwch yn parhau i gael eich cefnogi gan yr Ysgol, gyda goruchwyliwr lleoliad wedi'i neilltuo i chi drwy gydol eich lleoliad, a bydd tîm lleoliadau’r Ysgol yn parhau i gyfathrebu â chi.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • dealltwriaeth o'r ystod eang o gysyniadau, egwyddorion a theorïau sy'n sail i gyfrifiadureg uwch
  • dealltwriaeth o'r dulliau, y technegau a'r offer sydd ar gael i bennu, dylunio, gweithredu a rheoli systemau cyfrifiadurol
  • dealltwriaeth o sut cynrychiolir data ar ffurfiau strwythuredig a'i gydadwaith â gweithredu algorithmau
  • ymwybyddiaeth feirniadol o'r tueddiadau cyfredol mewn meysydd ymchwil dethol o gyfrifiadureg, a'r gallu i drafod eu cyfraniad at ddatblygu systemau cyfrifiadurol

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • meistrolaeth ar y methodolegau ymarferol ym meysydd allweddol cyfrifiadura; eu cymhwyso i feysydd datblygu meddalwedd sydd wedi'u hen sefydlu a'u defnyddio mewn meysydd cymhwyso arbenigol dethol
  • y gallu i ddadansoddi problemau cyfrifiadurol yn wrthrychol a datblygu atebion creadigol, priodol
  • y gallu i fodelu senarios cymhleth i ddylunio systemau cyfrifiadurol sy'n bodloni'r gofynion a nodwyd
  • gwerthfawrogiad o sut mae sgiliau a chysyniadau a gaiff sylw yn y radd yn cael eu gweithredu a'u defnyddio o fewn diwydiant

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • ymwybyddiaeth o faterion proffesiynol, cyfreithiol, cymdeithasol, diwylliannol a moesegol sy'n codi wrth weithredu systemau cyfrifiadurol presennol ac yn y dyfodol ac ymwybyddiaeth o effaith gymdeithasol ac amgylcheddol
  • y gallu i fynd ar drywydd cyfleoedd i ddatblygu gyrfaoedd a dysgu gydol oes a gwerthfawrogi pwysigrwydd ymwybyddiaeth fasnachol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • y gallu i adolygu’r llenyddiaeth yn feirniadol yn ogystal â chyfleu syniadau, egwyddorion a theorïau yn effeithiol trwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac electronig
  • y gallu i weithio'n effeithiol fel aelod o dîm neu arweinydd mewn tîm ac fel unigolyn
  • y gallu i ddefnyddio ystod o systemau TG yn effeithiol

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £30,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Bydd angen i chi dalu costau teithio i safle cyflogwr eich lleoliad a/neu lety yn ystod eich lleoliad ac oddi yno. Ond mae hyn fel arfer yn cael ei wrthbwyso gan yr incwm o'ch lleoliad â thâl.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Bydd graddedigion o’r cwrs hwn mewn sefyllfa ddelfrydol i ddilyn nifer o yrfaoedd, megis penseiri systemau, rhaglenwyr a datblygwyr meddalwedd, a gallant hefyd ddilyn gyrfa ymchwil trwy astudiaethau doethurol.

Nod y dewis o fodiwlau a gynigir yw gwella eich sgiliau trosglwyddadwy a hybu rhagolygon cyflogaeth.

Lleoliadau

Byddwch yn gwneud cais am leoliad gwaith proffesiynol 7-12 mis â thâl, y byddwch yn ymgymryd ag ef ar ôl cwblhau cam a addysgir y rhaglen.

Er y byddwch yn gyfrifol am ddod o hyd i'ch lleoliad eich hun, bydd yr Ysgol yn rhoi cyngor ar wneud cais am leoliadau, yn eich hysbysu’n rheolaidd am amrywiaeth o gyfleoedd, ac yn sicrhau eich bod yn derbyn cymorth ac arweiniad drwy gydol y broses gyfan gan ein swyddog cymorth lleoliadau pwrpasol. Os na allwch sicrhau lleoliad, byddwch yn cael eich trosglwyddo i'r fersiwn o'r rhaglen nad yw lleoliad yn rhan ohoni.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Cyfrifiadureg


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.