Cydnabyddiaeth a gwobrau
Mae’r gwobrau arbennig y mae ein staff wedi’u derbyn yn egluro pam maent yn uchel iawn eu parch.
Mae ein staff wedi derbyn sawl gwobr:
Yn 2021, gwnaeth y Grŵp Ymchwil Weithredol sy’n cael ei arwain gan Paul Harper dderbyn Medal Effaith Lyn Thomas gan y Gymdeithas Ymchwil Weithredol i gydnabod ei waith arloesol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Yn rhan o’r gwaith hwn, cafodd modelau mathemategol eu defnyddio i symleiddio prosesau sy'n amrywio o rai ar gyfer rhagweld galw i rai ar gyfer amserlennu llawdriniaeth.
Enillodd Anatoly Zhigljavsky Wobr Constantin Carathéodory 2019 am ei gyfraniadau oes at y maes optimeiddio byd-eang.
Yn 2019, Paul Harper oedd derbynnydd ieuengaf y Wobr Cydymaith Ymchwil Weithredol, am barhau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ymchwil weithredol a’i wasanaeth eithriadol i’r Gymdeithas Ymchwil Weithredol a’r gymuned ymchwil weithredol ehangach.
Mae Roger Behrend, ynghyd â’r cydawduron Ilse Fischer a Matjaz˘ Konvalinka, wedi ennill Gwobr Robbins 2019 Cymdeithas Fathemategol America am y papur ‘Diagonally and antidiagonally symmetric alternating sign matrices of odd order’ (Advances in Mathematics 315, 324-365 (2017)).
Enillodd Junyong Zhang Gymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie ar ôl sgorio 100%. Daeth yn gyntaf allan o’r holl ymgeiswyr mathemateg yn 2018.
Gwnaeth Owen Jones a Kirstin Strokorb, ynghyd â’r cydawdur Marie Ekström (Gwyddorau’r Ddaear), ennill Gwobr Mardia 2018 y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol i gefnogi eu gwaith rhyngddisgyblaethol ar dywydd eithafol.