Ewch i’r prif gynnwys

Diwylliant ymchwil

Mae'r Ysgol Mathemateg yn cefnogi diwylliant ymchwil bywiog lle mae ein staff a'n myfyrwyr yn cynnal ymchwil o'r ansawdd uchaf.

Rydym yn cynnal rhyddid academaidd cydweithwyr i fynd ar drywydd ymchwil a ysgogir gan ddiddordeb pur, p'un a yw hynny'n cynnwys pynciau a ystyrir yn draddodiadol yn fathemateg bur, neu ymchwil rhyngddisgyblaethol a chydweithredol i ddatrys rhai o'n heriau cymdeithasol ac economaidd mwyaf dybryd.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl staff a myfyrwyr yn cael eu cefnogi drwy ystod o bolisïau a chamau gweithredu sy'n rhoi amgylchedd cynhwysol a chyfle cyfartal iddynt lwyddo yn eu gyrfaoedd. Rydym yn falch o'n prosesau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb sydd wedi'u hymgorffori ym mhob agwedd ar weithgareddau ein Hysgol.

Rhaglen ymwelwyr nodedig

Mae gan yr Ysgol raglen sefydledig o gyfnewidiadau ac ymweliadau sy'n cynnwys cydweithwyr nodedig o bob cwr o'r byd. Rydym hefyd yn croesawu siaradwyr blaenllaw i gymryd rhan yn ein seminarau ac yn ein cynadleddau. Mae hyn yn helpu i wella ein diwylliant ymchwil ac yn creu amgylchedd ysbrydoledig i staff a myfyrwyr.

Cefnogi ein staff

Mae'r Ysgol yn darparu amrywiaeth o wahanol brosesau a gweithgareddau i sicrhau bod staff yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gymryd rhan mewn ymchwil o'r safon uchaf.

Rydym yn mentora ein staff ymchwil gyrfa gynnar i'w helpu i nodi cyllid, darparu enghreifftiau o gynigion llwyddiannus a defnyddio ein huwch-ymchwilwyr profiadol i roi cyngor ac arweiniad. Maent hefyd yn derbyn cyllid datblygu personol i'w galluogi i ddatblygu rhwydweithiau, i gymryd rhan mewn cyfnewidiadau â phrifysgolion eraill, a chydweithio ar gynigion ymchwil. Darperir cymorth ac arweiniad hefyd ar gyfer cael cyllid cymrodoriaeth ymchwil fel Cymrodoriaeth Marie Sklodowska-Curie, UKRI ac ERC.

Anogir yr holl staff i gymryd rhan mewn rhwydweithiau ymchwil ac ymgysylltu â chyrff ariannu.

Mae'r cyfle i gymryd absenoldeb astudio ar gael i'r holl staff academaidd ar ôl pum mlynedd o wasanaeth ac mae'r brifysgol yn darparu cyllid ar gyfer grantiau teithio ac addysgu newydd ar sail gystadleuol.

Cymorth i’n myfyrwyr ymchwil

Credwn mewn sicrhau bod gan ein myfyrwyr ymchwil y sgiliau technegol ac ymchwil angenrheidiol sydd eu hangen arnynt i ddilyn gyrfa lwyddiannus. I'r perwyl hwn, rydym yn darparu cyrsiau sy’n cael eu haddysgu i'n myfyrwyr fel rhan o Gonsortiwm MAGIC.

Fel myfyriwr, byddwch hefyd yn cael eich annog i fynychu cyfarfod blynyddol adrannau mathemateg o bob rhan o Gymru lle byddwch yn clywed siaradwyr allanol amlwg ac yn cymryd rhan mewn sesiynau paralel gan gyflwyno eich gwaith eich hun. Byddwch yn mynychu seminarau grŵp yn yr Ysgol a rhai a gefnogir gan yr Ysgol. Mae ein myfyrwyr wedi cychwyn drostynt eu hunain gyfres o seminarau, grwpiau darllen, a Fforwm Menywod mewn Addysg, sydd wedi bod o fudd wrth ddenu myfyrwyr benyw. Maent hefyd wedi datblygu gweithgareddau i annog myfyrwyr israddedig i ystyried manteision gyrfa ymchwil. Yn ogystal, maent yn rhedeg cangen weithredol o SIAM-IMA i fyfyrwyr.