Partneriaethau a chydweithio
Mae’r Ysgol Mathemateg yn cydweithio ag ystod eang o bartneriaid yn y diwydiant a byd busnes, sefydliadau yn y sector preifat a'r byd academaidd.
Partneriaid allanol
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid allanol i fynd i’r afael â nifer o heriau yn y diwydiant, mewn cymdeithas ac yn y byd busnes.
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Yr Athro Paul Harper, sy’n arwain ein Grŵp Ymchwil Weithredol, yw cyfarwyddwr academaidd partneriaeth strategol Prifysgol Caerdydd â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae nifer o'n hystadegwyr yn gweithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n cyllido swydd academaidd Dr Robin Mitra.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rydym wedi sefydlu perthynas ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi bod yn cynnal prosiectau i ni yn rhan o gyrsiau meistr ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys ariannu swyddi ôl-ddoethurol. Rydym yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar logisteg i sicrhau iechyd y cyhoedd.
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Rydym wedi cydweithio â nifer o fyrddau’r GIG yng Nghymru ers tro i gynnig atebion newydd i broblemau cymhleth sy’n ymwneud â rheoli’r galw am ofal iechyd. Datblygwyd ein platfform modelu E-YSBYTY ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a'r E-YSBYTY yw'r unig blatfform sy'n cyfuno lefelau penderfynu strategol, tactegol a gweithredol ym maes gofal iechyd mewn un lle. Mae ein Grŵp Ymchwil Weithredol wedi ennill gwobrau am ei waith gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac wedi bod yn gweithio gyda Thîm Rhagweld a Chynllunio Gwasanaeth Ambiwlans Llundain ers 2015.
Yn 2015, gwnaeth y GIG yng Nghymru gomisiynu’r Grŵp Ymchwil Weithredol i ddadansoddi data cenedlaethol Galw Iechyd Cymru a’r gwasanaeth y tu allan i oriau er mwyn modelu gwasanaeth 111 arfaethedig ar gyfer Cymru gyfan. Roedd ein gwaith yn hollbwysig wrth bennu lefelau staffio'r gwasanaeth a phroffil eu cymwysterau meddygol.
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori'n helaeth ag aelodau'r Ysgol, gan gynnwys Paul Harper, Katerina Kaouri, Thomas Wooley ac Anatoly Zhigljavsky, i lywio ei hymateb i bandemig COVID-19.
Partneriaid masnachol
Rydym yn gweithio gydag ystod o sefydliadau, gan gynnwys Admiral, BA, Critman, Ernst & Young, Lloyds, McLaren, Nationwide, Procter & Gamble, Smart Separations, SmithKline Beecham a Dŵr Cymru.
Y Bwrdd Cynghori Diwydiannol
Mae’r gwaith a wneir ar y cyd gan yr Ysgol, byd busnes a’r diwydiant yn cael ei wella drwy ryngweithio â phartneriaid diwydiannol ar y Bwrdd Cynghori Diwydiannol. Mae’r Bwrdd yn ein helpu drwy roi arweiniad a chyngor ar ein strategaeth ymchwil. Mae hefyd yn ein helpu i nodi cyfleoedd posibl i gydweithio â’r diwydiant. Ar y Bwrdd mae cynrychiolwyr cwmnïau a sefydliadau fel Admiral, BA, BT, Dyson, Ernst & Young, Lloyds, McLaren, Nationwide, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Tata Steel, Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.
Consortiwm Ewropeaidd ar gyfer Mathemateg mewn Diwydiant
Rydym wedi bod yn aelodau sefydliadol o’r Consortiwm Ewropeaidd ar gyfer Mathemateg mewn Diwydiant (ECMI) ers 2019.
Mae ECMI yn gonsortiwm o sefydliadau a chwmnïau academaidd sy'n gweithredu ar y cyd i hyrwyddo a chefnogi'r defnydd o fodelu, efelychu ac optimeiddio mathemategol mewn unrhyw weithgaredd o bwysigrwydd cymdeithasol neu economaidd, ar raddfa Ewropeaidd. Maent hefyd yn anelu at addysgu mathemategwyr diwydiannol i ateb y galw cynyddol am arbenigwyr o'r fath.
Mae Dr Katerina Kaouri yn aelod o Gyngor ECMI fel un o ddau aelod academaidd sydd wedi'u lleoli mewn sefydliadau yn y DU.
Cydweithio rhyngddisgyblaethol
Rydym yn gweithio gyda'n cydweithwyr ar draws y Brifysgol ar nifer o brosiectau rhyngddisgyblaethol, gan gynnwys Ysgol y Biowyddorau, Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd a'r Ysgol Busnes. O ran ymchwil, rydym hefyd yn cydweithio'n agos â'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, sy’n rhannu adeilad newydd y Brifysgol, Abacws, gyda ni. Rydym yn cydweithio ar ymchwil mewn meysydd sy’n cynnwys cyfuniadeg, optimeiddio, dadansoddi data a dysgu peiriannol. Bydd rhannu’r adeilad newydd gyda’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn hwyluso’r gwaith o ddatblygu’r Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data ymhellach, sy’n cael ei arwain gan y ddwy Ysgol ar y cyd.
Yn ogystal, rydym wedi sicrhau grant o €6.7m ar y cyd ag Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd i fynd i'r afael â gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd.