Mynediad cerdded i mewn i adnoddau electronig
Gall aelodau o'r cyhoedd a staff a myfyrwyr sydd ar ymweliad gael ymweliad at ddetholiad o'n hadnoddau electronig drwy gofrestru ar gyfer y gwasanaeth 'mynediad galw heibio i'n hadnoddau electronig.
Ar hyn o bryd, ni allwn gynnig y gwasanaeth Mynediad Cerdded i Mewn i Adnoddau Electronig, oherwydd y coronafeirws (COVID-19). Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan fydd y gwasanaeth ar gael.
Mae'r gwasanaeth ar gael ar derfynellau penodedig ym mhob llyfrgell Prifysgol Caerdydd. Gwiriwch trefniadau mynediad i bob llyfrgell ar ein tudalen lleoliadau ac oriau agor.
Cofrestru ar gyfer mynediad cerdded i mewn
Rhaid i chi gofrestru yn un o'r llyfrgelloedd sy'n rhan o’r gwasanaeth bob tro y byddwch yn ei ddefnyddio. I gofrestru, dewch ag un o'r mathau canlynol o brofion adnabod addas:
- cerdyn llyfrgell cyfredol aelod cyswllt o Brifysgol Caerdydd
- pasbort / cerdyn adnabod cenedlaethol yr UE
- trwydded yrru y Deyrnas Unedig
- cerdyn credyd neu ddebyd cyfredol
- bill cyfleustodau
- cerdyn neu lyfr budd-daliadau
- datganiad banc neu gerdyn credyd
- cerdyn adnabod myfyriwr neu gerdyn NUS
Mae’r gwasanaeth hwn yn gweithredu ar sail y cyntaf i’r felin. Ar y diwrnod pan fyddwch yn bwriadu ymweld, rydym yn argymell eich bod yn ffonio llyfrgell Prifysgol Caerdydd i wirio argaeledd.
Defnyddio'r terfynellau eAdnoddau
Pan fyddwch wedi cofrestru cewch gerdyn mynediad cerdded i mewn i eAdnoddau ar gyfer eich ymweliad cyfan:
- rhowch y cerdyn hwn i mewn i’r derfynell gyfrifiadurol bwrpasol i gael mynediad at y gwasanaeth (bydd staff y llyfrgell yn dangos i chi ble mae’r terfynellau cyfrifiadurol hyn)
- wedyn dylech fod yn gallu gweld y dudalen Croeso/Welcome
- Cliciwch ar y tab Adnoddau/Resources i gael mynediad at yr holl adnoddau sydd ar gael.
Cofiwch y gallwch chwilio am gynnwys oddi mewn i adnoddau unigol yn unig, nid ar draws y gwasanaeth cyfan.
Cofiwch, os gwelwch yn dda:
- i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, rhaid i chi gydymffurfio â’r rheoliadau hawlfraint a’n telerau ac amodau
- dim ond drwy un o'r terfynellau cyfrifiadurol pwrpasol yn y llyfrgelloedd sy'n rhan o’r gwasanaeth hwn y cewch fynediad i eAdnoddau
- gallwch chwilio oddi mewn i bob adnodd, ond nid ydym yn tanysgrifio i’r holl gynnwys ym mhob adnodd
- gellir tynnu mynediad i adnoddau penodol, neu fynediad at y gwasanaeth yn gyffredinol, yn ôl ar unrhyw adeg.
Ni chewch wneud y canlynol:
- defnyddio'r gwasanaeth at ddibenion masnachol neu fusnes
- e-bostio neu gadw canlyniadau unrhyw chwiliadau neu erthyglau
- cyrchu unrhyw safleoedd, meddalwedd neu gymwysiadau (megis Microsoft Office neu e-bost) sydd y tu allan i'r gwasanaeth hwn o’r derfynell hon.
Yr e-Adnoddau sydd ar gael
Rydym yn cynnig mynediad cerdded i mewn i nifer o wahanol adnoddau i aelodau o'r cyhoedd a staff a myfyrwyr sy'n ymweld. Mae hyn yn cynnwys adnoddau sy'n cynnwys nifer o bynciau (ee JSTOR, cronfeydd data Proquest a Ebscohost, SCOPUS, ScienceDirect) ac adnoddau yn cynnwys pynciau mwy penodol (ee The Royal Society of Chemistry's Journals, Books and Databases, UK Parlimentary Papers).