Ewch i’r prif gynnwys

Llythrennedd gwybodaeth

Mae llythreneddau digidol a gwybodaeth yn sail i’n dysgu, addysgu ac ymchwil.

Rydym yn galluogi staff, myfyrwyr ac ymchwilwyr i fanteisio ar dechnolegau newydd a chwilio, gwerthuso a defnyddio gwybodaeth yn effeithiol.

Mae llythreneddau digidol a gwybodaeth yn cefnogi pontio myfyrwyr drwy addysg uwch ac i’r gweithle, drwy eu galluogi i chwilio, trefnu, dadansoddi, gwerthuso, cyfathrebu, cyflwyno a rhannu gwybodaeth yn effeithiol.

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o adnoddau datblygu gwybodaeth a sgiliau llythrennedd gwybodaeth ddigidol a gwybodaeth i fyfyrwyr, staff a lle’n bosibl, y gymuned academaidd ehangach drwy Drwydded Comin Creu. Mae’r adnoddau ar gael drwy’r Gronfa Adnoddau Llythrennedd Gwybodaeth.

Ein nod yw integreiddio llythreneddau digidol a gwybodaeth o fewn y cwricwlwm academaidd. Fe wnawn hyn drwy ddarparu cefnogaeth i staff academaidd wrth ddatblygu eu cwricwla i gynnwys llythrennedd digidol a gwybodaeth a chyflwyno addysgu yn y maes fel rhan o dîm Addysgu modiwl.

Rydym hefyd yn cynnig gweithdai drwy Raglen yr Academi Ddoethurol.

Mae’r Gronfa Adnoddau Llythrennedd hefyd yn cynnwys cyfres o diwtorialau Gwerthuso Tystiolaeth. Wedi’i datblygu drwy ymgynghori ag athrawon mewn ysgolion lleol, mae’r tiwtorialau wedi’u dylunio i gefnogi Her Ddinasyddiaeth Fyd-eang Bagloriaeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth am lythreneddau digidol a gwybodaeth neu’r Gronfa Adnoddau Llythrennedd, cysylltwch â Rebecca Mogg.

Rebecca Mogg

Arweinydd addysg