Y cyhoedd
Mae croeso i'r cyhoedd ymweld â'n llyfrgelloedd ar y campws neu ymuno â hwy.
Gallwch ymweld â rhan fwyaf o'n llyfrgelloedd a phori drwy ein hadnoddau printiedig heb ymaelodi. Gwiriwch trefniadau mynediad i bob llyfrgell ar ein tudalen Lleoliadau ac oriau agor. Hefyd gallwch gyrchu rhai eAdnoddau trwy ein mynediad cerdded i mewn i’r gwasanaeth eAdnoddau. Ar ben hynny, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth graffeg.
Os ydych eisiau benthyg llyfrau o'n llyfrgelloedd bydd angen i chi fod yn aelod. I weld rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau i fyfyrwyr, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar y dudalen benthyg llyfrau.
Dewisiadau aelodaeth
Aelodaeth bersonol
Ymunwch â ni fel aelod personol i fenthyg llyfrau a gwneud cais am eitem.
Codir tâl blynyddol o £60 am flwyddyn neu £150 am dair blynedd o aelodaeth bersonol. Gallwch fenthyg hyd at chwe eitem ar unrhyw adeg o'n casgliadau pythefnos a phedair wythnos.
Aelodaeth CLlC
Gall pobl sy’n astudio, yn byw ac yn gweithio yn ardal Caerdydd ddod yn aelod o CLIC (Caerdydd: Llyfrgelloedd mewn Cydweithrediad). Cysylltwch â'ch llyfrgell gyhoeddus leol am lythyr i gadarnhau eich cymhwysedd. Ar ôl i chi dderbyn y llythyr hwn, anfonwch at librarymembership@caerdydd.ac.uk ynghyd â llun maint pasbort.
Codir tâl o £10 ar gyfer blwyddyn neu £25 ar gyfer tair blynedd am fod yn aelod o CLIC. Cewch fenthyg hyd at ddwy eitem ar unrhyw un adeg o'n casgliadau pythefnos a phedair wythnos.
Sut mae ymuno
I ymuno fel aelod personol bydd angen i chi wneud cais am gerdyn llyfrgell. Cwblhewch ein ffurflen aelodaeth ar-lein i ymuno a defnyddio ein llyfrgelloedd. Bydd staff y llyfrgell yn cysylltu â chi dros y ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00 i dalu am aelodaeth eich llyfrgell.
Aelodaeth Llyfrgell
Archwiliwch y gwasanaethau a chefnogaeth sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd.