Staff a myfyrwyr ar ymweliad
Gall myfyrwyr, ymchwilwyr, academyddion a staff o sefydliadau addysg uwch eraill ymuno â’n llyfrgelloedd drwy ddefnyddio ein cynlluniau aelodaeth pwrpasol.
Mae staff, ymchwilwyr, ôl-raddedigion a addysgir a dysgwyr o bell o sefydliadau addysg uwch sy'n rhan o’r cynllun yn gallu benthyca o dan y cynllun SCONUL Access. Gall eich sefydliad cartref ddarparu manylion ynghylch sut mae gwneud cais.
O dan y cynllun SCONUL Acccess gallwch ymuno fel aelod o Brifysgol Caerdydd, sydd yn golygu eich bod yn gallu:
- benthyg hyd at chwe eitem o’r prif gasgliadau o'n casgliadau benthyca pythefnos neu pedair wythnos.
- cael mynediad at y gwasanaeth di-wifr eduroam
- sefydlu cyfrif argraffu gwadd i argraffu gan ddefnyddio eich gliniadur neu eich dyfais symudol eich hun
- defnyddio’r mynediad cerdded i mewn i’r gwasanaeth eAdnoddau.
Gall israddedigion Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ymuno â’n llyfrgelloedd o dan ein cynllun cyfatebol. Siaradwch â’ch llyfrgell gartref i gael gwybod sut mae gwneud cais.
Byddwch yn gallu benthyg hyd at ddwy eitem o’r prif gasgliadau ar unrhyw un adeg o'n casgliadau pythefnos a phedair wythnos.
Gall israddedigion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ymuno â’n llyfrgelloedd o dan ein cynllun cyfatebol. Siaradwch â’ch llyfrgell gartref i gael gwybod sut mae gwneud cais.
Byddwch yn gallu benthyg hyd at ddwy eitem o’n casgliadau pythefnos a phedair wythnos a chael mynediad i’r Llyfrgell Cerddoriaeth yn ystod oriau mynediad cyfyngedig.
Os ydych yn fyfyriwr israddedig amser llawn o unrhyw sefydliad arall mynediad i SCONUL, neu os ydych chi’n ymwelydd rheolaidd â’n llyfrgelloedd, efallai y byddwch am gael cerdyn adnabod cyfeiriadol/mynediad-yn-unig.
Noder: Ni fydd gennych hawl i fenthyg llyfrau â’r cerdyn hwn.
Sut i ymuno
Ffurflen aelodaeth
I ymuno ag unrhyw un o'r cynlluniau hyn bydd angen i chi lenwi ffurflen aelodaeth:
Ffurflen Aelodaeth
18 Hydref 2017
Cwblhewch ein ffurflen aelodaeth i ymuno a defnyddio ein llyfrgelloedd.
Amseroedd cofrestru
Dewch â'ch ffurflen wedi'i gwblhau i naill ai Llyfrgell Senghennydd neu Llyfrgell Iechyd yn ystod yr oriau canlynol:
Llyfrgell | Amseroedd cofrestru |
Llyfrgell Senghennydd | Dydd Llun i Ddydd Gwener 09:00 - 21:00, Dydd Sadwrn 10:00 - 17:00 (yn ystod y tymor) Dydd Llun i Ddydd Gwener 09:00 - 16:30 (yn ystod y gwyliau) |
Llyfrgell Iechyd | Dydd Llun i Ddydd Gwener 10:00 - 12:00 (Cysylltwch â'r Llyfrgell Iechyd cyn ymweld i weld os yw'r gwasanaeth cerdyn adnabod ar gael) |
Gwybodaeth ychwanegol
Dewch â'r wybodaeth ychwanegol angenrheidiol gyda chi ar gyfer eich cynllun:
Cynllun aelodaeth | Gwybodaeth ychwanegol |
---|---|
SCONUL Access | Copi o'ch ebost cadarnhau SCONUL Cerdyn adnabod eich Sefydliad Cartref |
Israddedigion Prifysgol Fetropolitan Caerdydd | Llythyr/ebost cyflwyno o'ch llyfrgell gartref Cerdyn adnabod Prifysgol Fetropolitan Caerdydd |
Israddedigion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru | Llythyr/ebost cyflwyno o'ch llyfrgell gartref Cerdyn Adnabod CBCDC |
I weld rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau i aelodau, gallwch weld ein tudalen Benthyg Llyfrau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein cynlluniau aelodaeth, cysylltwch â ni.