Ewch i’r prif gynnwys

Benthyg llyfrau

Trwy ymaelodi â’r Llyfrgell cewch fenthyg, adnewyddu a neilltuo llyfrau o’n llyfrgelloedd.

I fenthyg llyfrau, ewch â nhw a’ch cerdyn llyfrgell at y ddesg fenthyca neu’r peiriant hunanwasanaeth. Os na allwch gael gafael ar eitem yn eich llyfrgell chi, mae’n bosib y byddwch yn gallu gwneud cais amdani.

Rhoddir dyddiad i chi pryd mae angen dychwelyd y llyfrau. Fodd bynnag, bydd rhan fwyaf o lyfrau yn adnewyddu yn awtomatig ar ddiwedd y cyfnod benthyca.

Adnewyddu awtomatig

Bydd rhan fwyaf o’ch benthyciadau yn cael eu hadnewyddu yn awtomatig, cyn belled â’u bod heb gais i’w benthyg gan rywun arall. Byddwch yn derbyn ebost os yw eich eitem â chais felly byddwch yn gwybod na fydd yn cael ei adnewyddu. Gallwch wirio ‘Fy Nghyfrif Llyfrgell’ ar LibrarySearch; bydd unrhyw lyfrau â cheisiadau yn cael ei dangos fel ‘Wedi'i alw'n ôl'.

Gallwch adnewyddu llyfrau eich hun yn y golofn 'Fy nghyfrif Llyfrgell': os na ellir adnewyddu'r llyfr, ni fyddwch yn cael y dewis i adnewyddu'r llyfr penodol. Os nad yw llyfr yn adnewyddu, byddwch yn derbyn neges ar y sgrîn yn esbonio pam. Byddwch yn gallu cadw'r llyfr tan y dyddiad dychwelyd, yna ddylech ddychwelyd yr eitem.

Rhaid dychwelyd eitemau sydd wedi’u galw’n ôl erbyn y dyddiad neu mi fyddwn yn rhwystro eich cyfrif; bydd hyn yn eich atal rhag benthyg unrhyw eitemau eraill ac ni fydd eich benthyciadau presennol yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig

Gwneud cais

Gallwch wneud cais am eitemau sydd ar fenthyciad eisoes drwy ddefnyddio LibrarySearch. Gallwch hefyd rhoi cais am eitemau sydd ar silffoedd mewn unrhyw lyfrgell Prifysgol Caerdydd drwy ddefnyddio LibrarySearch. Mae eitemau hŷn, sy’n cael eu defnyddio'n llai ar gael yn y Storfeydd Llyfrgell (arddangosir ar LibrarySearch gyda’r lleoliad ‘Casgliad Ymchwil Talybont Gofynnwch/Talybont Research Reserve'). Gallwch wneud cais amdanynt drwy ddefnyddio LibrarySearch.

  • Gwiriwch eich cyfrif LibrarySearch yn rheolaidd er mwyn gweld pan fydd eich ceisiadau yn barod i’w casglu.
  • Mae eitemau sydd â cheisiadau yn cael eu cadw am gyfnod cyfyngedig a gallwch eu casglu o’r llyfrgell berthnasol.

Llyfrau o lyfrgelloedd Ysbytai GIG Cymru

Os ydych yn aelod o’n llyfrgelloedd ac yn dymuno benthyca llyfr o lyfrgell ysbyty GIG Cymru, mewngofnodwch i LibrarySearch a dylech wneud cais am y llyfr drwy ddefnyddio dolen Cais Benthyciad Rhwng Llyfrgelloedd.

Dychwelyd llyfrau

Gallwch chi ddychwelyd llyfrau i unrhyw lyfrgell ac eithrio benthyciadau pedair awr, y mae’n rhaid eu dychwelyd i’r llyfrgell lle cawsant eu benthyg. Gellir dychwelyd llyfrau drwy'r peiriannau hunanwasanaeth, wrth y ddesg ymholiadau neu mewn biniau llyfrau. Mae biniau llyfrau dychwelyd 24/7 yn y lleoliadau canlynol:

Gallwch bostio llyfrau yn ôl atom yn y cyfeiriad canlynol:

Prifysgol Caerdydd 
Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol 
Rhodfa Colum 
CAERDYDD     
CF10 3LB

Llyfrau a gollwyd neu a gafodd eu dwyn

Os caiff unrhyw eitemau llyfrgell eu colli neu eu dwyn oddi arnoch, cysylltwch â’r llyfrgell y cawsant eu benthyg ohoni ar unwaith.  Byddwch yn atebol am gost amnewid unrhyw eitemau sy'n cael eu colli neu eu dwyn o’ch meddiant.