Ewch i’r prif gynnwys

Llyfrgell Bute

Mae Llyfrgell Bute ar lawr cyntaf Adeilad Bute ac mae'n cynnwys casgliadau ar gyfer daearyddiaeth, newyddiaduraeth, astudiaethau'r cyfryngau, fferylliaeth, cynllunio a'r gwyddorau cymdeithasol.

View Llyfrgell Bute on Google Maps

Oriau agor

Oriau agor gwyliau'r Nadolig
16-19 Rhagfyr: 09:00-17:00
20 Rhagfyr: 09:00-16:00
21 Rhagfyr-1 Ionawr: Ar gau
2-3 Ionawr: 09:00-17:00
4-5 Ionawr: Ar gau
O 6 Ionawr: Oriau agor semester arferol
Dydd Llun 08:45 - 21:30
Dydd Mawrth 08:45 - 21:30
Dydd Mercher 08:45 - 21:30
Dydd Iau 08:45 - 21:30
Dydd Gwener 08:45 - 21:30
Dydd Sadwrn 10:00 - 17:30
Dydd Sul 10:00 - 17:00

Mae’r oriau agor hyn ar gyfer yr wythnos gyfredol. Gweld amseroedd agor ar gyfer 2024-25

Amdanom ni

Mae Llyfrgell Bute ar lawr cyntaf Adeilad Bute ar Rodfa'r Brenin Edward VII. Mae croeso i'r rhai nad ydynt yn aelodau ymweld a defnyddio'r adnoddau o fewn y llyfrgell.

Coridor y Gogledd
Llyfrau a chyfnodolion Cynllunio a Daearyddiaeth
Coridor y De
Llyfrau Gwyddorau Cymdeithasol, gan gynnwys troseddeg, addysg a chymdeithaseg
Llyfrau Newyddiaduraeth ac Astudiaethau'r Cyfryngau (casgliad rhannol)
Mynedfa
Ardal y lolfa
Casgliad lles
Llyfrau fferylliaeth
Cyfnodolion fferylliaeth
Llyfrau newydd
Casglu sgiliau astudio
Benthyciadau gliniaduron
Loceri
Oriel ardal y fynedfa
Ystadegau cynllunio
Datganiadau amgylcheddol
Casgliad DVD
Traethodau hir yn nhrefn yr wyddor yn ôl enw’r awdur

Gallwch gysylltu â llyfrgellydd pwnc os oes gennych gwestiwn pwnc-benodol, neu defnyddiwch ein manylion cyswllt cyffredinol ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill.

Gwasanaethau a chyfleusterau

Rydyn ni’n cynnig y gwasanaethau a’r cyfleusterau canlynol er hwylustod ichi, ac i gefnogi eich anghenion astudio:

Yn y llyfrgell

  • Loceri storio mawr a bach
  • Gliniaduron at ddefnydd myfyrwyr, clustffonau, ceblau gwefru, citiau ysgrifennu ar y bwrdd gwyn a chyfrifianellau, y cyfan yn fenthyciadwy
  • Lle cyfnewid ffuglen
  • Lle ymlacio at ddibenion lles

Y tu allan i'r llyfrgell

  • Toiledau (dynion, menywod a hygyrch)
  • Ffynhonnau Dŵr
  • Peiriannau gwerthu bwyd a diod
  • Lle dŵr poeth

Mynediad

Rheolir mynediad i Adeilad Bute gan fynediad cerdyn swipe ar ôl 17:00 yn ystod yr wythnos a thrwy'r penwythnos.

  • Mae ar lawr cyntaf Adeilad Bute, ac mae mynediad lifft ar gael o'r llawr gwaelod a'r llawr gwaelod isaf.
  • Mae dau fan parcio ar gadw i bobl anabl ym maes parcio Bute. Y drws ochr o'r maes parcio yw'r prif lwybr fynediad i ddefnyddwyr cadair olwyn..
  • Mae tŷ bach hygyrch yng nghyntedd y llawr cyntaf.
  • Mae terfynellau catalog lefel isel ar gael
  • Fe wnaiff staff estyn llyfrau ar eich cyfer oddi ar y silffoedd - gofynnwch am gymorth.

Ymholiadau Llyfrgell Bute

Email
buteliby@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4611
twitter no background icon
cardiffunilib

Lleoliad Llyfrgell

Adeilad Bute
1st
Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NB


Llyfrgellwyr pwnc

Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

Yn cynnwys Daearyddiaeth a Chynllunio, Gwyddorau Cymdeithasol and Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau a Diwylliant.

Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd

Yn cynnwys Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

Hygyrchedd

Canllaw AccessAble: Llyfrgell Bute

Mae canllawiau hygyrchedd AccessAble yn cynnwys ffeithiau, ffigyrau, a ffotograffau i helpu myfyrwyr, ymwelwyr a staff i gynllunio eu taith i'r brifysgol ac o amgylch y brifysgol.