Ewch i’r prif gynnwys

Ein strategaeth

Mae ein llyfrgelloedd a'n harchifau yn rhan annatod o greu a rhannu mynediad at wybodaeth ddibynadwy.

Mae ein hadnoddau gwybodaeth, ein gwasanaethau, ein staff, a’n hystafelloedd ac ardaloedd yn hanfodol i lwyddiant myfyrwyr a llwyddiant academaidd. Maent yn sylfaen i’r cwricwlwm, yn cefnogi ymchwil byd-eang yng nghyd-destun Cymru, ac yn creu ymdeimlad o berthyn i gymuned ysgolheictod.

Rydym yn gwneud hyn drwy:

  • Alluogi ein cymunedau drwy ddatblygu eu llythrennedd o ran gwybodaeth, fel y gallant ymgysylltu’n feirniadol â gwybodaeth yn ddinasyddion byd-eang gwybodus. Cyd-greu gyda'n cymunedau i ddeall a darparu yn unol â’u hanghenion.
  • Partneru yn y gwaith o greu a rhannu ymchwil ac o ran ei heffaith: hyrwyddo diwylliant ymchwil cynhwysol trwy fynediad agored, data ymchwil agored, ysgolheictod digidol, allgymorth, mynediad at ein hadnoddau gwybodaeth cyfoethog, a churadu’r rhain.
  • Rheoli a churadu cof sefydliadol a chofnodion allweddol y brifysgol. Sicrhau bod ein casgliadau a’n harchifau unigryw yn ddiogel, eu bod yn gallu cael eu canfod, eu bod yn weladwy ac yn cael eu dathlu.
  • Hwyluso ymchwil ac addysgu clinigol drwy ddarparu gwasanaethau i GIG Cymru.
  • Dileu rhwystrau o ran cymunedau; cynnig porth croesawgar a chyfeillgar i'r brifysgol, Caerdydd, a Chymru.

Yr hyn sy’n ein diffinio?

Mae ein hegwyddorion o fod yn agored, chwilfrydedd, rhoi’r gallu yn nwylo eraill, meithrin ymdeimlad o berthyn, cynhwysiant, gweithio’n rhan o bartneriaeth, creadigrwydd, hyblygrwydd, a chynaliadwyedd amgylcheddol yn ein diffinio ni.

Cyrchwch Strategaeth Llyfrgelloedd ac Archifau Prifysgol Caerdydd ar gyfer 2023-2027 yn llawn: