Ewch i’r prif gynnwys

Telerau ac amodau

Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â #TeamCardiff i gerdded yr Wyddfa gyda’r Nos.

Mae pob cyfranogwyr yn ffynhonnell codi arian hollbwysig ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ac ymchwil canser Prifysgol Caerdydd.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y telerau ac amodau isod, yn ogystal â'r wybodaeth hanfodol gan ddarparwr yr her, Charity Challenge.

  1. Drwy gofrestru i gerdded yr Wyddfa gyda’r nos, byddwch yn talu ffi gofrestru o £40 na ellir ei had-dalu.
  2. Ni fydd eich lle wedi’i sicrhau nes eich bod wedi cofrestru â’r darparwr, Charity Challenge.
  3. Os byddwch yn cofrestru ac yn ymrwymo i godi'r nawdd lleiaf, mae'n rhaid i chi godi o leiaf £345 ac eithrio Rhodd Cymorth ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl neu ymchwil canser Prifysgol Caerdydd. Bydd angen i chi godi o leiaf 80% (£276 ac eithrio Rhodd Cymorth) o'r targed codi arian saith wythnos cyn dyddiad gadael eich taith. Os na fyddwch yn cyrraedd y targed hwn, ni fyddwch yn gallu mynd ar y daith. Mae’n rhaid i chi godi'r 20% olaf (£69 ac eithrio Rhodd Cymorth) cyn pen pedair wythnos ar ôl cwblhau’r her.
  4. Bydd angen i chi dalu’r arian i Brifysgol Caerdydd wrth i chi ei godi. Rydym yn argymell defnyddio JustGiving fel bod eich arian nawdd yn cael ei dalu'n awtomatig bob wythnos.
  5. Os byddwch yn cofrestru’n unigolyn sy’n ariannu ei hun, mae'n rhaid i chi dalu'r ffi gofrestru o £40 a'r balans o £169 o leiaf bum wythnos cyn eich taith. Os na fyddwch wedi talu'r balans, ni fyddwch yn gallu mynd ar y daith. Bydd 100% o’r arian a godwyd gennych sy’n mynd dros y swm hwn yn mynd tuag at achos ymchwil Prifysgol Caerdydd o'ch dewis.
  6. Mae her ‘Snowdon at Night’ wedi’i threfnu gan Charity Challenge – asiantaeth heriau elusennol sydd â 20 mlynedd o brofiad o gyflwyno heriau ar ran elusennau cenedlaethol. Yr asiantaeth hon sydd â’ch manylion cofrestru a’ch cytundeb i ariannu a chymryd rhan yn yr her hon.
  7. Mae’n rhaid i gyfranogwyr fod dros 18 oed.
  8. Dyma ddigwyddiad her agored, sy'n golygu y bydd y daith yn cynnwys pobl sy’n codi arian o elusennau eraill. Nid yw’n ddigwyddiad ar gyfer codwyr arian #TeamCardiff Prifysgol Caerdydd yn unig.
  9. Mae'r her hon wedi’i graddio’n un 'anodd', ac mae angen lefel dda o ffitrwydd. Dyma'r her berffaith i’r cyfranogwyr hynny sy'n barod i wneud yr ymarfer sydd ei angen wthio'u hunain ar daith fwy heriol. Byddwch yn cerdded am oddeutu wyth awr yn barhaus, dros 21km o dir anwastad. Felly, peidiwch â thanamcangyfrif pwysigrwydd ymarfer ymlaen llaw.
  10. Mae'r her yn dechrau ac yn gorffen yn Llanberis ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Bydd disgwyl i chi wneud eich ffordd eich hun i'r lleoliad ac oddi yno. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yma.
  11. Ni ddarperir llety ar gyfer yr her hon. Mae'r her yn un anodd sy’n gofyn i chi aros yn effro drwy'r nos. Felly, dylech ystyried rhywfaint o orffwys cyn i chi deithio adref.
  12. Brecwast ar ôl y daith yw’r unig bryd o fwyd a ddarperir. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i Charity Challenge am unrhyw ofynion dietegol wrth gofrestru. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael pryd o fwyd digonol cyn i'r daith ddechrau.
  13. Bydd disgwyl i chi ddarparu eich dillad a'ch offer eich hun. Er hynny, mae Charity Challenge yn cynnig gostyngiad o 12.5% ar eitemau Cotswold Outdoor, Snow + Rock a Runners Need.
  14. Rydym yn deall bod amgylchiadau’n gallu newid. Os na allwch gymryd rhan yn yr her hon, neu os byddwch wedi penderfynu peidio â chymryd rhan, cysylltwch â Charity Challenge drwy ebostio booking@charitychallenge.com i ganslo eich lle. Ni ellir ad-dalu eich ffi gofrestru gychwynnol, ond yn dibynnu ar bryd y byddwch yn canslo, efallai y byddwch yn gymwys i gael cost eich lle’n ôl (unigolion sy’n ariannu eu hunain yn unig). Ebostiwch donate@caerdydd.ac.uk hefyd i roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl. Efallai y byddwn yn gallu symud eich lle a’r arian a godwyd gennych i ddyddiad arall. Os byddwch yn canslo’n gyfan gwbl, ni fyddwn yn gallu ad-dalu unrhyw arian a godwyd.
  15. Mae Charity Challenge yn cadw'r hawl i wneud unrhyw newidiadau sy'n angenrheidiol i amserlen yr her. Gall amseriadau penodol yn ystod yr her amrywio, yn dibynnu ar bethau fel y tywydd, gallu'r grwpiau ac ati.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch ebostio donate@caerdydd.ac.uk neu ffonio +44 (0)29 2087 6551.