Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r cyfle i chi archwilio testun arloesol ymhlith ymchwilwyr blaenllaw gyda chyfleusterau o'r radd uchaf.

Bob blwyddyn rydym yn recriwtio tua 40 o fyfyrwyr ar gyfer graddau uwch (PhD a MPhil). Mae ein graddau ôl-raddedig wedi'u seilio ar ymchwil annibynnol llawn amser gyda goruchwyliwr academaidd i'ch harwain i ddarganfod agweddau newydd a chyffrous yn y byd cemeg.

Cyrsiau PhD a MPhil sydd ar gael (trwy gyfrwng y Saesneg yn unig)

Rydym hefyd yn cynnig graddau ymchwil PhD a MPhil mewn amrywiaeth  o feysydd arall o Gemeg.

Ysgoloriaethau

Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudiaethau PhD gan fyfyrwyr sy'n dymuno gwneud cais ar gyfer Ysgoloriaethau'r Gymanwlad neu Arian Cyngor Ysgoloriaeth Tsiena.

Cefnogaeth i ôl-raddedigion

Rydym yn eich mentora a'ch cefnogi mewn sawl ffordd.

  • Mae gennych un neu fwy o oruchwylwyr a phanel adolygu o ddau academydd annibynnol.
  • Mae pob myfyriwr yn elwa ymhellach o gyrsiau hyfforddi niferus gan yr ysgol, yr Academi Ddoethurol a chonsortiwm prifysgolion GW4.
  • Mae cynrychiolwyr myfyrwyr enwebedig yn cymryd rhan mewn Fforwm Ymchwil Ôl-raddedig chwarterol, ac yn dal aelodaeth ar bwyllgorau ysgol allweddol.
  • Anogir cyflwyno adborth cyfrinachol, gan ganiatáu i ni weithredu'n ffurfiol ar faterion.
  • Rydym yn cynnal arolwg ymadael sy'n ein galluogi i fyfyrio ar eich profiad a gwella.
  • Mae gennych gyfle i ddatblygu sgiliau academaidd pellach trwy gynorthwyo mewn gweithdai israddedig a dosbarthiadau labordy.

Ymholiadau

Dylid cyfeirio ymholiadau cyffredinol at:

Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig - Cemeg

Gallwch gyfeirio ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu gydag unrhyw aelod o staff academaidd sydd yn gweithio mewn maes ymchwil sydd o ddiddordeb i chi.