Ysgol Cemeg
Rydym yn ysgol cemeg flaenllaw gyda chenhadaeth glir: mynd i’r afael â heriau gwyddonol pwysicaf yr 21ain ganrif.
Mae cynaliadwyedd yn uchel ar ein hagenda, a adlewyrchir gan ein hymchwil nodedig i gatalysis ar gyfer dyfodol gwyrddach. Mae ein staff addysgu wrthi'n ymchwilio i ffyrdd o ddelio â heriau mwyaf brys cymdeithas - o fiodanwydd a dŵr glân i ddatblygu fferyllol newydd.