Ymgysylltu
Ar sail ein gweledigaeth o ragoriaeth wyddonol, rydym ni’n neilltuo cyfran o’n hamser ar gyfer digwyddiadau estyn allan, lle gallwn ni rannu ein gwaith ymchwil gyda sectorau eraill o’r gymdeithas.
Mae ein gwyddonwyr yn estyn allan i’r cyhoedd yn gyffredinol er mwyn rhannu’r hyn mae ymchwil flaengar wedi’i ddatgelu, darparu deunyddiau addysgol gwerthfawr i athrawon, ac ysbrydoli gwyddonwyr ifanc yfory.
Digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd
Mae digwyddiadau allweddol yn cyfuno ein gwaith ymchwil sylfaenol â brwdfrydedd naturiol ein staff i rannu cyffro eu gwaith ymchwil.
Mae ein prosiectau o ddiddordeb ehangach (gan gynnwys rhai ym meysydd yr amgylchedd, cynaliadwyedd, ynni a diogelwch) yn rhai naturiol ar gyfer estyn allan i’r cyhoedd, ac yn gwneud ein gwaith ymchwil sylfaenol yn hygyrch i gynulleidfaoedd nad ydynt yn arbenigwyr.
Rydym yn datblygu ystod o weithgareddau sy’n addas ar gyfer myfyrwyr cynradd, uwchradd a chweched dosbarth, yn amrywio o arddangosiadau cyffrous o adweithiau cemegol i ddarlithoedd a digwyddiadau cyhoeddus diddorol, llawn gwybodaeth. Dyma rai yn unig o’n gweithgareddau:
Cyfranogiad
Mae ein cyfranogiad mewn digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd yn cwmpasu Arddangosfa Wyddoniaeth Haf y Gymdeithas Frenhinol, New Scientist Live, Gŵyl Wyddoniaeth Manceinion, Diwrnod Agored Harwell a digwyddiadau niferus yn Amgueddfa Cymru, Gwyddoniaeth Bocs Sebon a Pheint o Wyddoniaeth.
Buon ni’n mynychu Arddangosfa Wyddoniaeth Haf y Gymdeithas Frenhinol yn 2017 er mwyn arddangos ein gwaith ymchwil yn llwyddiannus i filoedd o ymwelwyr, ac ymgysylltu â’r genhedlaeth nesaf o gemegwyr.
Cymuned a diwylliant
Ar ben hynny, rydym ni’n cymryd rhan ym mhrosiectau cymunedol y Brifysgol, sy’n cael eu hariannu trwy First Campus a Trio Sci Cymru, ac yn cynnal cyfarfodydd Cymdeithas Wyddonol Caerdydd bob pythefnos, sefydliad allanol sy’n ceisio addysgu a goleuo aelodau o’r cyhoedd ynghylch y darganfyddiadau gwyddonol diweddaraf.
Mae ein gwaith ymchwil i’w weld mewn elfennau pwysig o ddiwylliant Cymru; er enghraifft, roedd dyluniad Coron eiconig Eisteddfod 2018 yn ymgorffori agweddau ar ymchwil y Brifysgol, oedd yn cynnwys patrymau teilio lled-gyfnodol a seiliwyd ar ymchwil ym maes cemeg lled-grisialau.
Mae aelodau o’r Ysgol hefyd yn cyfrannu’n rheolaidd i raglenni ar sianeli radio a theledu’r BBC yn genedlaethol ac yn lleol (Cymru), megis In Our Time a The Life Scientific, ac rydym ni’n targedu cynulleidfa ehangach trwy blatfformau megis Twitter, YouTube a LinkedIn.
Cysylltiadau
Dr David Willock, cyfarwyddwr ymgysylltu yr Ysgol Cemeg, sy’n goruchwylio’r rhaglen ymgysylltu.
Mae Dr Dayna Mason, Cydlynydd Addysg y Gymdeithas Gemeg Frenhinol yng Nghymru, yn aelod o staff yn yr Ysgol, ac mae’n ein helpu i fwyafu manteision addysgol y rhaglenni hyn.