Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr rhyngwladol

Chemistry international students

Mae gennym gymuned ryngwladol ffyniannus sy'n integreiddio'n ddidrafferth gyda myfyrwyr o'r DU.

Mae astudio cemeg yma yn rhoi'r cyfle i chi ddatblygu eich damcaniaeth gemeg graidd a sgiliau labordy ymarferol mewn amgylchedd ffyniannus. Mae hefyd yn eich galluogi i gymysgu gydag ystod amrywiol o fyfyrwyr o'ch gwlad eich hun ac o wledydd eraill.

Daw ein myfyrwyr o nifer o wledydd bob rhan o'r byd ac maent yn cynrychioli amrywiaeth eang o genhedloedd a diwylliannau.

Croesawn geisiadau am gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig felly ewch amdani a gwnewch gais am ein cyrsiau i ddod yn rhan o'n hysgol amrywiol, ddeinamig a chyffrous.