Amdanom ni
Mae ein gwaith ymchwil ac addysg sydd ar flaen y gad yn rhyngwladol yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau gwyddonol pwysig yr 21ain ganrif.
Rydym ni’n cynnig awyrgylch ysgogol a rhagorol ar gyfer addysg ac ymchwil gemegol. Mae ein henw da rhagorol mewn gwyddoniaeth gemegol fodern yn denu dros 250 o fyfyrwyr o bob cwr o'r byd bob blwyddyn:
- 180+ myfyrwyr i raglenni MChem a BSc israddedig
- 30 o fyfyrwyr i raglenni MSc
- 45 i ymchwil ôl-raddedig
Mae ymchwil ac addysgu dan arweiniad tîm ymroddedig o staff academaidd gyda chymorth mwy na 80 o staff ôl-ddoethuriaeth a staff eraill. Mae ein staff hefyd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o raglenni cymunedol, sy'n cynnwys cydweithio ag ysgolion, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd ac annog dysgwyr ifanc.
Ein henw da
Mae ein gwaith ar y cyd â chwmnïau rhyngwladol yn helpu ein hymchwil i gael effaith fyd-eang a chreu cyfleoedd ym myd diwydiant i'n myfyrwyr.
- Yn ymarfer asesu ymchwil REF 2021, roeddem yn y 12fed safle yn y DU am effaith ein hymchwil wrth fynd i'r afael â heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas, yr economi a'n hamgylchedd. Roedd 99% o'n cyflwyniad yn cael ei ystyried yn arwain y byd neu'n ardderchog yn rhyngwladol, gan ddangos cryfder ein harbenigedd ymchwil.
- Yn 2012, roedd 89% o'n graddedigion mewn swydd neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, ac mae'r gyfran uchel hon wedi parhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
- Cyflogadwyedd uchel - roedd 97.7% o'n graddedigion mewn cyflogaeth, a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs.
- Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Arolwg canlyniadau graddedigion diweddaraf (2019/20).