Ewch i’r prif gynnwys

Newyddion

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Gallai dyfais anymwthiol sy'n monitro glwcos yn y gwaed wneud bywyd yn haws i filiynau o bobl sydd â diabetes ledled y byd

Mae tîm o ymchwilwyr o'r Ysgol Peirianneg wedi datblygu dyfais monitro glwcos heb fod angen tynnu gwaed.

Yn hytrach na chymryd mesuriadau drwy bigo'r croen, mae'r ddyfais yn cael ei ludo ar y corff ac yn defnyddio microdonnau i fesur lefelau glwcos. Anfonir y data a fesurir i gyfrifiadur neu ap symudol.

Arweinir y tîm gan yr Athro Adrian Porch a Dr Heungjae Choi, ac maent yn credu y gallai'r ddyfais wneud bywyd yn haws i filiynau o bobl ledled y byd sydd â diabetes ac y gallai fod ar y farchnad ymhen pum mlynedd.

Mae'r prosiect wedi cael £1m gan Ymddiriedolaeth Wellcome hyd yma, ac mae eisoes wedi'i ddefnyddio mewn treialon clinigol gyda chleifion.

Wrth siarad â'r BBC, dywedodd yr Athro Porch y bydd y ddyfais yn helpu cleifion i reoli eu diabetes yn y pen draw.

"Fel arfer, mae angen tynnu gwaed er mwyn monitro glwcos yn y gwaed. Mae ein dyfais yn anymwthiol sy'n golygu nad oes angen tynnu gwaed ar ôl y broses calibro gychwynnol," meddai'r Athro Porch.

"Mae'n defnyddio microdonnau, ond mae'r lefelau'n isel iawn, iawn. Nid yw ddim byd tebyg i'r lefelau a ddefnyddir wrth goginio gartref. O'i chymharu â ffôn symudol, rydym tua mil gwaith yn is na'r lefel honno."

Mae 3.5 miliwn o bobl wedi cael diagnosis o ddiabetes yn y DU, ac amcangyfrifir bod gan 549,000 yn rhagor y clefyd, ond heb fod yn gwybod hynny.

Rhaid i'r 10% sydd â diabetes Math 1 fonitro lefel y glwcos yn y gwaed yn fwy rheolaidd - hyd at chwe gwaith y dydd, neu 20,000 gwaith dros ddegawd.

Mae gwyddonwyr wedi gwneud darganfyddiad a allai arwain at well triniaeth ar gyfer dioddefwyr asthma.

Maent wedi canfod y gall rhwystro moleciwl signalau penodol liniaru symptomau megis cynhyrchu mwcws, chwyddo (edema) a darwasgiad y llwybr anadlu yn yr ysgyfaint.

Y gred yw y gall gwaith yr astudiaeth ryngwladol, o dan arweiniad Dr Stephan Caucheteux, o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, helpu dioddefwyr asthma ledled y byd, yn y pen draw.

Mae oddeutu 5.4m o bobl yn y DU yn cael triniaeth ar gyfer asthma ar hyn o bryd, gan gynnwys dros filiwn o blant.

Mae'r adwaith imiwnedd alergaidd, sy'n ysgogi symptomau asthma, yn broses gymhleth, sy'n dechrau wrth i fathau arbennig o gelloedd gwyn y gwaed orweithio, sef celloedd T math 2 sy'n helpu alergenau'n benodol.

"Drwy ychwanegu moleciwl signalau, Interleukin 1 (IL-1) gan ddefnyddio model arbrofol o asthma alergaidd, daeth i'r amlwg i ni y byddai'r symptomau'n gwaethygu'n sylweddol," eglurodd Dr Caucheteux.

"Felly, drwy rwystro'r corff rhag cynhyrchu IL-1, gallem leddfu symptomau, fel mwcws, chwyddo a darwasgiad."

Roedd y gwaith ymchwil, a gyhoeddwyd yn The Journal of Allergy and Clinical Immunology, hefyd yn cynnwys cydweithwyr yn Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol yr Unol Daleithiau: Doctoriaid Jane Hu-Li, Liying Guo, Michelle Crank, Nisan Bhattacharyya a Michael Collins.

Cyfarwyddwyd y prosiect ymchwil hwn gan y diweddar William E Paul, Pennaeth Labordy Imiwnoleg y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Alergedd a Chlefydau Heintus.

Dywedodd Dr Jeff Zhu, Pennaeth yr Uned Imiwnoreoleiddiad Cellog a Moleciwlaidd yn Labordy Imiwnoleg y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Alergedd a Chlefydau Heintus: "Mae canfod bod IL-1 yn rheoleiddio'r cydbwysedd rhwng celloedd Th2 llidiol a gwrthlidiol wedi gwella ein gwybodaeth sylfaenol am fioleg celloedd T yn sylweddol. Mae hefyd wedi darparu strategaeth newydd ac effeithiol, o bosibl, i drin asthma."

Ariannwyd yr ymchwil gan raglen ymchwil mewnfurol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Alergedd a Chlefydau Heintus.

Gallai cleifion sy'n cael triniaeth canser gynyddu eu siawns o oroesi o hyd at 20% a helpu i atal eu canser rhag lledaenu drwy gymryd dos isel o asbirin, mae ymchwil Prifysgol newydd yn ei awgrymu.

Mewn adolygiad systematig o'r llenyddiaeth wyddonol sydd ar gael bu i dîm o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol weld gostyngiad sylweddol mewn marwolaeth a chanser yn lledaenu gan gleifion a gymerodd ddos isel o asbirin yn ychwanegol at eu triniaeth canser.

"Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod cymryd asbirin o fudd sylweddol i leihau rhai mathau o ganser," meddai’r Athro Peter Elwood a fu'n arwain yr ymchwil a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn PLOS ONE.

"Er ein bod yn ymwybodol fod dos isel o asbirin wedi dangos i leihau nifer yr achosion o ganser, mae ei rôl o ran triniaeth canser yn parhau'n annelwig. O ganlyniad, bu i ni gynnal chwiliad systematig o’r holl lenyddiaeth wyddonol.”

Edrychodd adolygiad y tîm ar yr holl ddata sydd ar gael gan gynnwys pump o dreialon ar hap a phedwar deg a dau o astudiaethau arsylwi o ganser y coluddyn, canser y fron a chanser y brostad.

Dywedodd yr Athro Elwood: "Mae ein hadolygiad, yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael, yn awgrymu bod asbirin dos isel a gymerwyd gan gleifion canser y coluddyn, canser y fron neu ganser y brostad, yn ogystal â thriniaethau eraill, yn gysylltiedig â gostyngiad yn nifer y marwolaethau o tua 15-20%, ynghyd â gostyngiad yn lledaeniad y canser.

"Mae canlyniadau o chwe astudiaeth o fathau eraill o ganser hefyd yn awgrymu gostyngiad, ond roedd nifer y cleifion yn rhy ychydig i alluogi dehongli’n hyderus. Roedd mwtaniad – a elwir yn PIK3CA – yn bresennol mewn tua 20% o gleifion, ac roedd yn ymddangos fod hwn yn egluro llawer o'r gostyngiad yn nifer marwolaethau canser y colon gan asbirin.

"Un o'r pryderon ynghylch cymryd asbirin o hyd yw’r potensial ar gyfer gwaedu perfeddol. Dyma pam yr edrychom yn benodol ar y dystiolaeth sydd ar gael o waedu a bu i ni ysgrifennu at yr holl awduron yn gofyn am ragor o ddata. Nid oedd gwaedu difrifol neu waedu sy'n bygwth bywyd wedi’i gofnodi mewn unrhyw achos."

O ganlyniad i'r adolygiad, dywed y tîm fod eu hastudiaeth yn amlygu'r angen am hap dreialon i sefydlu’r dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi asbirin dos isel fel triniaeth ychwanegol effeithiol o ganser.

Ychwanegodd yr Athro Elwood: "Er bod angen taer am waith ymchwil mwy manwl i gadarnhau ein hadolygiad ac i gael tystiolaeth ar gyfer canserau llai cyffredin, byddem yn annog cleifion â diagnosis o ganser i siarad â'u meddyg am ein canfyddiadau fel y gallant wneud penderfyniad gwybodus ynghylch cymryd asbirin dos isel fel rhan o'u triniaeth ganser neu beidio."

Nid hon yw unig astudiaeth lwyddiannus yn archwilio ffyrdd o wella iechyd pobl dan arweiniad yr Athro Elwood.   Ym 1974, nododd tîm Elwood hap-dreial cyntaf asbirin i atal marwolaethau fasgwlaidd yn y British Medical Journal.

Hefyd, arweiniodd yr Athro Elwood astudiaeth fawr oedd yn monitro arferion iechyd 2,235 o ddynion dros gyfnod o 35 mlynedd a chanfod fod ymarfer yn lleihau’r risg o ddatblygu dementia yn sylweddol. Yr astudiaeth oedd yr hwyaf o'i fath i brocio dylanwad ffactorau amgylcheddol ar glefyd cronig.

Nododd yr astudiaeth bum ymddygiad iach fel rhan annatod o gael y cyfle gorau o fyw bywyd di-glefyd: ymarfer corff rheolaidd, peidio ysmygu, pwysau corff iach, diet iach ac yfed ychydig o alcohol yn unig.

Gwyddonwyr o Gymru yn darganfod bacteria cyfeillgar sy'n gostwng colesterol

Gallai 'bacteria cyfeillgar' wrth atal lefelau colesterol uchel yn y gwaed, a chefnogi rhaglenni triniaeth presennol ar gyfer clefyd y galon. Dyma ganfyddiad astudiaeth gydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd a'r gwneuthurwr profiotigau, Cultech Ltd.

Mae clefyd y galon yn lladd tua un person bob 34 eiliad, ac mae'n gyfrifol am fwy o farwolaethau ledled y byd nag unrhyw glefyd arall. Mae'n faich economaidd enfawr, ac yn costio tua £19 biliwn o bunnoedd y flwyddyn i economi'r DU.

Mae colesterol uchel yn un o'r prif ffactorau risg ar gyfer clefyd y galon. Ar hyn o bryd, defnyddir statinau'n eang i reoli'r broblem, ond nid yw'r rhain yn hynod effeithiol bob tro, ac mae nifer o sgîl-effeithiau andwyol yn gysylltiedig â nhw.  Mae hyn wedi annog y gymuned wyddonol i chwilio am therapïau eraill, ac mae profiotigau'n ymddangos fel ateb posibl.

Roedd yr astudiaeth benodol hon yn defnyddio modelau arbrofol sy'n seiliedig ar gelloedd i adnabod straen o 'facteria cyfeillgar' a allai helpu i ostwng lefelau colesterol y gwaed. Canfu ymchwilwyr y gall presenoldeb Lactobacillus plantarum CUL66 newid ymddygiad prif gelloedd y coluddyn sy'n amsugno colesterol (enterocytau) a lleihau eu gallu i gludo colesterol.

"Mae hyn yn cynrychioli canfyddiad rhagarweiniol cyffrous, ac mae astudiaethau pellach gydag anifeiliaid a phobl eisoes ar y gweill," meddai cydawdur yr astudiaeth, Dr Dipak Ramji o Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd.

"Mae ein gwaith yn cynnig gobaith yn y frwydr yn erbyn clefyd y galon, gan agor llwybrau newydd ar gyfer gwaith ymchwil pellach ar y defnydd o brofiotigau wrth reoli lefelau colesterol uchel yn y gwaed, sef ffactor risg mawr ar gyfer datblygu atherosglerosis - clefyd lle mae placiau colesterol uchel yn cronni y tu mewn i'r rhydwelïau".

Ychwanegodd Dr Daryn Michael, Uwch-wyddonydd Ymchwil Cultech Limited: "Dyma ddarn diddorol o waith ymchwil sydd â goblygiadau posibl ar gyfer y ffordd rydym yn ystyried y driniaeth ar gyfer colesterol uchel yn y gwaed, ac edrychwn ymlaen at gynnal astudiaethau pellach yn y maes hwn.

"Mae'r berthynas broffesiynol rhwng Prifysgol Caerdydd a Cultech wedi hwyluso gwaith ymchwil gwerthfawr, ac wedi arwain at drosglwyddo gwybodaeth ddwy ffordd, a fydd yn parhau yn y dyfodol".

Cydnabyddir "potensial trawsnewidiol" ymchwil arthritis mewn adnewyddiad cyllid

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael hwb ariannol hanfodol, gwerth £2M, i barhau â'i gwaith ymchwil arloesol i arthritis.

Mae Ymchwil Arthritis y DU wedi dyfarnu'r arian ar gyfer parhad Canolfan Biofecaneg a Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU yn y Brifysgol.

Bydd yr arian yn cefnogi gwaith ymchwil parhaus i osteoarthritis a phoen cefn cronig, yn bennaf.

Ers ei sefydlu yn 2009, mae'r Ganolfan wedi gwneud darganfyddiadau pwysig mewn sawl maes yn ei hymdrech i fynd i'r afael ag arthritis a chyflyrau cysylltiedig.

Gydag arbenigedd mewn biofecaneg, biobeirianneg, ffisiotherapi, orthopaedeg, mecanodrosglwyddiad, poen, llid a phrofion biofarciwr cleifion; mae tîm y Ganolfan yn diffinio, yn adnabod ac yn targedu mecanweithiau biofecanyddol sy'n sail i glefydau poen cefn a chymalau.

Ymysg eu datblygiadau, gallant gyfrif profi triniaethau cyffuriau newydd ar gyfer arthritis; datblygu 'smentiau asgwrn' newydd sy'n gallu cludo gwrthfiotigau i leihau heintiau ar ôl cael cymalau newydd; a dulliau diagnostig ac adsefydlu newydd.

Dywedodd yr Athro Bruce Caterson, Cyfarwyddwr Canolfan Biofecaneg a Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU:

"Mae'r dyfarniad newydd hwn yn cadarnhau bod gan Ymchwil Arthritis y DU barch mawr at y Ganolfan a'i hamcanion ymchwil parhaus.

"Mae hefyd yn cadarnhau cryfder y gwaith ymchwil a wnaed yma yn y Ganolfan ym Mhrifysgol Caerdydd dros y pum mlynedd diwethaf.

"Yn ystod y tair i bum mlynedd nesaf, ein huchelgais o ran ymchwil yw datblygu ein canfyddiadau ymchwil yn fudd uniongyrchol i gleifion."

Er enghraifft, mae ymchwilwyr biofeddygol ein Canolfan wedi amlygu sawl targed cyffur newydd.

Yn ogystal, bydd astudiaeth ar wahân yn datblygu system 'E-adsefydlu' ar sail biofecanwaith, i gefnogi'r broses o adsefydlu cleifion yn y cartref sy'n dioddef o anhwylderau'r pen-glin a'r asgwrn cefn.

Dywedodd Stephen Simpson, Cyfarwyddwr Ymchwil a Rhaglenni, Ymchwil Arthritis y DU:

"Rydym wedi ein hargyhoeddi y gall y cynnydd a wneir gan Ganolfan Biofecaneg a Biobeirianneg Ymchwil Arthritis y DU, ynghyd ag ymroddiad ac uchelgais ei thimau ymchwil, arwain at drawsnewid". 

"Yr hyn sydd wrth wraidd popeth a wnawn, yw gwella bywydau pobl sy'n dioddef o arthritis. Bydd y posibilrwydd o weld datblygiadau ymchwil yn y dyfodol yn rhoi gobaith i'r 10 miliwn o bobl yn y DU sy'n byw gyda phoen arthritis."

Bydd Prifysgol Caerdydd yn rhoi arian cyfatebol ar gyfer parhad y Ganolfan hefyd.

Treial yn ceisio gwella cyfleoedd mewn bywyd i blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru

Gwella cyfleoedd mewn bywyd i blant sy'n derbyn gofal ledled Cymru sy'n cael y prif sylw gan dreial pwysig newydd o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.

Dengys ffigurau diweddar gan elusen gofal maeth bod tua un plentyn o bob deg sy'n derbyn gofal yn y DU yn symud i leoliad arall o leiaf dair gwaith mewn blwyddyn.

Dengys data'r Llywodraeth bod plant sy'n derbyn gofal bedair gwaith yn fwy tebygol na'u cyfoedion o ddioddef problemau iechyd meddwl, yn llai tebygol na'u cyfoedion o wneud yn dda yn yr ysgol ac weithiau'n profi cam-drin pellach neu esgeulustod mewn lleoliad gofal.

Nod y treial 'Hyder mewn Gofal' sydd wedi'i hariannu gan y Loteri Fawr yw mynd i'r afael â hyn drwy helpu plant sy'n derbyn gofal i symud yn fwy llwyddiannus i fyd oedolion.

Bydd yn gwerthuso effeithiolrwydd cwrs hyfforddiant newydd 12 wythnos o hyd, sy'n darparu cyngor ymarferol a strategaethau sydd wedi'u dylunio i wella'r berthynas rhwng gofalwyr a phlant.

Mae'r cwrs hefyd am wella sut mae gofalwyr yn ymdopi â'u cyfrifoldebau gofal, yn ogystal â chynyddu eu sgiliau gofal.

Bydd llwyddiant y cwrs - o'r enw 'Fostering Changes'- yn cael ei werthuso drwy ddadansoddi adborth gan ofalwyr ar ôl ei gwblhau.

Bydd hefyd yn mesur pa mor dda mae gofalwyr yn teimlo eu bod yn gallu gofalu am y plant ar ôl eu hyfforddiant, a bydd yn ystyried unrhyw symudiadau heb eu cynllunio ac ymgysylltiad plant ag addysg.

Dywedodd cyfarwyddwr y treial, Dr Michael Robling, o Ganolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd:

"Mae'r treial yn gyfle cyffrous i brofi ymyriadau yn y sector gofal cymdeithasol yn drylwyr, ac mae'n dwyn ynghyd arbenigedd o ran dulliau treialu a gofal cymdeithasol plant o'r Brifysgol gyfan."

Drwy gynhyrchu tystiolaeth gadarn ynglŷn ag effeithiolrwydd tymor hwy'r cwrs Fostering Changes ar gyfer gofalwyr maeth a gofalwyr sy'n berthnasau, bydd y treial yn cyfrannu at y sail dystiolaeth ryngwladol ar wella canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal.

Mae'r treial am recriwtio 490 o ofalwyr a chaiff ei gynnal tan 2017. Daw ar adeg pan fo pwysau cynyddol ar niferoedd y gofalwyr maeth.

Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, mae angen tua 9,070 o deuluoedd maeth newydd ledled y DU eleni i ddarparu gofal sefydlog a chariadus ar gyfer plant.

Mae Hyder mewn Gofal yn gonsortiwm o'r sefydliadau blaenllaw sy'n gweithio gyda phlant sy'n cael eu maethu ac sy'n derbyn gofal yng Nghymru a ledled y DU, ac mae'n cynnwys Prifysgol Caerdydd, y Rhwydwaith Maethu, Gweithredu dros Blant, Barnardo's a TACT.

Prawf gwaed syml, sy'n gallu canfod lefelau o gelloedd lewcemia sy'n weddill ar ôl cemotherapi

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn rhan o dîm o'r DU sydd am ddatblygu prawf gwaed syml, sy'n gallu canfod lefelau o gelloedd lewcemia sy'n weddill ar ôl cemotherapi dwys. 

Gan weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr o Goleg y Brenin yn Llundain, fe wnaeth tîm o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, dan arweiniad Dr Robert Hills, ddarparu'r data hanfodol gan gleifion presennol sy'n dioddef o lewcemia. 

Mae'r prawf yn helpu i ragweld pa gleifion sy'n dioddef o lewcemia myeloid acíwt (AML) sy'n wynebu risg o weld y canser yn dychwelyd yn y dyfodol, gan helpu i roi arweiniad i feddygon ynglŷn â'r driniaeth bellach sydd ei hangen.

Bu Dr Robert Hills yn cydlynu'r treial clinigol ac yn casglu data ar gyfer y prosiect o'r Uned Treialon Clinigol Haematoleg yng Nghaerdydd. Meddai: "Mae'r data a gasglwyd gennym gan gleifion wedi rhoi gwybodaeth newydd i ni am lewcemia myeloid acíwt (AML).

"Drwy edrych ar y clefyd wrth i bobl gael triniaeth, cawsom gyfle unigryw i ddysgu llawer mwy am y driniaeth orau.

"Yr hyn yr ydym wedi gallu ei nodi yw grŵp o gleifion a fyddai fel arall yn cael eu hystyried yn rhai a fyddai'n ymateb yn gymharol dda. Mewn gwirionedd, mae ganddynt ragolygon gwael iawn, ac nid ydynt yn cael eu gwasanaethu'n dda ar hyn o bryd.

"Mae hyn yn arwain at y posibilrwydd cyffrous y gallwn wneud yr un peth ar gyfer grwpiau eraill o gleifion hefyd."

Rhoddir diagnosis o AML i oddeutu 2,400 o bobl bob blwyddyn yn y DU. Er bod cyfraddau goroesi yn hynod o wael yn gyffredinol, mae'r rhagolygon ar gyfer cleifion iau sy'n gallu goddef triniaeth ddwys yn well, ac mae dros hanner y cleifion dan 40 oed yn goroesi am o leiaf bum mlynedd.

Mewn gwaith ymchwil a gyhoeddwyd ar-lein yn New England Journal of Medicine, defnyddiodd gwyddonwyr brawf 'clefyd gweddilliol lleiaf' (MRD: minimal residual disease) i ragweld ailwaeledd, gan ddefnyddio samplau gwaed 346 o gleifion AML a oedd wedi cael dau rownd o gemotherapi.

Roedd y cleifion i gyd yn dioddef o AML a sbardunwyd gan ddiffygion yn y genyn NPM1 – sef is-fath genetig mwyaf cyffredin y clefyd, sy'n cyfrif am draean yr holl achosion.

Ariannwyd yr ymchwil gan elusen ganser y gwaed Bloodwise a'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR), ac mae wedi'i wreiddio yn y treial AML17 a ariennir gan Ymchwil Canser y DU. Prifysgol Caerdydd sy'n noddi ac yn cynnal y gwaith ymchwil, o dan y Prif Ymchwilydd, yr Athro Alan Burnett.

Mae'r siawns orau o wellhad yn cynnwys cemotherapi ac, yn achos cleifion risg uchel, trawsblaniad cell stem. Er bod triniaeth ddwys yn llwyddo i wella'r canser fel arfer, mae ailwaeledd yn gyffredin iawn.

Fel arfer, dim ond cleifion sy'n wynebu risg uchel o ailwaeledd ac sy'n ddigon ffit sy'n cael trawsblaniad cell stem ar ôl cemotherapi.

Canfu'r ymchwilwyr fod profion MRD yn llawer gwell am ragfynegi ailwaeledd na'r dulliau presennol. Ar hyn o bryd, mae'r dulliau hyn yn dibynnu'n bennaf ar ddadansoddi abnormaleddau genetig yng nghelloedd canser cleifion unigol. Mae hyn yna'n dylanwadu ar p'un a ydynt yn cael eu pennu'n 'risg uchel' neu'n 'risg isel' ar ddechrau'r driniaeth.

Cynhaliwyd yr astudiaeth o fewn treial clinigol AML17 y Sefydliad Ymchwil Canser Cenedlaethol (NCRI), a oedd yn trin cleifion o bob cwr o'r DU, Denmarc a Seland Newydd. Roedd pob sampl a ddadansoddwyd gan ddefnyddio profion MRD gan gleifion y pennwyd eu bod yn wynebu 'risg arferol' o ailwaeledd, gan ddefnyddio profion sydd eisoes yn bodoli.

Gall y prawf MRD bennu a yw claf wedi 'gwella'n foleciwlaidd', sy'n golygu nad oes unrhyw arwyddion o foleciwlau diffygiol sy'n awgrymu bod celloedd lewcemia yn y gwaed. Gellir mesur hyn i sensitifrwydd o un gell lewcemia mewn 10,000 o gelloedd iach yn y gwaed.

Mewn 82% o achosion lle'r oedd y prawf MRD wedi canfod presenoldeb y genyn canser NPM1 mewn sampl gwaed ar ôl triniaeth, roedd y claf wedi dioddef ailwaeledd ymhen tair blynedd. Dim ond 30% o gleifion nad oedd dim celloedd lewcemia canfyddadwy yn eu gwaed ar yr adeg hon a ddioddefodd ailwaeledd yn y cyfnod hwnnw.

Dywedodd Alasdair Rankin, Cyfarwyddwr Ymchwil elusen Bloodwise, a ariannodd y gwaith ymchwil: "Mae'r driniaeth ar gyfer lewcemia myeloid acíwt yn wenwynig iawn, ac mae'r cyfraddau goroesi yn ofnadwy o isel, yn enwedig ymysg cleifion hŷn.

"Byddai triniaeth ymlaen llaw i atal ailwaeledd yn y cleifion sy'n wynebu'r risg uchaf yn lleihau lefelau'r driniaeth wenwynig sydd ei hangen, ac yn gwella ei siawns o lwyddo." 

Prosiect £1.8m yn edrych ar sut y gall probiotigau atal heintiau a lleihau'r defnydd o wrthfiotigau gyda phreswylwyr cartrefi gofal

Mae'r Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Phrifysgol Rhydychen, ar fin dechrau astudiaeth gwerth £1.8m i weld a all ychwanegion probiotigau leihau nifer yr heintiau ymhlith preswylwyr cartrefi gofal er mwyn ceisio defnyddio llai o wrthfiotigau gyda'r grŵp risg uchel hwn.

'Bacteria da' sy'n gallu bod o les wrth eu cymryd fel ychwanegion yw probiotigau.

Heintiau yw'r rheswm mwyaf cyffredin pam mae'n rhaid i breswylwyr cartrefi gofal fynd i'r ysbyty, ac
mae ymchwil blaenorol wedi dangos bod y preswylwyr hyn yn defnyddio llawer mwy o wrthfiotigau o gymharu â phawb arall, gan olygu eu bod mewn perygl o ddatblygu ymwrthedd i gyffuriau gwrthfiotig.

Gall yr ymwrthedd hwn ledaenu i ysbytai a'r gymuned - gan leihau effeithiolrwydd y cyffuriau pwysig hyn wrth ymladd yn erbyn heintiau cyffredin.

Bydd yr ymchwilwyr yn recriwtio 330 o breswylwyr cartrefi gofal yng Nghaerdydd a Rhydychen ac yn rhoi ychwanegion dyddiol o brobiotigau Lactobacillus rhamnosus, a Bifidobacterium animalis subsp. lactis, iddynt ochr yn ochr â phlasebo, dros gyfnod o 12 mis.

Byddant yn asesu cyfanswm nifer y diwrnodau ar wrthfiotigau ar gyfer clefydau heintus cyffredin, gan gynnwys salwch tebyg i ffliw, heintiau'r llwybr wrinol, a heintiau ar y croen a gastro-berfeddol, yn ogystal â'u hymateb i'r brechlyn ffliw.

Ariennir y prosiect gan y Rhaglen Gwerthuso Effeithiolrwydd a Mecanwaith (EME), sy'n bartneriaeth rhwng y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) a'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd.

Arweinir yr ymchwil gan Christopher Butler, sy'n feddyg teulu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac yn Athro Gofal Cychwynnol yn Adran Gwyddorau Iechyd Gofal Cychwynnol Nuffield ym Mhrifysgol Rhydychen. Dywedodd:

"Mae'r gwrthfiotigau defnyddiol ac effeithiol y mae meddygon teulu yn eu defnyddio i drin heintiau cyffredin o dan fygythiad oherwydd ymwrthedd cynyddol y boblogaeth i gyffuriau.

"Mae preswylwyr cartrefi gofal yn cael llawer mwy o wrthfiotigau na'r boblogaeth yn gyffredinol gan eu bod yn fwy agored i heintiau oherwydd eu himiwnedd gwan, yn byw'n agos at ei gilydd ac yn dioddef sawl salwch. Maent yn aml yn gorfod mynd i'r ysbyty pan mae'r cyffuriau'n rhoi'r gorau i weithio.

"Heblaw am frechu a hylendid da, prin iawn yw'r ffyrdd pendant o atal heintiau ymhlith preswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal - felly, mae probiotigau'n faes pwysig i'w dargedu wrth geisio brwydro yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau. Dylai ein hastudiaeth ateb y cwestiwn p'un a yw probiotigau dyddiol yn atal heintiau ai peidio.

"Os ydynt yn llwyddiannus, gallai'r probiotigau rhad a diogel hyn wella ansawdd bywyd a chynnwys ymwrthedd i wrthfiotigau. Bydd yn helpu'r garfan gynyddol hon o'r boblogaeth sy'n agored i niwed rhad drwy warchod effeithiolrwydd y cyffuriau gwrthfiotig fydd ar gael ar ein cyfer yn y dyfodol."

Bacteria byw yw Lactobacillus rhamnosus and Bifidobacterium animalis subsp.  Cawsant eu dewis ar gyfer yr ymchwil oherwydd eu bod, gyda'i gilydd, yn gwella imiwnedd a gallant leihau hyd clefydau heintus cyffredin. Fodd bynnag, prin fu'r ymchwil hyd yma i gefnogi'r defnydd o brobiotigau gyda phreswylwyr cartrefi gofal. Bydd yr astudiaeth hon yn llenwi'r bwlch pwysig hwn.

Mae'r astudiaeth yn rhan o fuddsoddiad mwy sy'n werth dros £15.8m ar gyfer ymchwil sy'n mynd i'r afael â heintiau sydd ag ymwrthedd i gyffuriau, gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) - cangen ymchwil y GIG.

Mae heintiau sydd ag ymwrthedd i gyffuriau yn fygythiad mawr i ddyfodol gofal iechyd. Erbyn 2050, gallai 10 miliwn o bobl i farw'n ddiangen bob blwyddyn o ganlyniad i heintiau sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau fel MRSA, sepsis a mycobacteriwm twbercwlosis sy'n gallu gwrthsefyll sawl cyffur.

Heddiw (24 Tachwedd), bydd academydd o Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn cyflwyno ei gwaith ymchwil i grŵp trawsbleidiol o ASau a chyfoedion yn San Steffan, gan edrych ar fwydo ar y fron yn y DU.

Bydd Dr Kate Boyer, daearyddwr dynol y mae ei meysydd ymchwil yn cynnwys daearyddiaeth rhyw a gofal sy'n ymwneud â bwydo ar y fron, gan gynnwys bwydo ar y fron yn gyhoeddus, yn rhannu ei gwaith ymchwil â'r Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Fwydo Babanod ac Anghydraddoldeb.

Bydd yn canolbwyntio ar fwydo ar y fron o safbwynt y DU, o'i gymharu â safbwynt rhyngwladol, ac yn pwysleisio'r ffaith bod cyfraddau bwydo ar y fron y DU ymhlith yr isaf yn y byd, er gwaethaf polisïau mamolaeth tebyg neu well na gwledydd gan gynnwys Awstralia, Seland Newydd a Chanada.

Bydd Dr Boyer yn tynnu sylw at ffigurau diweddar sy'n dangos bod llai na 40% o fenywod y DU yn bwydo ar y fron hyd nes bydd y baban yn chwe mis oed, a llai nag 1% yn bwydo ar y fron yn unig yn y cyfnod hwn, er bod y rhan fwyaf o fenywod y DU yn rhoi cynnig ar fwydo ar y fron o leiaf unwaith.

Bydd yn dweud nad yw'r cyfraddau hyn yn bodloni argymhellion y GIG a Sefydliad Iechyd y Byd, sy'n nodi mai dim ond llaeth o'r fron y dylai babanod ei gael yn y chwe mis cyntaf.

Bydd hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod y llywodraeth yn cael gwared ar arian ar gyfer yr arolwg cenedlaethol ynghylch bwydo babanod – arolwg sy'n darparu gwaith ymchwil pwysig sy'n seiliedig ar dystiolaeth ym maes bwydo babanod – a bod hyn yn arwydd bod bwydo ar y fron yn cael ei symud i lawr yr agenda iechyd cyhoeddus.

Bydd yn ystyried pam mae bwydo ar y fron yn gyhoeddus yn cael ei wthio i'r cyrion yn y DU; gan adrodd am brofiadau uniongyrchol menywod a gymerodd ran yn ei gwaith ymchwil. Bydd hefyd yn ystyried sut mae materion sy'n ymwneud â daearyddiaeth a gofod yn effeithio ar ba mor dderbyniol yw bwydo ar y fron yn gyhoeddus.

Bydd grwpiau eiriolaeth ac arbenigwyr eraill yn ymuno â hi yn y cyfarfod hollbleidiol.

Wrth siarad cyn ei chyflwyniad, dywedodd Dr Boyer: "Nid yw'r cyfraddau presennol ar gyfer parhau i fwydo ar y fron yn y DU unman yn agos at nod Sefydliad Iechyd y Byd, ac nid ydynt wedi newid rhyw lawer dros y blynyddoedd diwethaf. Mae fy ngwaith ymchwil i'r maes hwn yn dangos bod llawer o fenywod yn cael profiadau negyddol wrth fwydo ar y fron yn gyhoeddus, sy'n aml yn ffactor wrth iddynt benderfynu rhoi'r gorau i fwydo ar y fron.

"Mae'r ymchwil yn dangos bod gallu menywod i fwydo ar y fron yn gyhoeddus yn bwysig o ran cynyddu cyfraddau parhau i fwydo, ond mae ei gwneud yn haws i fenywod fwydo ar y fron yn gyhoeddus yn ymwneud â newid diwylliannol yn y pen draw, ac mae llawer iawn o waith i'w wneud yn hyn o beth. 

"Gall y llywodraeth helpu i ysgogi newid o'r fath drwy ariannu rhaglenni sy'n herio'r normau cymdeithasol presennol, er enghraifft drwy helpu i fynd i'r afael â stigma. Mae heddiw'n gyfle pwysig i drafod y materion hyn gyda grwpiau eiriolaeth a'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau."

Mae genyn newydd (MCR-1) sy'n galluogi bacteria i wrthsefyll polymicsinau - yr amddiffyniad gwrthfiotigol olaf sydd gennym - wedi'i ganfod mewn samplau eang o facteria a gymerwyd o foch a chleifion yn ne Tsieina, gan gynnwys mathau a allai achosi epidemig.

Cyhoeddir yr ymchwil heddiw yn The Lancet Infectious Diseases gan yr Athro Timothy Walsh o'r Ysgol Meddygaeth fu'n cydweithio ar y gwaith arloesol hwn gyda gwyddonwyr o Brifysgol Amaethyddol De Tsieina.

Cafwyd hyd i enyn MCR-1 ar blasmidau, sef DNA symudol y gellir eu copïo a'u trosglwyddo'n rhwydd rhwng gwahanol facteria gan awgrymu y gallai ledaenu ac amrywio mewn ffyrdd brawychus rhwng gwahanol boblogaethau o facteria.

Mae'r Athro Walsh yn arbenigo mewn ymwrthedd i wrthfiotigau ac yn fwyaf adnabyddus am ddarganfod byg peryglus NDM-1 yng nghyflenwad dŵr yfed Delhi Newydd. Roedd y byg hwn yn gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau ac achosi clefydau. Wrth siarad am y darganfyddiad, dywedodd:

"Mae dod o hyd i enyn MCR-1 yn Tsieina yn peri cryn bryder gan fod yn golygu methiant y grŵp olaf o wrthfiotigau - polimicsinau - a methiant ein haen amddiffyn olaf yn erbyn haint.

"Mae lledaeniad cyflym genynnau tebyg fel NDM-1 sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau yn awgrymu y bydd pob gwrthfiotig yn aneffeithiol cyn bo hir yn erbyn heintiau bacteria sy'n adweithio'n negyddol mewn profion gram, megis E.coli a salmonela, yr oedd modd eu trin yn y gorffennol.

"Daeth i'r amlwg yn ein hymchwiliadau yn Tsieina bod MCR-1 eisoes yn gyffredin mewn samplau E.coli mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion cig, yn ogystal â mewn ychydig o achosion dynol.

"Erbyn hyn, mae gennym dystiolaeth i awgrymu bod E.coli MCR-1-positif wedi lledaenu y tu hwnt i Tsieina, Laos a Malaysia, sy'n peri llawer o bryder.

"Bydd yr hyn a allai beri i MCR-1 achosi problem fyd-eang yn dibynnu ar y defnydd parhaus o wrthfiotigau polimicsin, fel colistin ar anifeiliaid, yn Tsieina a thu hwnt; gallu'r MCR-1 i ledaenu drwy fathau dynol o E.coli; a sut bydd pobl yn symud ar draws ffiniau Tsieina.

"Yn ôl pob tebyg, bydd MCR-1 yn lledaenu i weddill y byd ar gyfradd frawychus oni bai ein bod yn ymgymryd â dull cydlynol a byd-eang i fynd i'r afael ag ef.

"Heb wrthfiotigau newydd yn erbyn pathogenau sy'n adweithio'n negyddol mewn profion gram, ni ellir gorbwysleisio'r effaith y bydd yr enyn newydd hon yn ei chael ar iechyd pobl."