Astudiaeth yn ennill Papur Ymchwil y Flwyddyn y Coleg Brenhinol
4 Hydref 2016
Mae ymchwilwyr o Ganolfan Ymchwil Treialon Prifysgol Caerdydd yn rhan o dîm sydd wedi ennill gwobr uchel ei bri ar gyfer ymchwil i ddiagnosis o heintiau pibell droethol ymhlith plant.
Enillodd yr ymchwil gategori tri (Plant, Atgynhyrchu, Geneteg, Haint) ym Mhapur Ymchwil y Flwyddyn y Coleg Brenhinol, a gyhoeddwyd ar y cyd â chydweithwyr ym Mhrifysgolion Rhydychen a Bryste.
Gall heintiau'r llwybr troethol (UTI) mewn plant ifanc arwain at niwed i'r arennau, ond mae’n ddiarhebol o anodd gwneud diagnosis ym maes gofal sylfaenol gan fod y symptomau yn aml yn gallu bod yn amwys ac aneglur. Dim ond trwy brawf y gellir cael diagnosis pendant, ond mae casglu samplau wrin o fabanod a phlant o dan bump oed yn her. Ar ôl astudiaeth tair blynedd oedd yn cynnwys dros 7,000 o blant, mae'r tîm wedi datblygu techneg i helpu meddygon teulu a nyrsys i benderfynu oddi wrth ba blant y dylid cael sampl au wrin.
Gallai'r dechneg leihau faint o amser ac ymdrech a ddefnyddir i gasglu samplau wrin diangen a chynyddu samplu ymhlith plant sy’n fwyaf tebygol o gael heintiau'r llwybr troethol. Gobeithia ymchwilwyr y bydd hyn hefyd yn helpu meddygon teulu a nyrsys i dargedu arferion rhagnodi’n well fel mai dim ond y rheini sy'n debygol o elwa o wrthfiotigau sy’n eu cael.
Y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) sy'n ariannu DUTY (Diagnosis Heintiau Llwybr Troethol mewn Plant Ifanc), oedd yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgolion Bryste, Southampton, Caerdydd a Choleg y Brenin Llundain, a chyhoeddir canlyniadau'r astudiaeth yn yr Annals of Family Medicine.
Canfu'r astudiaeth fod rheol glinigol sy'n seiliedig ar symptomau ac arwyddion, yn rhagori ar ddiagnosis arferol gan glinigydd a'i fod yn gallu nodi plant ifanc ar gyfer samplu wrin anymwthiol.
Alastair Hay, Meddyg Teulu ac Athro Gofal Sylfaenol yng Nghanolfan Gofal Sylfaenol Academaidd Prifysgol Bryste, a gyd-arweiniodd yr ymchwil. Dywedodd: "Daeth i'r amlwg i ni y dylai meddygon teulu a nyrsys gadw golwg ar blant sy’n crio neu mewn poen wrth basio wrin, y rhai sydd ag wrin drewllyd, sydd wedi cael haint UTI yn y gorffennol, absenoldeb peswch difrifol, neu salwch difrifol yn bresennol. Mae tri neu fwy o'r symptomau hyn yn awgrymu ei fod yn werth gwneud yr ymdrech o gael sampl wrin. Er syndod, nid oedd twymyn yn ddangosydd defnyddiol ar gyfer adnabod plant â heintiau'r llwybr troethol ym maes gofal sylfaenol."
Mae'r ymchwilwyr yn argymell y dylid cael sampl glân os yn bosibl. Yn ddiweddar, canfu ymchwil a gyhoeddwyd gan yr un grŵp yn y British Journal of General Practice fod samplau a gesglir gan ddefnyddio pad clytiau hefyd yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol, ond mae cyfraddau uwch o halogiad, a all gynyddu diagnosis ffug positif a ffug negyddol. Gwelsant hefyd fod profion cadarnhaol ffon fesur am gelloedd gwaed gwyn, nitradau neu waed yn yr wrin hefyd yn ddangosyddion ar gyfer heintiau UTI posibl, ac y gall helpu i benderfynu a ddylid rhoi gwrthfiotigau ar bresgripsiwn iddynt ai peidio.
Christopher Butler, Meddyg Teulu ac Athro Gofal Sylfaenol yn Adran Gofal Sylfaenol Gwyddorau Iechyd Nuffield, Prifysgol Rhydychen, oedd un o gyd-arweinwyr yr ymchwil. Dywedodd: "Cafodd yr astudiaeth ei hariannu gan gangen ymchwil y GIG (NIHR) wedi i NICE weld bod diffyg tystiolaeth ynghylch pa symptomau ac arwyddion y dylai meddygon teulu a nyrsys eu defnyddio i wneud diagnosis o heintiau'r llwybr troethol ymhlith plant ifanc mewn gofal sylfaenol.
"Mewn ysbytai y cynhaliwyd y rhan fwyaf o'r astudiaethau blaenorol, ac nid yw tystiolaeth o'r fath bob amser yn berthnasol i bobl sy’n ymgynghori ym maes gofal sylfaenol. Astudiaeth DUTY yw’r astudiaeth gofal sylfaenol fwyaf o ran maint a manylder a chredwn ei bod wedi rhoi tystiolaeth bwysig a defnyddiol o safbwynt clinigol fydd yn diweddaru arweiniad NICE ar gyfer rheoli'r cyflwr pwysig hwn."
Dywedodd yr Athro Kerry Hood, Cyfarwyddwr y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rwyf yn falch iawn o'r tîm cyfan, a’r cydweithio llwyddiannus â chydweithwyr o Brifysgolion eraill. Dyma enghraifft wych o’r profiad a’r gallu sydd gennym yma fel y grŵp mwyaf o staff academaidd sy'n cynnal treialon clinigol yng Nghymru a'n parodrwydd i weithio gydag unrhyw ymchwilwyr sydd ganddynt syniad da a’u helpu i fynd â'r maen i'r wal nes cyhoeddi eu canlyniadau."
Mae'r adroddiad llawn am astudiaeth DUTY ar gael yn Llyfrgell Cyfnodolion Asesu Technoleg Iechyd (HTA) NIHR.