Ewch i’r prif gynnwys

Manteision iechyd apiau

26 Hydref 2016

iPhone - Locked screen

Dengys astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd y gallai apiau ffonau clyfar gynnig dull hynod effeithiol i gleifion reoli eu diabetes math 2.

Mewn arolwg o 14 o astudiaethau, gwelwyd gostyngiad yn lefelau cyffredinol glwcos yn y gwaed ym mhob achos pan oedd cleifion yn defnyddio ap hunan-reoli, o'i gymharu â'r rheiny na ddefnyddiodd ap. Yn fras, gwelwyd gostyngiad o tua 0.5% mewn HbA1c (glwcos yn y gwaed). Daeth i'r amlwg hefyd yn y dadansoddiad bod cleifion iau'n fwy tebygol o elwa ar yr apiau. Ni welwyd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod defnyddio apiau ar gyfer hunan-reoli diabetes math 1 o gymorth, ond bydd yn rhaid ymchwilio ymhellach i gadarnhau hyn.

Yn ôl Dr Ben Carter o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "O ystyried bod disgwyl y bydd dros 500m o gleifion ar draws y byd yn dioddef o diabetes erbyn 2030, mae galw mawr am offer gwell ar gyfer hunan-reoli..."

"Yn y byd sydd ohoni, â thechnoleg symudol yn cael ei ddefnyddio fwyfwy i wella ein ffordd o fyw, fel sydd eisoes wedi'i weld gyda thechnoleg ymarfer corff, gall apiau sy'n helpu cleifion hunan-reoli eu diabetes gynnig ateb rhad ac effeithiol i ganran go helaeth o boblogaeth y byd er mwyn iddynt reoli eu diabetes math 2."

Mae rheoli diabetes yn ymwneud yn bennaf â monitro a rheoli lefelau glwcos yn y gwaed. Gellir gwneud hyn trwy ofalu am eich diet a deall sut mae bwydydd yn effeithio ar lefelau siwgr yn y gwaed. Mae angen i lawer o bobl sy'n dioddef o ddiabetes gymryd meddyginiaeth hefyd sy'n helpu i reoli lefelau siwgr yn y gwaed. Mae'r apiau diabetes presennol yn galluogi cleifion i roi data yn yr ap, ac mae'n rhoi adborth ynghylch sut i'w reoli'n well. Maent yn hyrwyddo iechyd mewn modd rhad, rhyngweithiol a deinamig trwy roi'r cyfle i gleifion gadw cofnod o'u meddyginiaeth, gosod negeseuon atgoffa, cynllunio prydau bwyd, darganfod ryseitiau a chynllunio at ymweliad doctor a phrofiad gwaed.

Ychwanegodd Dr Carter, "Erbyn diwedd y degawd, rhagwelir y bydd dros 5 biliwn o bobl yn defnyddio ffonau symudol.  Felly, gall apiau, o'u defnyddio ar y cyd â dulliau hunan-reoli eraill, gynnig sylfaen i addysg diabetes a hunan-reoli."

Cafodd 14 o astudiaethau diabetes math 2, oedd yn cynnwys 1,360 o gleifion, eu hadolygu yn yr astudiaeth, ac fe'i cyhoeddwyd yn Diabetes Care.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.