Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth newydd am ganser

16 Chwefror 2017

Pills shot with shallow depth of field

Mae'r claf cyntaf wedi'i recriwtio ar gyfer astudiaeth newydd am ganser a gydlynir gan dîm o arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Gallai'r astudiaeth gael dylanwad enfawr ar y driniaeth a roddir ar gyfer math anghyffredin o ganser sy'n effeithio ar yr henoed nad ydynt yn gallu goddef triniaethau chemotherapi ymosodol.

Treial 'cam 2' yw MONACLE sy'n ceisio asesu effeithiolrwydd y cyffur tefinostat. Mae hefyd yn gweld a gaiff cleifion â lewcemia myelomonocytic cronig (CMML) unrhyw sgîl-effeithiau.

Mae CMML yn achosi i lawer o gelloedd o'r enw monosytau ymgasglu ym mêr yr esgyrn ac mewn gwaed. Mae tefinostat yn gyffur a gaiff ei gymryd drwy'r geg a dim ond pan mae y tu mewn i fonosytau y mae'n gweithio. Mewn astudiaethau labordy a gynhaliwyd yng Nghanolfan Meddygaeth Canser Arbrofol Caerdydd (ECMC), roedd tefinostat yn effeithiol yn erbyn tiwmorau monosyt, gan gynnwys CMML a rhai mathau o lewcemia myeloid acíwt (AML).

Gwir angen cyffuriau newydd

Mae CMML yn effeithio ar bobl hŷn yn bennaf ac mae dioddefwyr yn goroesi am 18 mis ar gyfartaledd. Ychydig iawn o driniaethau sydd ar gael ar gyfer CMML ar hyn o bryd, ac mae gwir angen angen cyffuriau newydd sy'n gallu targedu monosytau annormal heb achosi sgîl-effeithiau annerbyniol.

Caiff y treial Cam II ei arwain gan y Prif Ymchwilydd, Dr Steve Knapper, Darllenydd Clinigol yn yr Is-adran Canser a Geneteg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Dr Knapper yn cyd-arwain pecyn gwaith y Treialon Clinigol Cam Cynnar yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru. Caiff y treial ei reoli gan y tîm mwyaf o staff treialon clinigol academaidd yng Nghymru, y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd Dr Knapper: "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fod mewn sefyllfa i ddechrau MONOCLE oherwydd bydd yn rhoi'r cyfle i ni, am y tro cyntaf, asesu effeithiau tefinostat ymsyg cleifion â CMML- clefyd sy'n cael ei esgeuluso yn aml..."

"Bydd y treial ar gael mewn ysbytai ledled y Deyrnas Unedig. Rwyf yn ddiolchgar dros ben i'n cyllidwyr, elusen Bloodwise a Chronfa Arloesedd CRT, gan na fyddai'r astudiaeth wedi bod yn bosibl fel arall."

Yr Athro Steven Knapper Clinical Senior Lecturer

Bydd samplau gwaed a mêr esgyrn gan gleifion MONOCLE yn cael eu profi mewn labordy yng Nghaerdydd i geisio deall yn well sut mae tefinostat yn gweithio a nodi pa gleifion sydd fwyaf tebygol o elwa arno yn y dyfodol.

MONOCLE aims to determine the tolerability and safety of the Tefinostat compound. There are currently no other CMML-specific studies being held in UK.

Nod MONOCLE yw asesu diogelwch Tefinostat ac i ba raddau y gellir ei oddef. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw astudiaethau penodol eraill yn ymwneud â CMML yn cael eu cynnal yn y DU.

Dywedodd Alasdair Rankin, Cyfarwyddwr Ymchwil elusen Bloodwise: "Mae'r rhagolygon ar gyfer CMML yn wael dros ben ar hyn o bryd. Dim ond tua 20% sy'n goroesi dros gyfnod o bum mlynedd, ac nid yw triniaethau traddodiadol sy'n seiliedig ar gemotherapi yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o gleifion..."

"Mae'r canlyniadau cynnar ar gyfer tefinostat wedi bod yn addawol ac rydym yn falch iawn o gefnogi'r cam nesaf mewn proses fydd, gyda lwc, yn gallu cynnig triniaeth fawr ei hangen gam yn nes i glefion."

Dr Alasdair Rankin Cyfarwyddwr Ymchwil elusen Bloodwise

Ariennir astudiaeth MONOCLE gan elusen Bloodwise ac fe'i noddir gan Brifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Mae ein portffolio o waith yn cynnwys treialon cyffuriau ac ymyriadau cymhleth, mecanweithiau clefydau a thriniaethau, astudiaethau carfan a hysbysu polisi ac ymarfer.