Ewch i’r prif gynnwys

Athena SWAN

Sefydlwyd Siarter Athena SWAN yn 2005 i annog a chydnabod yr ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM).

Ym mis Mai 2015, ehangwyd y siarter i gydnabod gwaith yn y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, busnes a’r gyfraith, ac mewn swyddi proffesiynol a chymorth, yn ogystal ag ar gyfer staff a myfyrwyr traws. Erbyn hyn, mae’r Siarter yn cydnabod y gwaith a wneir i fynd i’r afael â chydraddoldeb o ran rhywedd yn ehangach, ac nid y rhwystrau at ddilyniant sy’n effeithio ar fenywod yn unig.

Athena SWAN core team
Sir Paul Nurse, Athena SWAN Charter Patron, presenting the Bronze Award to School Manager Dr Anna Hurley and Project Manager Janet Richardson at the awards ceremony in July 2018.

Mae'r Ysgol yn ymfalchïo ac yn cymryd cyfrifoldeb dros ymgorffori egwyddorion Siarter Athena SWAN ac roedd yr Ysgol yn falch iawn o gael y wobr efydd ym mis Ebrill 2018. Mae'r wobr yn adlewyrchu penllanw misoedd lawer o waith ac mae wedi rhoi’r cyfle i ddatblygu diwylliant urddas, cwrteisi a pharch.

Ein hamcanion

Cafodd pwyllgorau cydraddoldeb ac amrywiaeth lleol eu creu’n rhan o is-adrannau ymchwil yr Ysgol, y Ganolfan Addysg Feddygol yn ogystal â'r Ganolfan Treialon Ymchwil. Mae'r rhain yn bwydo i mewn i brif bwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Ysgol sy’n sicrhau bod y staff yn cymryd mwy o ran a bod dull cydlynol o ran mynd i'r afael â’r pedwar nod allweddol:

  1. Hyrwyddo cydraddoldeb o ran rhywedd wrth ddatblygu gyrfaoedd
  2. Cefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb ar sail ymarferol
  3. Dileu pob math o wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth
  4. Datblygu diwylliant gwaith sy’n gynaliadwy, yn gadarnhaol ac yn seiliedig ar urddas, cwrteisi a pharch

Ein llwyddiannau

Bellach, mae gennym fwy na 100 o staff ar draws pob llwybr gyrfaol sy’n cymryd rhan amlwg yn Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yr Ysgol a’r pwyllgorau lleol. Mae’r pwyllgorau lleol yn cyfarfod yn fisol, a chymerodd y rhain ran amlwg wrth lywio’r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu Athena SWAN yr Ysgol ac agenda EDI yn gyffredinol.

Mae nifer o uchafbwyntiau wedi bod ar hyd y daith tuag at gael y wobr efydd:

  • Arolwg EDI bach (er mwyn i bob aelod o staff gael dweud ei ddweud).
  • Hwyluso grwpiau ffocws (i ystyried y sylwadau yn yr arolwg a llywio'r cynllun gweithredu).
  • Creu fideo 'Active Bystander' (“Dyma'n Hysgol ni, ein cyfrifoldeb ni, peidiwch â sefyll o'r neilltu”).
  • Creu graffigyn hyrwyddo 'dweud eich dweud' (mae'r holl staff wedi ‘arwyddo’ o ran dangos cefnogaeth i ddiwylliant urddas a pharch).
  • Cyfres o ddarlithoedd Athena SWAN (hanesion personol sy'n dathlu ac yn cydnabod yr hyn y mae’r holl staff wedi’i gyflawni).
  • Cylchoedd mentora.
  • Diwrnod gwneud rhywbeth gwahanol.
  • Rhwydwaith iMPReSS sy'n trefnu digwyddiadau datblygu gyrfaol a lles ar gyfer staff yn y gwasanaethau proffesiynol gan gynnwys hyrwyddo rhaglen Prentisiaeth y Brifysgol sy'n cynnig cymwysterau gweinyddu busnes a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer ein staff gweinyddol/MPSS.
  • Fforwm Ymchwilwyr ar ddechrau eu Gyrfa (ECR) i hyrwyddo a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd datblygu gyrfa sydd ar gyfer ein hymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.

Fideo 'Active Bystander'

Fideo 'Active Bystander' a gafodd ei greu gan yr Ysgol Meddygaeth.

Cysylltu â ni

Os hoffech chi wybod rhagor am Athena SWAN a sut y gallwch chi hyrwyddo cydraddoldeb o ran rhywedd ledled yr ysgol, cysylltwch â’r tîm craidd ar bob cyfrif.

School of Medicine Equality, Diversity and Inclusion (EDI)