Ewch i’r prif gynnwys

Newyddion

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae'r astudiaeth gyntaf i nodi risg COVID-19 i weithwyr gofal ledled Cymru am lansio heddiw.

Credir bod y pandemig wedi cael effaith fawr ar iechyd 20,000 o weithwyr sy'n cynnig gofal a chymorth personol i'r henoed neu bobl sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd yn eu cartrefi eu hunain.

Ariennir yr astudiaeth, a arweinir gan Brifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe ac a gefnogir gan Ofal Cymdeithasol Cymru, gan dîm Ymchwil ac Arloesedd y DU. Bydd yn asesu iechyd gweithwyr gofal cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys haint COVID-19 ei hun, iechyd meddwl a salwch arall.

Bydd yr ymchwilwyr yn cyfuno trefn data iechyd a chyfweliadau gyda gweithwyr gofal yn y cartref i lunio darlun cyffredinol o sut mae'r gweithwyr hyn wedi ymdopi yn ystod y pandemig.

Gobeithio y bydd hyn yn cynhyrchu canlyniadau cyflym i lywio mentrau iechyd cyhoeddus ar arferion gweithio mwy diogel a chymorth ychwanegol ar gyfer staff yng Nghymru ac yng ngwledydd eraill y DU.

“Tra bod llawer o bobl wedi gweithio o gartref yn ystod y pandemig, mae gweithwyr gofal yn y cartref wedi parhau i weithio er mwyn helpu a chefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yr holl ffordd drwy'r cyfnod digynsail hwn," dywedodd yr Athro Mike Robling, Cyfarwyddwr Treialon Iechyd y Boblogaeth yng Nghanolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd a'r prif ymchwilydd ar yr astudiaeth.

“Rydym eisoes yn gwybod o ddata iechyd cyhoeddus cynnar fod risg COVID-19 wedi bod yn fwy ar gyfer yr aelodau hyn o staff na gweithwyr gofal iechyd, yn rhannol gan fod eu gwaith yn cynnwys cyswllt agos â chleientiaid yn eu cartrefi.

Bydd yr astudiaeth 18 mis yn mesur achosion o haint COVID-19 sydd wedi’u tybio a’u cadarnhau,ynghyd â’i effaith ar iechyd, gan gynnwys ar farwolaethau. Bydd hefyd yn cymharu tueddiadau o ran iechyd meddwl a salwch resbiradol arall cyn ac ar ôl y pandemig.

Caiff trideg gweithwyr gofal eu hunain eu cyfweld hefyd am eu profiadau, gan gynnwys ar gyfarpar diogelu personol ac unrhyw bryderon dros arferion gweithio neu'r hyn y maen nhw'n gofyn iddynt ei wneud.

“Bydd hyn yn ein helpu i adeiladu model o sut y byddai rhai unigolion yn wynebu mwy o risg nag eraill", dywedodd yr Athro Robling.

“Gall y risg hwn fod yn gysylltiedig ag oedran, ethnigrwydd, ffactorau iechyd gwaelodol neu ffactorau economaidd-gymdeithasol a demograffig eraill.

“Yn bwysicaf oll, byddwn yn archwilio p'un a fydd ein canfyddiadau'n berthnasol ar gyfer rhannau eraill y DU.

“Rydym yn gallu cynnal y gwaith hwn yma yng Nghymru oherwydd y ffordd rydym yn cofnodi data ar gyfer gweithwyr gofal - ni fyddai'r astudiaeth hon yn bosibl mewn gwlad arall yn y DU.

“Rydym yn gobeithio wrth i'n canfyddiadau ddod i'r amlwg, byddwn yn gallu nodi ffactorau risg cyffredinol sy'n berthnasol yr holl ffordd ar draws y DU fel y gellir defnyddio'r wybodaeth hon i ddatblygu polisi a chymorth iechyd cyhoeddus gwell ar gyfer gweithwyr gofal ar unwaith."

Cafodd yr astudiaeth £332,000 mewn cyllid o Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, sy'n rhan o dîm Ymchwil ac Arloesedd y DU, fel rhan o'i alw am ymchwil i archwilio effaith COVID-19.

Mae astudiaeth ar y defnydd o wrthfiotigau dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â Phrifysgol Rhydychen a Choleg y Brenin Llundain wedi ennill papur ymchwil y flwyddyn.

Daeth yr astudiaeth, dan arweiniad Canolfan Treialon Ymchwil ac Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, i'r casgliad y gallai prawf gwaed pigiad bys syml helpu i atal rhoi presgripsiynau gwrthfiotigau diangen i gleifion gyda chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint.

Cyhoeddwyd 'C-reactive Protein guided antibiotic prescribing for COPD exacerbations' yn New England Journal of Medicine fis Gorffennaf diwethaf, ac mae bellach weni ennill y wobr ymchwil glinigol cyffredinol yn 2019 gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu (CBMT).

Dywedodd yr Athro Nick Francis, o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd gynt ac nawr o Brifysgol Southampton: “Mae llywodraethau, comisiynwyr, clinigwyr a chleifion sy’n byw gyda COPD ar draws y byd yn mynd ati ar fyrder i chwilio am ffyrdd o’u helpu i wybod pryd mae hi’n ddiogel atal gwrthfiotigau a chanolbwyntio ar ddefnyddio triniaethau eraill er mwyn trin achosion o’r cyflwr.

“Ystyrir bod y cleifion yn wynebu risg uchel os nad ydynt yn cael gwrthfiotigau. Ond, fe lwyddon ni i sicrhau gostyngiad yn y nifer sy’n defnyddio gwrthfiotigau, ac mae hyn tua dwywaith cymaint â’r hyn a gyflawnwyd gan ymyriadau stiwardiaeth gwrthficrobaidd, gan ddangos bod hyn yn ddull diogel.”

Dywedodd yr Athro Chris Butler, cyn-athro meddygaeth gofal sylfaenol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r treial clinigol trylwyr hwn yn ymwneud yn uniongyrchol â’r ystyriaethau dybryd canlynol; cadw budd ein gwrthfiotigau presennol; potensial gofal haenedig a mwy personol; pwysigrwydd tystiolaeth gyd-destunol addas am brofion pwynt gofal wrth leihau defnydd diangen o wrthfiotigau, a; gwella ansawdd gofal ar gyfer pobl sydd â chyflwr cyffredin clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint."

Mae'r academyddion wnaeth arwain yr astudiaeth wedi gofyn i'r CBMT roi'r wobr o £1,000 i Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint er cof am Margaret Barnard, cynrychiolydd cleifion yn yr astudiaeth a fu farw o ganser yr ysgyfaint cyn i'r ymchwil ddod i ben. Dywedodd yr ymchwilwyr eu bod yn awyddus i gydnabod ei chyfraniad gwerthfawr hi, a'r cyfranwyr cyhoeddus eraill yn ei wneud, ac hefyd ei hangerdd dros yr astudiaeth.

https://youtu.be/AtZ7bnbpoNk 

Dangosodd yr astudiaeth bod prawf gwaed pigiad bys ar gyfer protein C-adweithiol yn arwain at 20% yn llai o bobl yn defnyddio gwrthfiotigau ar gyfer COPD.

Mae dros filiwn o bobl yn y DU wedi'u heffeithio gan COPD, sef cyflwr ar yr ysgyfaint sy'n gysylltiedig ag ysmygu a llygryddion amgylcheddol eraill. Mae pobl sy'n byw gyda'r cyflwr yn aml yn cael pyliau sy'n arwain at 3 allan o 4 yn cael presgripsiwn o wrthfiotigau - ond nid yw dau draean o'r rhain yn cael eu hachosi gan heintiau bacteriol, ac felly nid yw gwrthfiotigau'n gweithio yn yr achosion hyn.

Mae’r prawf pigiad bys yn mesur protein C-adweithiol (CRP). Dynodwr llid yw hwn sy’n codi yn gyflym yn y gwaed mewn ymateb i heintiau difrifol - i lywio'r broses o gael presgripsiwn o wrthfiotigau.

Mae gorddefnyddio gwrthfiotigau yn golygu ei bod hi'n anoddach trin heintiau, wrth i facteria esblygu er mwyn amddiffyn eu hunain. Ystyrir ymwrthedd i wrthfiotigau yn fygythiad byd-eang brys - ac mae lleihau'r defnydd o driniaethau o'r fath yn allweddol o ran taclo'r broblem.

Dywedodd yr Athro Butler: “Caiff y rhan fwyaf o wrthfiotigau eu rhagnodi mewn gofal meddygol sylfaenol, ac nid yw llawer o’r presgripsiynau hyn o fudd i gleifion: mae profion pwynt gofal yn cael eu hyrwyddo’n gadarn fel ateb allweddol ar gyfer targedu rhagnodi gwrthfiotigau’n well.

"Fodd bynnag, ychydig iawn o dreialon profion pwynt gofal sydd wedi’u cynnal i fesur yr ffaith ar ymddygiad clinigwyr, ymddygiad claf a deilliannau i gleifion. Pyliau gwael o glefyd cronig yr ysgyfaint sy’n gyfrifol am gyfran sylweddol o ddefnydd diangen o gwrthfiotigau, ond nid oes ateb da wedi’i ganfod hyd yma i’r broblem mewn triniaeth i gleifion allanol (pan ragnodir y rhan fwyaf o wrthfiotigau). Ein treial yw’r cyntaf o dan reolaeth biofarcwyr AECOPD mewn gofal i gleifion allanol, ac mae wedi dod o hyd i effaith a ddylai weddnewid arferion.

"Rydym wrth gwrs yn falch iawn dros y prifysgolion sydd ynghlwm (Caerdydd, Coleg y Brenin a Rhydychen), Rhaglen Asesu Technoleg Ymchwil Iechyd y Sefydliad Cenedlaethol Iechyd wnaeth ariannu'r astudiaeth, Rhwydwaith Ymchwil Clinigol NIHR ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

“Hoffem ddiolch i'r meddygfeydd wnaeth weithredu'r treial, a'r tua 600 o gleifion wnaeth roi o'u hamser a'u data i weithredu'r astudiaeth a chreu'r canfyddiadau, yn ogystal â'r cyfranwyr cyhoeddus wnaeth helpu gyda dylunio a rhannu. Rydym yn ddiolchgar iawn am y gydnabyddiaeth ardderchog hon gan CBMT am ymdrech tîm anhygoel gan ymchwil gofal sylfaenol y DU."

Health and Care Research Wales hosted their first ever digital conference on 7 October 2020, centred around the theme ‘Making a difference: the impact of health and care research’. As part of the event, the team behind the DOMINO HD study (Multi Domain lifestyle targets for improving prognosis in Huntington’s disease) received the highly commended Public and Patient Involvement (PPI) award for their presentation.

Professor Monica Busse along with DOMINO team members Dr Cheney Drew and Dr Philippa Morgan-Jones and PPI representative Barry Mackintosh entered a virtual presentation titled ‘DOMINO HD: An example of successful, cross-cultural engagement with public and patient representatives to design a multi-national observational study.’

The presentation outlined how PPI was incorporated into all aspects of their research into Huntington’s Disease (HD), a neurodegenerative disorder for which there is currently no cure or effective treatment. However, there is growing evidence that environmental and genetic factors may have a part to play in determining the course of disease progression.

DOMINO-HD is a consortium study consisting of six European partners; the UK, Ireland, Spain, Switzerland, Germany and Poland. The overarching aim of the study is to identify the key environmental factors that may be responsive in targeted interventions with a view towards optimising disease management for individuals with HD. The study has 3 main parts; development of a digital platform and implementation framework involving the development of methods for collecting information about lifestyle factors; using remote monitoring technologies to measure aspects of lifestyle and; validation of commercially available monitoring technologies for measuring lifestyle factors in people with HD.

The project involves a twelve month observational study to investigate the interplay of lifestyle and genetic factors on HD symptom progression. This will take place across the five clinical sites in Europe, involving the recruitment of around four hundred and fifty participants. The team will collect data on disease symptoms, nutrition, physical activity, sleep and genetics at baseline and 12 months. Additionally, there will be continuous collection of data on physical activity and sleep across the cohort using Fitbit devices for the 12 months. All the information gathered will be used for predictive modelling of disease outcomes, the aim of which is to inform the design and development of a cross cultural, data and theory driven lifestyle intervention, aimed at improving the quality of life of people with HD. The intention is that this intervention will be co-designed with significant input from PPI representatives.

All this work is underpinned by public and patient involvement. The initial study concept was supported by input from a number of stakeholder events and PPI activities focusing on lifestyle and physical activity of people with HD; in partnership with the HD involving people group and BRAIN Involve. In long term studies of people with challenging conditions, particularly when asking participants to engage with unfamiliar technologies, successful delivery of the study is dependent on participant centric design, therefore this was a key focus from the outset.

Dr Cheney Drew said “As a team we are delighted with the recognition of the successful incorporation of PPI in DOMINO-HD, particularly for our PPI representatives who’s enthusiasm for the research and dedication to the study have made  a significant contribution to the ongoing delivery of the project”

The multinational nature of the study requires cross cultural PPI input to ensure the relevance of the study in each partner country. As a result, a model was implemented featuring representatives from all five countries, acting as a conduit between the main research team and the wider PPI network within their own locale. This has helped to facilitate equal opportunities for involvement across all partner countries.

In an initial meeting, the team laid out their expectations of the PPI role which gave them an opportunity to identify any further training and support required for their representatives. This promoted confident and helpful input from the representatives, which proved pivotal in the co-development of participant friendly materials for gathering wider public and patient input.

One of the local representatives, Barry Mackintosh, provided his perspective as part of the presentation for Health and Care Research Wales. Barry said "I have been pleased and impressed by the efforts made by the project to include and engage with HD patients and family members. I know that our input has informed team decisions."

To find out more about this study please visit the DOMINO-HD webpages here.

Pobl sy'n profi digartrefedd ers Covid-19 yn rhan o ymchwil yn asesu'r gefnogaeth y maent wedi'i derbyn.

Mae'r astudiaeth, y cyntaf o'i fath yn y DU, yn cael ei harwain gan academyddion Prifysgol Caerdydd a'r Ganolfan Effaith Ddigartrefedd. Bydd yn asesu'n gadarn pa opsiynau tai sydd fwyaf tebygol o gynnig deilliannau cadarnhaol. Mae'r bartneriaeth arloesol hon wedi cael cyllid gan Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol sydd yn rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).

Ar ddechrau cyfnod clo Covid-19, cafodd llawer o bobl ddigartref gynnig o lety brys er mwyn hwyluso hunan-ynysu diogel. Wrth i awdurdodau lleol ddechrau creu trefniadau tai mwy addas i'r rheiny sy'n byw mewn gwestai a llety brys arall ar hyn o bryd, bydd yr astudiaeth hon yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr o ran taclo digartrefedd a lleihau Covid-19.

Bydd awdurdodau lleol yn Lloegr sy'n cymryd rhan yn cefnogi'r tîm ymchwil i ddilyn unigolion dros gyfnod o 12 mis i werthuso sut maen nhw, gan edrych ar sefydlogrwydd tai, iechyd a lles.

Y nod yw lleihau cyfradd heintio Covid-19, yn ogystal â lleihau'r risg o gyn-gysgwyr ar y stryd yn dychwelyd i ddigartrefedd.

Dywedodd Dr Peter Mackie, Prif Archwilydd yr astudiaeth, o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: "Mae pandemig Covid-19 wedi arwain at newidiadau radical o ran polisïau ac ymatebion ymarferol i ddigartrefedd. Am y tro cyntaf, mae digartrefedd wedi cael ei ystyried yn argyfwng.

Dywedodd Dr Ligia Teixeira, Prif Weithredwr y Ganolfan Effaith Ddigartrefedd: "Wrth i ni wynebu byd sydd wedi newid yn sylweddol oherwydd y coronafeirws, mae'n rhaid i ni gymryd y cyfle i ddefnyddio tystiolaeth i wella deilliannau ar gyfer y rheiny yr effeithir arnynt fwyaf. Y gobaith yw drwy gynnal y treial y byddwn yn gallu rhoi'r dulliau sydd eu hangen ar awdurdodau lleol sydd ag adnoddau cyfyngedig i sicrhau nad yw pobl yn dychwelyd i'r strydoedd."

Bydd yr astudiaeth yn cynnwys tair prif elfen:

  • Gwerthusiad effaith, er mwyn deall pa fathau o lety sydd â'r deilliannau gorau;
  • Elfen broses a gweithredu, er mwyn deall y rhwystrau a'r hwyluswyr a'r gwahaniaethau o ran sut mae modelau llety gwahanol yn cael eu defnyddio mewn gwahanol ardaloedd awdurdod lleol; ac,
  • Elfen gost, er mwyn deall pa fathau o lety sy'n cynnig y gwerth gorau am arian.

Mae'r astudiaeth, o'r enw Symud Ymlaen wedi cael £660,000 o gyllid gan UKRI yn rhan o'u rhaglen gyllid ar gyfer prosiectau tymor byr sy'n mynd ar ôl ac yn ceisio lleddfu effeithiau iechyd, cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol Covid-19. Mae'n cael ei datblygu'n gydweithredol rhwng y Ganolfan Effaith Ddigartrefedd, Prifysgol Caerdydd, Alma Economics, a grŵp o chwech o awdurdodau lleol partner.

Disgwylir i'r prosiect barhau am 18 mis. Ymysg ei gefnogwyr mae'r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau ac Awdurdodau Lleol (MHCLG), Bloomberg Associates a Comic Relief. Bydd y prosiect yn elwa ar gyngor arbenigol Tim Aubrey a Dennis Culhane, academyddion sy'n arwain y ffordd o ran ymyriadau digartrefedd o Brifysgol Ottawa a Phrifysgol Pennsylvania yn y drefn honno.

Ychwanegodd Dr Rebecca Cannings-John, arweinydd y gwerthusiad effaith o Ganolfan Ymchwil Treialon Prifysgol Caerdydd: "Symud Ymlaen yw'r treial cyntaf i gael ei gynnal yn y DU gyda phobl sy'n profi digartrefedd, ac rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio a'r Ganolfan Effaith Ddigartrefedd er mwyn ei alluogi.

Wedi'i sefydlu yn 2018, mae'r Ganolfan Effaith Ddigartrefedd yn sefydliad annibynnol sy'n cefnogi'r defnydd o ddata a thystiolaeth er mwyn ceisio dod â diwedd cynaliadwy i ddigartrefedd.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi lansio prosiect ledled y DU i ymchwilio i effaith pandemig Covid-19 ar ddiagnosis canser.

Fe wnaeth y neges gychwynnol i “Aros gartref. Diogelu’r GIG. Achub bywydau” ac atal rhaglenni sgrinio canser anfon neges gref y gall “canser aros”, meddai’r ymchwilwyr.

Bydd y prosiect ymchwil 18 mis yn edrych ar sut mae'r negeseuon hyn wedi effeithio ar bobl sy'n ceisio cymorth meddygol ar gyfer arwyddion cynnar o ganser neu ar gyfer sgrinio.

Gan weithio'n agos gydag ymchwilwyr yn Ymchwil Canser y DU, bydd yr astudiaeth yn edrych ar agweddau ac ymddygiadau cyhoeddus, gan edrych ar faterion allweddol a allai arwain at fwy o ganserau'n ymddangos neu'n cael diagnosis hwyr.

Gall y rhain gynnwys pobl sy'n diystyru unrhyw symptomau fel rhai dibwys, yn amharod i ymgynghori â'u meddyg teulu oherwydd ofn dal coronafeirws a pheidio ag ymddwyn yn iach i leihau’r siawns o ddatblygu’r clefyd.

Bydd y prosiect yn rhannu canlyniadau cyflym gyda'r GIG, asiantaethau iechyd cyhoeddus a sefydliadau'r trydydd sector i helpu i greu negeseuon iechyd cyhoeddus newydd a pherthnasol i fynd i’r afael â’r broblem.

Dywedodd y prif ymchwilydd yr Athro Kate Brain, seicolegydd iechyd o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae effaith Covid-19 ar agweddau cyhoeddus y DU tuag at ganser - sy’n troi hyn yn atgyfeiriadau gohiriedig, colli sgrinio a diagnosis canser cyfnod hwyr - yn debygol o fod yn sylweddol.

“O ddechrau’r pandemig anfonodd y neges‘ Aros gartref. Diogelu’r GIG. Achub bywydau’, ynghyd ag atal rhaglenni sgrinio canser cenedlaethol, neges gref i’r cyhoedd y ’gall canser aros’.

“Mae'n bwysig ein bod nawr yn edrych ar sut mae hyn wedi effeithio ar agweddau ac ymddygiadau pobl ynghylch pob agwedd ar ganser - o ohirio ymweld â'u meddyg teulu gyda symptomau pryderus i golli sgrinio.

“Gobeithiwn y bydd ein hymchwil yn helpu i liniaru unrhyw rai o effeithiau negyddol y pandemig ar agweddau ac ymddygiad ynghylch canser.

Mae'r ymchwilwyr yn cynnal arolwg ar-lein sy’n cynnwys o leiaf 3,500 o bobl yn ystod y ddeufis nesaf, ac eto ymhen tua chwe mis, i ofyn am symptomau diweddar, sgrinio canser ac ymddygiadau iechyd yn ystod cyfnod clo’r DU.

Bydd yr arolwg yn cynnwys cwestiynau ynghylch:

  • Yr amser a gymerodd i ymweld â'r meddyg teulu gydag ystod o symptomau canser posibl
  • Agweddau at sgrinio canser
  • Pryder ynghylch ceisio cymorth yn y sefyllfa bresennol a rhwystrau eraill rhag ceisio cymorth
  • Ymddygiadau iechyd gan gynnwys ysmygu, alcohol, diet a gweithgaredd corfforol
  • Y ffyrdd dewisol o gael gwybodaeth am iechyd cyhoeddus

Byddant hefyd yn cyfweld â thua 30 o bobl a gymerodd ran i ddeall eu hagweddau a'u hymddygiadau yn fwy manwl. Bydd yr arolwg a'r cyfweliadau yn cael eu hailadrodd gyda'r un bobl chwe mis yn ddiweddarach i asesu unrhyw newidiadau yn eu barn a'u dewisiadau o gael gwybodaeth.

Yn olaf, byddant yn cysylltu data'r arolwg â chofnodion meddygol sydd ar gael yng Nghymru i asesu nifer atgyfeiriadau a phrofion meddygon teulu ar gyfer symptomau canser a amheuir, p'un a yw pobl wedi cymryd rhan mewn sgrinio canser, a yw pobl sy'n ysmygu wedi rhoi'r gorau iddi, a nifer a cham y canserau newydd sydd wedi'u canfod.

“Bydd canfyddiadau ein hastudiaeth yn cael eu defnyddio i ddatblygu negeseuon iechyd cyhoeddus clir yn gyflym gan annog pobl i weithredu ar arwyddion cynnar canser, dechrau sgrinio am ganser pan fydd modd, ac ymddwyn yn iach,” meddai'r Athro Brain.

“Credwn y bydd hyn yn helpu i leihau effaith negyddol Covid-19 ar ddeilliannau canser yn y tymor hwy.”

Dywedodd Andy Glyde, rheolwr materion cyhoeddus ar gyfer Cancer Research UK yng Nghymru: “Mae ffigurau swyddogol wedi dangos bod nifer yr atgyfeiriadau brys ar gyfer profion canser ym mis Ebrill wedi gostwng yng Nghymru i tua thrydydd o'r lefelau arferol.

"Rydym yn bryderus iawn am hyn, gan fod diagnosis cynnar gyda mynediad cyflym i ddilyn at y driniaeth fwyaf effeithiol yr un mor bwysig nawr ag erioed o'r blaen o ran goroesi canser. Rydym yn gwybod bod pobl wedi bod yn amharod i gysylltu â'u meddyg teulu yn ystod y cyfnod clo.

“Bydd y gwaith ymchwil hwn yn amhrisiadwy o ran ein dealltwriaeth o sut i roi'r hyder i bobl geisio help ar gyfer symptomau pryderus, fel y gallwn gael y diagnosis a'r driniaeth o ganser yn ôl ar y trywydd cywir."

Bydd yr astudiaeth, a ddechreuodd yr wythnos hon, mewn oedolion o bob cefndir gwahanol ac yn 18+ oed ledled y DU. Ymchwil ac Arloesedd y DU sy’n ei ariannu.

Am y tro cyntaf, mae staff y GIG sy'n taclo Covid-19 yn defnyddio realiti rhithwir i helpu i gefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles.

Cafodd 21 aelod staff yn gweithio yn unedau gofal dwys yn ysbytai Brenhinol Morgannwg a'r Tywysog Siarl wedi fynediad at glustffon VR untro am bythefnos i weld a yw'n declyn defnyddiol i helpu gyda straen a gorbryder.

Dywedodd ymchwilwyr o Ganolfan Treialon Ymchwil (CTR) Prifysgol Caerdydd, oedd wedi gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Rescape Innovation, sy'n defnyddio VR i gefnogi adferiad a gwellhad cleifion, bod yr ymateb wedi bod yn bositif, ond bod angen astudiaeth ar raddfa ehangach.

Dywedodd y prif awdur Dr Kim Smallman, Ymgynghorydd Gwasanaeth Dylunio a Chynnal Ymchwil a Chydymaith Ymchwil yn CTR: "Daeth yr effaith ar iechyd meddwl a lles gweithwyr gofal iechyd rheng flaen, a'r angen i gynnig cefnogaeth emosiynol i'r rheiny sy'n gweithio mewn amgylchiadau eithriadol a chythryblus, yn amlwg iawn ar ddechrau'r pandemig.

"Fe wnaethom benderfynu gwerthuso'r defnydd o realiti rhithiwr i weld a allai fod yn declyn defnyddiol i staff. Mae'r canlyniadau wedi bod yn hynod bositif. Dywedodd staff oedd yn defnyddio VR eu bod wedi mwynhau'r profiad, a'i fod wedi’u helpu i ymlacio. Dyweon nhw hefyd ei fod wedi'u helpu i leihau teimladau straen a gorbryder.

Yn ystod y gwerthusiad, dewisodd y cyfranogwyr eu realiti rhithwir byd-eang eu hunain, megis taith o amgylch tirnodau Cymru gyda'r uchafbwynt yn mynd â nhw i'r Stadiwm Principality, a chlywed yr anthem cyn gêm Cymru v Lloegr, neu daith drwy goedwig law, antur o dan y môr neu saffari bywyd gwyllt. Roedd gan y cyfranogwyr ddewis o bum profiad trochol a thri gofod myfyrio gydag ymarferion anadlu dan arweiniad.

Yn y gwerthusiad, nododd y staff eu bod yn credu bod y VR yn brofiad boddhaol ac y byddent yn argymell i'w cydweithwyr ei ddefnyddio i ymlacio a lleihau straen. Yn benodol, roedd staff yn gweld gwerth y gofod myfyrio a'r ymarferion anadlu.

Dywedodd cyd-awdur y gwerthusiad Dr Michelle Smalley, seicolegydd clinigol sy’n gweithio yn unedau gofal dwys ysbytai Brenhinol Morgannwg a'r Tywysog Siarl: "Mae bod yn seicolegydd clinigol yn ystod adegau digynsail wedi gofyn am fesurau digynsail i helpu i gefnogi staff.

"O'r eiliad y rhoddais y gwisgais y clustffonau, sylweddolais y potensial oedd ganddynt i helpu gyda gorbryder a straen - ond rhaid i ni fod â sail dystiolaeth o ran dull. Mae canlyniadau'r gwerthusiad gwasanaeth hwn yn gam pwysig o ran adnabod dull hunangymorth at les sy'n effeithiol ac yn hawdd i'w ddefnyddio. Rwy'n edrych ymlaen at weld y canlyniadau ar ôl iddo gael ei roi ar waith yn ehangach."

Mae'r gwerthusiad ar gael heddiw ar blatfform ar-lein FutureVision.Health, porth a sefydlwyd i hyrwyddo manteision technolegau trochol o ran gofal iechyd.

Dywedodd Prif Weithredwr Rescape Innovation, Matt Wordley: "Erbyn hyn, rydyn ni'n chwilio am gyllid ymchwil i weld sut gall VR gael ei ddefnyddio i gefnogi iechyd meddwl a lles a hoffwn brofi, ledled y DU, ei effeithiolrwydd o ran helpu i reoli’r straen a’r gorbryder y mae llawer o weithwyr rheng flaen yn eu hwynebu ar hyn o bryd."

Ariennir y Ganolfan Ymchwil Treialon gan Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Cancer Research UK.

Bydd gan Gymru rôl hanfodol wrth ddod o hyd i ffordd o oroesi pandemig y coronafeirws yn rhan o’r cam nesaf mewn astudiaeth a arweinir gan y DU.

Mae Canolfan Treialon Ymchwil y Brifysgol yn rhan o bartneriaeth a gydlynir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae’n cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Bydd yn cymryd rhan yng ngham nesaf y treialon brechlyn a noddir gan Brifysgol Rhydychen a’i ariannu gan CEPI (Cynghrair Arloesiadau Paratoi ar gyfer Epidemig) Ymchwil ac Arloesedd y DU.

Iechyd Cyhoeddus Cymru fydd yn arwain y broses o recriwtio 500 o gyfranogwyr o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer treial brechlyn COVID-19 Grŵp Brechlyn Rhydychen.

Y nod yw darganfod brechlyn diogel a fydd yn datblygu imiwnedd yn erbyn y feirws ac felly yn atal y clefyd. Bwriad yr astudiaeth yw recriwtio 10,000 o gyfranogwyr i gyd.

Mae datblygu brechlyn COVID-19 yn rhan hanfodol o’r ymateb tymor hir i’r pandemig coronafeirws a bydd nifer o safleoedd eraill ledled y DU yn ymuno â Chymru fel rhan o gyfnod 2/3 yr astudiaeth.

Nid yw’r cyfnod hwn o’r treial ar agor i aelodau o’r cyhoedd.

Staff 18 oed a hŷn sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd a gofal o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fydd y gwirfoddolwyr. Bydd hyn yn cynnwys gweithwyr mewn ysbytai, practisau meddygon teulu, fferyllfeydd, maes ffisiotherapi, gofal cymunedol a phroffesiynau anghlinigol eraill mewn gofal eilaidd y tybir eu bod mewn risg o fod yn agored i’r coronafeirws. Bydd cyfranogwyr cymwys yn derbyn manylion oddi wrth y bwrdd iechyd ynglŷn a sut i gymryd rhan os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny.

Meddai Dr Chris Williams, Pen Ymchwilydd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arweinydd y treial brechlyn yng Nghymru:“Mae hon yn astudiaeth bwysig i roi effeithiolrwydd un o’r prif frechlynnau ymgeisiol ar brawf ar gyfer COVID-19 yng Nghymru."

Meddai’r Athro Sue Bale, Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Y farn ydy mai dod o hyd i frechlyn ar gyfer COVID-19 ydy’r unig ffordd y gallwn ni ddechrau dychwelyd i unrhyw fath o normalrwydd fel cymdeithas. Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Rhydychen wedi datblygu brechlyn ac mae gan y Bwrdd Iechyd gyfle cyffrous i 500 o’n staff gymryd rhan yn y treial ffantastig yma.”

Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n cydlynu sefydlu ymchwil ac astudiaethau yn genedlaethol yng Nghymru:“Mae ymchwil yn hollol hanfodol i ddarganfod ffyrdd newydd o ddelio â COVID-19 a’i effaith ar iechyd a gofal, a brechlyn ydy’r nod yn y pen draw. Rydw i’n falch bod ymchwilwyr yng Nghymru’n gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol i ddod o hyd i’r triniaethau mwyaf effeithiol, ac i dreialu brechlyn Rhydychen yma yng Nghymru. Mae ein cymuned ymchwil a’n staff iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud gwir wahaniaeth wrth geisio dod o hyd i ateb parhaus i’r pandemig COVID-19.

Meddai’r Athro Kerry Hood, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd:“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni’n gallu adeiladu ar ein cydweithio blaenorol ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i’w cynorthwyo nhw i sefydlu’r treial brechlyn hollbwysig yma. Fel rheol, byddai astudiaeth fel hon yn cymryd misoedd i’w sefydlu, ond gyda thîm mor ymroddedig a medrus yn gweithio ar draws ffiniau sefydliadol maen nhw wedi cyflawni camp aruthrol. Mae hwn yn gam enfawr i ymchwil, hyd yn oed os yw’n ymddangos fel cam bach yn ein hymateb cenedlaethol i COVID-19.”

Mae Prifysgol Caerdydd yn cydweithio â Choleg Imperial Llundain i sefydlu cofrestrfa fyd-eang o fenywod beichiog y mae COVID-19 yn effeithio arnynt.

Bydd y Ganolfan Treialon Ymchwil (CTR) yn cynnal cronfa ddata ar-lein PAN-COVID o fenywod sydd ag achosion wedi’u tybio a’u cadarnhau o’r Coronafeirws, o feichiogrwydd cynnar, i ôl-enedigaeth.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod ychydig o dystiolaeth yn awgrymu nad oes cymhlethdodau cysylltiedig â’r Coronafeirws yn ystod beichiogrwydd, ond cynghorir bod menywod yn cyfyngu ar eu cysylltiad cymdeithasol.

Gyda lwc, bydd yr ymchwil hon yn helpu gwyddonwyr i gael dealltwriaeth well o sut mae’r Coronafeirws yn effeithio ar feichiogrwydd cynnar, twf y ffetws, babanod cynamserol a throsglwyddo’r haint i’r baban.

Mae’r astudiaeth 18 mis yn rhan o 21 o brosiectau newydd ynghylch y Coronafeirws newydd a gyhoeddwyd heddiw gan lywodraeth y DU.

Julia Townson, y cymrawd ymchwil sy’n arwain tîm CTR yng Nghaerdydd, sydd wrth y llyw o ran datblygu’r gronfa ddata ar-lein, y bydd gweithwyr gofal iechyd o’r DU a ledled y byd yn gallu mewnbynnu data iddi’n uniongyrchol.

“Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn cynnig llawer iawn o wybodaeth i helpu i lywio gwaith atal a thrin y Coronafeirws ar gyfer menywod beichiog yn ystod y pandemig hwn,” meddai.

“Ar hyn o bryd, ychydig iawn rydyn ni’n ei wybod am sut mae COVID-19 yn effeithio ar feichiogrwydd a babanod ar ôl genedigaeth, felly mae hwn yn faes o bwys mawr i lawer o bobl, yn amlwg.

“Gobeithiwn y bydd yr ymchwil hon yn cynyddu dealltwriaeth o sut mae’n effeithio ar bob agwedd ar feichiogrwydd, ar raddfa fyd-eang.”

Bydd y CTR yn cefnogi’r astudiaeth, gan gynnig arbenigedd academaidd mewn datblygu gwefannau a chronfeydd data, rheoli data a’i astudio, a dadansoddiadau ystadegol.

Mae'r astudiaeth, a arweiniwyd gan yr Athro Christoph Lees a Dr Ed Mullins o Goleg Imperial Llundain, yn rhan o ymateb ymchwil cyflym gwerth £24.6 miliwn a ariennir gan UKRI a’r Adran Gofal Iechyd a Chymdeithasol, drwy’r Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol.

Dywedodd yr Athro Syr Mark Walport, Prif Weithredwr UKRI: “Mae ymateb y gymuned ymchwil i argyfwng COVID-19 wedi bod yn rhagorol. Mae cyfradd y gwaith yn deyrnged i sail ymchwil o safon fyd-eang y DU, a’i hymrwymiad i’r frwydr yn erbyn y clefyd hwn.”

Mae un o’r prosiectau ymchwil cyntaf sy’n ceisio mesur agweddau ac ymatebion y cyhoedd i bandemig y coronafeirws yn cael ei lansio yng Nghaerdydd.

Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn galw ar bobl ledled y DU i gymryd rhan mewn arolwg er mwyn asesu sut y mae pobl yn teimlo ac yn ymateb i un o’r argyfyngau iechyd mwyaf sy’n wynebu’r wlad mewn hanes diweddar.

Mae’r holiadur eang yn gofyn i ba raddau y mae pobl yn teimlo bod y pandemig yn effeithio ar eu bywydau, a beth yw eu barn ar y ffordd y mae’r llywodraeth a’r gwasanaethau iechyd yn ymateb.

Mae’r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd hyd at 10,000 o bobl yn cymryd rhan - a bydd y rhai sy’n trefnu’r ymateb rheng flaen yn cael mynediad cynnar at yr adroddiadau er mwyn eu helpu i lywio’r mesurau y maent yn eu cymryd.

Dywedodd Dr Rhiannon Phillips, arweinydd y prosiect a darlithydd mewn seicoleg iechyd a lles ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Rydym wedi sefydlu’r prosiect hwn yn gyflym iawn oherwydd ein bod eisiau recordio’r hyn sy’n digwydd nawr. Dyma un o’r prosiectau cyntaf o’i fath yn y DU.

“Mae’n gyfnod ansicr i nifer o bobl - mae’r sefyllfa’n newid yn gyflym - ac rydym am wneud yn siŵr ein bod ni’n recordio’r cyfan yn y presennol gan gynnwys yr heriau yr ydym yn eu wynebu.”

Dywedodd Dr Emma Thomas-Jones, ymchwilydd sy’n arwain ymchwil ar heintiau, llid ac imiwnedd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rydym am gael gwybod beth mae pobl yn ei feddwl, ei deimlo ac yn ei wneud nawr er mwyn ymateb i’r argyfwng - ond hefyd er mwyn creu cofnod hanesyddol.”

Dylech allu cwblhau'r arolwg mewn tua 20-30 munud ac mae’r cwestiynau’n cynnwys:

  • Pa mor ddifrifol ydych chi’n credu bydd y coronafeirws yn y DU?
  • A oes ofn y coronafeirws arnoch?
  • Pa mor aml ydych chi’n meddwl am y coronafeirws?
  • Pa gamau penodol ydych chi’n eu cymryd a pha mor effeithiol fydd y camau hyn yn eich tyb chi?
  • Ydych chi wedi cael digon o wybodaeth am Covid-19 a pha ffynonellau yr ydych chi’n ymddiried ynddynt?

Dywedodd yr ymchwilwyr eu bod nhw am gael sylwadau gan bobl 18 oed neu hŷn gydag amrywiaeth o brofiadau, ond roedden nhw’n arbennig o awyddus i gael ymateb gan ddynion, pobl dan 30 oed a phobl dros 60 oed. Hoffent hefyd glywed gan bobl sy’n cael y sefyllfa bresennol yn arbennig o anodd oherwydd eu hamgylchiadau personol.

Bydd yr holiadur yn cael ei anfon at 36,500 o bobl drwy’r prosiect Doeth am Iechyd Cymru, sy’n casglu data er mwyn creu darlun manwl o iechyd y genedl er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer anghenion y dyfodol. Ond mae’r ymchwilwyr yn pwysleisio eu bod nhw eisiau i bobl ledled y DU i gymryd rhan.

Maent yn bwriadu cynnal yr arolwg, nad yw’n cael ei ariannu ar hyn o bryd, eto mewn tri mis ac yna ymhen blwyddyn er mwyn mesur sut mae agweddau’n newid dros amser.

Dywedodd Dr Thomas-Jones o Ganolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn gobeithio bydd yr ymchwil hon yn ein helpu i ddeall profiadau pobl o’r pandemig nawr - ac wrth iddo ddatblygu - i helpu sefydliadau iechyd a’r GIG i ymateb mewn amser real.

“Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn helpu i lywio’r ymateb i unrhyw bandemigau a allai’r DU eu hwynebu yn y dyfodol.”

Mae’r ymchwilwyr yn bwriadu llunio adroddiad terfynol ar y prosiect a pharatoi erthygl ar gyfer cyfnodolyn academaidd. Maent hefyd yn gobeithio defnyddio eu canfyddiadau at ddibenion addysgu.

Bydd yr arolwg ar agor tan 12 Ebrill.

Ar hyn o bryd, prin iawn yw’r ymchwil i drychiadau er bod 5,000 o bobl yn y DU bob blwyddyn yn mynd trwy’r profiad sy’n newid bywyd o golli rhan o’r goes. A gyda’r disgwyliad y bydd cyfraddau diabetes yn cynyddu – un o’r prif bethau sy’n achosi trychiadau – mae llawfeddygon yn disgwyl y bydd y nifer hon yn cynyddu.

Wrth i gleifion ddisgrifio’u profiad ar ôl colli rhan o’u coes, maen nhw’n aml yn dweud ei fod wedi bod yn amser difethol; maen nhw’n teimlo’u bod nhw wedi colli ffordd o fyw, ac maen nhw’n gallu bod mewn poen mawr. Mae’n hanfodol rheoli’r boen yma yn y diwrnodau cyntaf o’u hadferiad, ond nid yw’n glir sut orau i’w reoli.

Bu ymchwil o’r Ganolfan Ymchwil Treialon, o’r enw cathetr anesthetig lleol periniwral ar ôl torri rhan helaeth o’r goes ymaith (PLACEMENT), yn edrych ar ffordd newydd o reoli poen ar ôl llawdriniaeth drychu.

Meddai’r llawfeddyg fasgwlaidd ymgynghorol, David Bosanquet, sef yr ymchwilydd arweiniol ar astudiaeth PLACEMENT: “Mae cael rhan o’ch coes wedi’i dorri i ffwrdd yn achosi llawer o boen ynddo’i hun, ond mae’r cleifion hyn hefyd yn cael rhith-boen, sef teimlo poen yn y droed sydd wedi mynd.”

Ar hyn o bryd, defnyddir morffin i reoli poen ar ôl trychiad. Er ei fod yn boenladdwr cryf, mae yna risg o sgil-effeithiau difrifol fel dryswch a dibyniaeth ar forffin.

“Yr hyn roedd yr ymchwil yn edrych arno oedd, wrth wneud y trychiad ei hun, a allen ni fewnosod tiwb tenau [o’r enw cathetr] wrth ymyl y nerf sydd newydd ei dorri, dod ag ef allan mewn man i ffwrdd o’r graith rydyn ni’n ei chreu a rhoi anesthetig ynddo am bum diwrnod. Doedd neb wedi ymchwilio’n iawn i hyn o’r blaen,” esboniodd David.

Recriwtiodd tîm yr astudiaeth 50 o gleifion a oedd yn colli rhan o’u coes, a detholwyd hanner y cleifion ar hap i dderbyn y dull newydd o leihau poen, tra derbyniodd yr hanner arall y driniaeth safonol bresennol.

“Roedd hi’n edrych fel pe bai’r cathetr yn gweithio, ond mae angen inni wneud astudiaeth fwy i edrych ar hynny’n fanylach. Fe welson ni fod cleifion yn hapus ac yn awyddus i gymryd rhan; gwnaethon ni gyrraedd ein targed recriwtio cleifion cyn pryd.”

Ariannwyd yr astudiaeth ddichonoldeb trwy grant Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd (RfPPB) Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a oedd, yn ôl David, yn “amhrisiadwy” i’w ymchwil.

Y cam nesaf fydd cynnal astudiaeth ar raddfa fwy ynglŷn â defnyddio cathetrau i leihau’r boen ar ôl llawdriniaeth drychu. Mae David hefyd yn bwriadu gwneud ymchwil i edrych ar y broses benderfynu ynglŷn â thrychiadau a gweld pa mor dda y mae llawfeddygon yn amcangyfrif deilliannau tymor hir llawdriniaeth drychu.

Meddai David, i gau: “Rydyn ni’n ceisio peidio â gorfod torri coes i ffwrdd. Rydyn ni’n ceisio gwneud llawdriniaethau eraill i achub coesau ac rydyn ni, fel llawfeddygon, yn tueddu i ystyried trychiad yn fethiant, felly dwi’n meddwl mai dyna pam dydy ymchwil i drychiadau heb ddenu rhyw lawer o sylw.

“Dwi’n meddwl bod pobl sydd wedi colli rhan o’u coes yn boblogaeth nad oes wedi bod digon o ymchwilio iddi...dwi’n wir obeithio y bydd Cymru’n gallu dod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer ymchwil i drychiadau.”