Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu cysylltiadau newydd â Tsieina

16 Chwefror 2017

Professor Nora de Leeuw and Professor Erwei Song signing memorandum of understanding

Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth â Phrifysgol Sun Yat-sen er mwyn i'r ddwy brifysgol gydweithio ym maes ymchwil canser y fron.

Llofnodwyd y memorandwm cyd-ddealltwriaeth gan yr Athro Nora de Leeuw, Rhag Is-Ganghellor, Rhyngwladol ac Ewrop, o Brifysgol Caerdydd, a'r Athro Erwei Song o Ysbyty Coffa Sun Yet-sen, yn ystod ymweliad â Tsieina gan y llywodraeth i hyrwyddo cysylltiadau rhwng Tsieina a'r DU ym maes y gwyddorau biofeddygol.

Meddai’r Athro Nora de Leeuw, Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'n fraint arwyddo'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn ar ran Prifysgol Caerdydd...”

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Phrifysgol Sun Yat-sen i gael dealltwriaeth well o'r gwahanol fathau o ganser y fron a datblygu dulliau newydd o wneud diagnosis a chynnig triniaeth."

Mae'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn cynnwys ymchwil gydweithredol ym meysydd:

  • Canser y fron negyddol-driphlyg Mae trin y math ymosodol hwn o ganser y fron (tua 15-20% o holl ganserau'r fron) yn anodd, ac nid yw'n ymateb i therapïau hormonaidd neu therapïau biolegol newydd. Mae gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Sun Yat-sen hanes o lwyddiant mewn ymchwil labordy ac ymchwil clinigol i ganser y fron, sy'n eu gwneud yn bartneriaid ymchwil delfrydol i chwilio am y sail foleciwlaidd ar gyfer y grŵp hwn o diwmorau, a'r gwaith o ddylunio/profi therapïau newydd sy'n gallu cynyddu'r cyfraddau goroesi.
  • Cyffuriau gwrth-ganser newydd sy'n targedu canser metastatig y fron Mae gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Sun Yat-sen ddiddordeb mewn darganfod a defnyddio targedau newydd ar gyfer therapi gwrth-ganser systemig. Mae'r buddiannau hyn yn cynnig potensial sylweddol i gydweithio wrth ddatblygu a phrofi cyffuriau gwrth-ganser newydd, yn enwedig ar gyfer canser metastatig y fron.
  • Treialon clinigol Mae gan Brifysgol Sun Yat-sen un o dimau canser y fron mwyaf a'r cyfleusterau clinigol gorau yn Tsieina, o ran nifer y cleifion, gwelyau ysbyty, gwasanaeth clinigol a bio-fancio tiwmorau. Gall Caerdydd gynnig ei harbenigedd sylweddol yn y gwaith o ddylunio a chynnal treialon clinigol, drwy Ganolfan Treialon Ymchwil Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, a thrwy gyfraniad ei chlinigwyr academaidd.  Bydd ymweliadau cyfnewid rhwng y ddwy Brifysgol yn cynnig cyfleoedd i gyfnewid gwybodaeth arbenigol ynglŷn â dylunio treialon clinigol arloesol o'r radd flaenaf, a allai elwa ar fentrau i recriwtio ar y cyd a chasglu bio-sbesimenau yn y ddwy wlad.

Mae gan Brifysgol Caerdydd berthynas hirsefydlog â Tsieina, gyda 50 o gysylltiadau academaidd ffurfiol rhyngddynt yn ogystal â chytundebau partneriaeth strategol gyda phrifysgolion ar draws y wlad ar gyfer ymchwil ar y cyd a chyfnewid myfyrwyr.

Rhannu’r stori hon

Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu perthynas gyda ni a fyddech yn hoffi bod yn bartner, ebostiwch ni gyda manylion o’ch cynnig.