Ewch i’r prif gynnwys

Newyddion

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

A all technoleg y gallwn ei gwisgo ein gwneud ni'n iach?

Ydy'r weithred syml o strapio monitor ar ein braich yn addasu ein hymddygiad? A allai cleifion gael budd tymor hir o wisgo dyfeisiau? A allai'r dyfeisiau bach hyn ddarparu gwybodaeth hanfodol i feddygon a fyddai’n lleihau ein risg o fod yn sâl?

Mae ‘Meddyg ar Eich Arddwrn’ yn dod â gweithwyr iechyd proffesiynol ac arbenigwyr dyfeisiau y gellir eu gwisgo o gwmnïau gan gynnwys Garmin a Fitbit at ei gilydd i drafod manteision ac anfanteision defnyddio dyfeisiau sydd â'r pŵer i newid bywydau.

Trefnir y digwyddiad hanner diwrnod gan Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru ym Mae Caerdydd, gyda siaradwyr gwadd yn dod ynghyd i ystyried ffyrdd i wella gofal cleifion.

Dywedodd Dr Matt Morgan, Pennaeth Ymchwil a Datblygu'r Ysgol: "Rydym ni ar hyn o bryd yn rhedeg prosiect gyda chyllid gan y Cyngor Ymchwil Meddygol i edrych ar dechnoleg y gellir ei gwisgo ac ystyried y ffyrdd mae'n effeithio ar ymddygiad defnyddwyr.

"Ein prif nod yw ymchwilio a yw data a gesglir gan dracwyr gweithgaredd defnyddwyr yn cyd-fynd â Phrofion Ymarfer Cardiopwlmonari, sy'n dechneg ddrud a maith ond trylwyr a ddefnyddir i asesu cleifion cyn llawdriniaeth fawr. Mae gennym ni ddiddordeb hefyd mewn profi DNA ar gyfer yr hyn a elwir yn 'enynnau ffitrwydd' a gweld sut mae'r rhain yn cyd-fynd â chanlyniadau iechyd a llawfeddygol."

Dywedodd Dr Nathan Ridell, meddyg sylfaen sydd â diddordeb mewn arloesi o ran iechyd: "Mae byd technoleg y gellir ei gwisgo yn ehangu’n gyflym ac mae yma botensial amlwg i wella gofal cleifion drwy ddarparu gwybodaeth fyw am ddim i feddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Fodd bynnag dyw gwasanaethau gofal iechyd ddim eto'n manteisio'n llawn ar ei darpariaeth a'i defnydd."

"Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn awgrymu ein bod yn ei chael yn anodd adrodd am ein lefelau gweithgaredd ein hunain yn gywir. Ond gwelwyd bod y weithred syml o ddefnyddio dyfeisiau tracio wedi gwella ymwybyddiaeth cleifion o'u ffitrwydd eu hunain."

Ymhlith y siaradwyr fydd Dr Dan Reardon, sydd wedi graddio o Ysgol Meddygaeth Caerdydd a Phrif Weithredwr y cwmni iechyd byd-eang Fitness Genes. Mae'r cwmni'n dadansoddi DNA cleient a data am ei ffordd o fyw i lunio cynllun ymarfer corff a dietegol wedi'i deilwra i'w helpu i fod yn fwy ffit.

Dywedodd Dr Reardon, sy'n gweithio yng Nghalifornia: "Y cwestiwn mawr i ymarferwyr gofal iechyd yn fyd-eang yw: a all technoleg y gellir ei gwisgo newid ymddygiad tymor hir, ysgogi cleifion, a'n helpu ni i gyd i fyw bywydau mwy iach? Ac os felly, sut gall ymarferwyr gofal iechyd sefydlu fframweithiau a rhwydweithiau sy'n cefnogi defnydd o'r dyfeisiau wrth reoli lles cleifion unigol."

Mae'r digwyddiad hanner diwrnod am ddim (gan gynnwys cinio) yn agored i ymarferwyr gofal iechyd, arbenigwyr dyfeisiau y gellir eu gwisgo ac academyddion. Caiff ei gynnal rhwng 10:00 a 15:00 ar 20 Medi. Am ragor o wybodaeth ac archebu lle, ewch i dudalen y digwyddiad.

Yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd a Choleg y Brenin Llundain, efallai bod modd ‘ailhyfforddi’ y system imiwnedd i arafu datblygiad diabetes math 1.

Fe sylwodd yr ymchwilwyr sy’n arwain arbrawf MonoPepT1De ar newidiadau amlwg yn ymddygiad systemau imiwnedd cleifion diabetes math 1 oedd wedi cael peptidau. Peptidau yw’r darnau bychain o'r moleciwlau protein sydd i’w canfod yng nghelloedd beta y pancreas.

Mae diabetes math 1 yn datblygu pan mae system imiwnedd y claf yn ymosod ar y celloedd beta sy’n cynhyrchu yn y pancreas. Heb ei drin, bydd nifer y celloedd beta yn gostwng yn raddol ac ni fydd y corff yn gallu cynnal y lefelau arferol o siwgr(glwcos yn y gwaed).

Ar y trywydd cywir

Mae’r Athro Mark Peakman yn ymgymryd â gwaith sy’n cael ei gefnogi gan Ganolfan Ymchwil Fiofeddygol (BRC) y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol (NIHR) yn Ymddiriedolaeth Sefydliad y GIG Guy and St Thomas a Choleg y Brenin, a dywedodd: “Pan mae rhywun yn cael diagnosis o ddiabetes math 1, bydd ganddyn nhw rhwng 15% a 20% o’u celloedd beta o hyd fel arfer. Roedden ni am weld a fyddai modd i ni amddiffyn y celloedd sy’n weddill drwy ailhyfforddi’r system imiwnedd i beidio ag ymosod arnyn nhw.

“Mae llawer i’w wneud o hyd, ond mae’r canlyniadau cynnar yma yn awgrymu ein bod ar y trywydd cywir. Mae’r dechnoleg peptid a ddefnyddir yn ein treial yn ddiogel i gleifion ac mae’n cael effaith amlwg ar y system imiwnedd hefyd.”

Nid oes iachâd ar gyfer diabetes math 1 ar hyn o bryd. Gall y clefyd effeithio ar brif organau’r corff, gan gynnwys y galon, pibellau gwaed, y nerfau, y llygaid a'r arennau. Mae’r DU yn un o’r gwledydd sydd â’r cyfraddau uchaf o ddiabetes math 1 yn y byd, ac mae 400,000 o bobl yn byw gyda’r cyflwr ar hyn o bryd.

“Roedd yn galonogol gweld bod angen llai o inswlin ar y bobl a gafodd y driniaeth i reoli lefelau eu glwcos, gan awgrymu bod eu pancreas yn gweithio’n well” meddai’r Athro Colin Dayan o Brifysgol Caerdydd, Prif Archwiliwr clinigol yr astudiaeth.

Cefnogwyd yr astudiaeth gan Diabetes UK a JDRF, elusen diabetes math 1.

Wella ein dealltwriaeth

Dywedodd Dr Elizabeth Robertson, Cyfarwyddwr Ymchwil Diabetes UK, elusen sy'n cefnogi prif awdur yr astudiaeth: “Mae Diabetes UK wedi ymrwymo i wella ein dealltwriaeth o’r ymosodiad ar y system imiwnedd a dod o hyd i ffyrdd o’i hatal. Mae’r canfyddiadau newydd hyn yn gam cyffrous ymlaen tuag at greu imiwnotherapi i atal y clefyd difrifol hwn rhag datblygu ymhlith cleifion risg uchel, neu ei atal rhag gwaethygu ymhlith y rhai sydd eisoes wedi cael diagnosis o’r cyflwr.”

Karen Addington yw Prif Weithredwr elusen diabetes math 1 JDRF yn y DU a wnaeth ariannu’r ymchwil, a dywedodd: “Mae ymchwil imiwnotherapi cyffrous fel yma yn cynyddu’r posibilrwydd y bydd modd amddiffyn a gwarchod celloedd sy’n cynhyrchu inswlin ryw ddydd. Gallai hynny olygu y bydd angen i bobl sydd mewn perygl o gael diabetes Math 1 gymryd llai o inswlin yn y dyfodol, a hyd yn oed sefyllfa yn y dyfodol pan na fydd angen i unrhyw un orfod cael pigiadau dyddiol i aros yn fyw.”

Yn dilyn llwyddiant arbrawf MonoPepT1De, a gefnogwyd gan BRC NIHR yn Guy’s and St Thomas a Choleg y Brenin Llundain, mae Coleg y Brenin ac UCB Biopharma yn cydweithio ar gynnyrch ar gyfer y genhedlaeth nesaf – MultipepT1De - mewn astudiaeth ddiogelwch Cam 1b.

Mae UCB wedi cael trwyddedau penodol gan Goleg y Brenin Llundain i ddatblygu MonopepT1De a MultipepT1De ar draws y byd ac maent yn bwriadu datblygu Multipept1de ymhellach.

Cyhoeddir yr astudiaeth – ‘Metabolic and immune effects of immunotherapy with proinsulin peptide in new-onset type 1 diabetes’ yng nghyfnodolyn Science Translational Medicine.

Mae animeiddiad newydd a phwerus newydd a gynhyrchwyd gan Brifysgol Caerdydd ac a drosleisiwyd gan Syr Tony Robinson, wedi amlygu’r anawsterau cyfathrebu y mae pobl â dementia yn eu hwynebu. Y nod yw helpu gofalwyr i ddeall a chefnogi pobl sydd â’r cyflwr yn well.

Yn seiliedig ar ddegawd o ymchwil gan yr Athro Alison Wray o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol, bydd y ffilm yn helpu teuluoedd a gofalwyr proffesiynol i ddeall pam mae cyfathrebu â rhywun â dementia yn gallu bod mor heriol.

Yn un o Gymrodorion Anrhydeddus y Brifysgol, mae Syr Tony Robinson - sydd hefyd yn gennad i Gymdeithas Alzheimer ac sydd â phrofiad teuluol o ddementia - yn trosleisio’r ffilm sy’n sôn am y dryswch sy’n gysylltiedig â cholli cof.

Camddealltwriaethau a rhwystredigaethau

Mae’n dangos sut y caiff pobl â dementia drafferth dod o hyd i eiriau a gwneud synnwyr o’r byd, ond hefyd sut maent yn datblygu dulliau ymdopi, ac effaith y rhain ar y negeseuon y maen nhw’n eu mynegi.

Mae hefyd yn edrych ar sut mae pobl eraill yn debygol o ymateb i’w negeseuon. Bydd hy yn helpu gofalwyr i sylweddoli nad oes bai arnyn nhw na’r sawl sydd â dementia am yr amryw gamddealltwriaethau a rhwystredigaethau sy’n gallu digwydd.

Meddai’r Athro Wray: “Gall gofalu am rywun â dementia fod yn heriol ac achosi cryn straen, ac mae angen syniadau ar ofalwyr, y teulu a gweithwyr proffesiynol, i’w helpu i wneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd. Mae’r ffilm yn ystyried cymhlethdodau rhyngweithio â rhywun â dementia. Mae’n edrych ar ddeilliannau cymdeithasol yr heriau gwybyddol sy’n deillio o ddementia, yn ogystal â pha mor wydn yw ein hymddygiad rhyngweithio cymdeithasol sylfaenol yn wyneb y cyflwr...”

Mae’r awgrymiadau i ofalwyr yn y ffilm yn cynnwys bod yn amyneddgar, newid tôn y llais ac edrych am y rhesymau y tu ôl i eiriau neu ymddygiad unigolyn â dementia. Mae hefyd yn dangos sut y gall gofalwyr uniaethu ag ymatebion a helpu pobl â dementia i ddod o hyd i wybodaeth goll.

Dywedodd Syr Tony Robinson: “Mae uniaethu â rhywun sydd â dementia yn gallu bod yn dalcen caled. Ond mae pob amser reswm y tu ôl i ymddygiad y dioddefwr, waeth pa mor ddisynnwyr y mae’n ymddangos, a’i ofynion cynhyrfus...”

Mae’r animeiddiad ar gael yma ac mae’n rhad ac am ddim i bawb. Mae hefyd wedi’i rannu gyda darparwyr gofal ar y cyd a darparwyr hyfforddiant gofal sy’n cydweithio â ni gan gynnwys Wesley Mission Queensland, Six Degrees Salford a Sunrise Senior Living.

Dywedodd Phil McEvoy, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Gymdeithasol Six Degrees: “Rydym wedi defnyddio’r ffilm yn ein cyrsiau emPoWereD Conversations ar gyfer y rhai sy’n gofalu am bobl sydd â dementia. Mae’n ffilm yn un hwylus dros ben. Mae’r strategaethau’n cael eu hegluro’n glir iawn ac maen nhw’n hawdd i’w defnyddio...”

Cafodd yr animeiddiad, sy’n seiliedig ar brosiect ymchwil yr Athro Wray - The Dynamics of Dementia Communication - ei ddarlunio gan David Hallangen a’i ariannu drwy grant Effaith gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Caiff ail ffilm, fydd hefyd gyda Syr Tony, ei rhyddhau yn yr hydref.

Mae ysmygwyr sy’n cael sgan CT o’u hysgyfaint yn fwy tebygol o roi’r gorau iddi yn ôl a arweiniwyd gan Brifysgol Caerdydd.

Mae canfyddiadau’r astudiaeth, sy’n edrych ar effaith sgrinio CT ar ysmygwyr sydd â risg uchel o ddatblygu cancr yr ysgyfaint, yn herio’r gred fod canlyniad sgrinio negatif yn rhoi ‘rhwydd hynt i ysmygu’, ac yn dangos fod ymgymryd â sgrinio’r ysgyfaint yn gallu rhoi cyfle i ysmygwyr gael mynediad at gymorth i roi’r gorau i ysmygu ar adeg pan fônt yn debygol o fod yn agored i gynigion o gymorth.

Meddai Dr Kate Brain, Darllenydd yn Yr Isadran Meddygaeth Boblogaeth: “Mae ein treial yn dangos bod sgrinio cancr yr ysgyfaint yn cynnig cyfle euraid i ddysgu sut i roi’r gorau i ysmygu ymhlith grwpiau risg uchel yn y DU...”

Cymerodd 4,055 o bobl 50-75 oed ran yn y treial, a arweiniwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio gyda Phrifysgol Lerpwl, King’s College a Phrifysgol Queen Mary. Cawsant eu rhannu ar hap naill ai’n grŵp a dderbyniodd sgrinio CT dogn-isel ar gyfer canfod cancr yr ysgyfaint yn gynnar, neu grŵp rheoli na dderbyniodd sgrinio.

Ymhlith yr ysmygwyr a gymerodd ran yn y sgrinio, llwyddodd 10% i roi’r gorau i ysmygu ar ôl pythefnos, a 15% wedi rhoi’r gorau iddi ymhen dwy flynedd - y ddwy fel ei gilydd yn gyfraddau uwch nag a welwyd yn y grŵp rheoli.

Yr gyfradd farwoldeb uchaf o’r holl gancrau yn y DU

Treial Peilot Sgrinio Cancr yr Ysgyfaint y DU (UKLS) yw’r cyntaf i asesu dichonoldeb, cost-effeithiolrwydd ac effaith ymddygiadol sgrinio cancr yr ysgyfaint, gan ddefnyddio dogniad-isel unigol sgrinio CT ar boblogaeth risg-uchel yn yr DU.

Cancr yr ysgyfaint yw un o’r cancrau mwyaf cyffredin a difrifol a chanddo’r gyfradd farwoldeb uchaf o’r holl gancrau yn y DU. Mae oddeutu 44,500 o bobl yn derbyn diagnosis o’r cyflwr bob blwyddyn yn y DU.

Ariannwyd treial peilot UKLS gan raglen Asesu Technoleg Iechyd Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd (NIHR).

Cyhoeddir y cyhoeddiad gwyddonol llawn ‘Impact of low-dose CT screening on smoking cessation among high-rsk participants in the UK Lung Cancer Screening Trial’ yn Thorax.

Mae canlyniadau o Ganolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd yn awgrymu y gallai cleifion sydd â chlefyd Huntingdon (HD) aros yn weithredol am gyfnod hirach os ydyn nhw'n dilyn rhaglenni ymarfer sydd wedi'u cynllunio'n dda a'u cefnogi'n broffesiynol.

Anhwylder genetig yw HD sy'n effeithio ar yr ymennydd ac sy'n raddol achosi i bobl golli eu gallu i symud a meddwl. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw driniaeth (gan gynnwys meddyginiaethau a therapïau eraill) y gellir eu defnyddio i arafu neu atal y clefyd rhag datblygu. Credir y gallai ymarfer a gweithgaredd corfforol fod yn ffordd dda a rhad i helpu pobl gydag HD i gadw eu gallu i symud a meddwl cyhyd ag y bo'n bosibl.

Datblygodd ymchwilwyr ar yr astudiaeth Engage-HD raglen ymarfer corff i bobl sydd â HD gan gynnal treial clinigol i asesu a oedd yn bosibl cynorthwyo cyfranogwyr i ddilyn y rhaglen.

Cynhaliwyd Engage-HD mewn wyth canolfan HD arbenigol ar draws y DU gan gynnwys 46 o bobl gydag HD:

  • Rhoddwydd 22 o bobl yn y grŵp 'ymarfer corff'
  • Rhoddwyd 24 o bobl mewn grŵp 'cyswllt cymdeithasol'.

Bu'r grŵp ymarfer corff yn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol am gyfnod o 16 wythnos, gyda chymorth hyfforddwr oedd yn eu cefnogi gyda 6 ymweliad cartref a 3 galwad ffôn. Arweiniwyd yr ymarferion gan DVD ymarfer a grëwyd yn arbennig a llyfr gwaith. Roedd y tîm astudio'n mesur i weld a oedd yr hyfforddwyr yn cynorthwyo'r bobl i wneud yr ymarferion yn iawn a pha mor dda oedd y bobl yn y grŵp ymarfer yn cadw at y gweithgaredd corfforol uwch.

Ni chafodd y grŵp cymdeithasol yr hyfforddiant ymarfer corff na'r deunyddiau ymarfer, ond derbynion nhw'r un faint o ymweliadau cartref a galwadau ffôn.

Man performing exercise routine


Gan ddefnyddio system casglu data hygyrch newydd ar y we, mesurodd yr ymchwilwyr bedwar maes allweddol:

  • meddwl
  • symud
  • ansawdd bywyd
  • meddyliau'r unigolyn ynghylch pa mor dda mae'n gallu gwneud pethau.

Doedd dim gwahaniaeth rhwng y grwpiau ymarfer a chymdeithasol o ran gallu'r cyfranogwr i symud neu feddwl. Fodd bynnag adroddodd y rhai yn y grŵp ymarfer corff lefelau uwch o weithgaredd corfforol a mwy o hyder i allu gwneud ymarfer corff.

Gellir defnyddio'r wybodaeth hon nawr i gynllunio astudiaethau mwy o faint i weld a allai rhaglen ymarfer helpu pobl sydd â HD i gadw mor ffit ac iach â phosibl am gyfnod hirach.

Dywedodd yr Athro Monica Busse, Cyfarwyddwr Treialon y Meddwl, yr Ymennydd a Niwrowyddoniaeth yn y Ganolfan Treialon Ymchwil am astudiaeth Engage-HD: “Ar ôl dros 5 mlynedd o weithio i sefydlu'r cysyniad hwn, rydym ni'n hynod o falch i fod mewn sefyllfa i gefnogi pobl sydd â Chlefyd Huntingdon yn realistig i fod yn weithgar er gwaethaf yr heriau sy'n gysylltiedig â'u clefyd...”

“Rydym ni nawr yn gobeithio adeiladu ar yr ymchwil i helpu i ddarparu rhaglenni ymarferol ar sail tystiolaeth a allai fod o fudd i gleifion HD.”

Cyhoeddir ‘Physical Activity Self-Management and Coaching Compared to Social Interaction in Huntington Disease: Results from the ENGAGE-HD Randomized, Controlled Pilot Feasibility Trial’ yn Physical Therapy.

Astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd yn dangos nad oes cefnogaeth ar gael gan gymheiriaid i famau sy’n bwydo ar y fron mewn llawer o ardaloedd y DU.

Cafodd yr ymchwilwyr afael ar ddata gan bron pob sefydliad GIG yn y DU sy'n rhoi gwasanaethau mamolaeth, a daeth i’r amlwg mai dim ond mewn 56% o ardaloedd Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth y GIG y mae cefnogaeth gan gymheiriaid ar gael. Gwelwyd hefyd amrywiaeth rhwng ardaloedd o ran beth sy’n cael ei ddarparu.

Meddai Dr Aimee Grant, o Ganolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd: “Yn groes i'r canllawiau cenedlaethol, sy'n nodi y dylai cefnogaeth gan gymheiriaid fod ar gael yn y DU i helpu mamau i ddechrau bwydo ar y fron a dal ati i wneud hynny, daeth i’r amlwg i ni fod y gefnogaeth ledled y wlad ac o fewn rhanbarthau yn amrywio...”

Dangosodd yr astudiaeth hefyd bod:

  • amrywiaeth yn y cynnwys a bod diffyg arian mewn sefydliadau yn aml yn dylanwadu ar ddull darparu gwasanaethau cefnogaeth gan gymheiriaid
  • hyd yn oed Roedd llawer o wasanaethau yn anelu at ddiwallu anghenion y mamau o gefndiroedd cymdeithasol tlotach, oedd nad ydynt yn denu iddynt fel defnyddwyr gwasanaeth
  • nid oedd y grwpiau cefnogi bwydo ar y fron na’r gwasanaethau cefnogaeth gan gymheiriaid yn cadw cofnod rheolaidd o faint o ddefnydd oedd yn cael ei wneud o’r gwasanaeth

Meddai’r Athro Shantini Paranjothy o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, sy'n arwain rhaglen waith ehangach yn y maes hwn: “Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell mai dim ond ar y fron y dylai babanod gael eu bwydo yn ystod chwe mis cyntaf eu bywydau. Fodd bynnag, dim ond 1% o fenywod yn y DU sy’n gwneud hyn ac mae dros dri chwarter y menywod yn rhoi’r gorau i fwydo ar y fron cyn y byddent wedi hoffi gwneud hynny...”

“Dangosodd ein harolwg fod amrywiaeth eang o ran yr hyn sydd ar gael i fenywod yn y DU. Mae angen rhagor o ymchwil i ddod o hyd i'r ffyrdd mwyaf effeithiol o roi cefnogaeth gan gymheiriaid i helpu mamau sydd am fwydo ar y fron yn y DU.”

Mae’r ymchwil newydd 'Availability of breastfeeding peer-support in the UK: a cross-sectional survey' wedi’i chyhoeddi yn y cyfnodolyn Maternal and Child Nutrition.

Ariannwyd yr astudiaeth hon gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol (NIHR) (rhif neu gyfeirnod y prosiect 13/08/05).

A new £1.4m national research trial to tackle antibiotic overuse in hospitalised children and reduce the spread of antimicrobial resistance is being led by the University of Liverpool and Alder Hey Children’s NHS Foundation Trust with support from the Centre for Trials Research at Cardiff University.

The ‘Biomarker-guided duration of Antibiotic Treatment in Children Hospitalised with confirmed or suspected bacterial infection’ (BATCH) trial is funded by the National Institute for Health Research Health Technology Assessment Programme (NIHR HTA) and will be conducted across ten sites in the UK.

Read more

Mae aelodau o gymuned y Brifysgol wedi'u hanrhydeddu am eu cyfraniad eithriadol i gymdeithas yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

Ymhlith y rhai sydd wedi'u cydnabod mae'r Athro Malcolm Mason, Athro Ymchwil Canser Cymru mewn Oncoleg Glinigol yn yr Ysgol Meddygaeth, sy'n derbyn OBE am wasanaethau i'r GIG ac ymchwil canser.

Yr Athro Mason oedd un o gynllunwyr gwreiddiol y treial clinigol STAMPEDE, sydd wedi dangos sut mae cyfraddau goroesi dynion gyda chanser datblygedig y brostad wedi gwella'n sylweddol drwy ychwanegu cemotherapi neu ffurfiau newydd o therapi hormonau at y therapi hormonau safonol.

Yn flaenorol, bu'n cadeirio'r grŵp a gyhoeddodd ac a fu'n monitro safonau newydd ar gyfer trin canser yng Nghymru. Mae hefyd yn un o arweinwyr creiddiol y rhaglen sy'n diffinio'r system dosbarthu ryngwladol ar gyfer camau canser, ac mae’n arwain y tîm sy'n gwerthuso tystiolaeth ymchwil newydd sy'n ategu hyn.

Fanc Canser Cymru

Hefyd sefydlodd Fanc Canser Cymru, sef y banc tiwmor cenedlaethol cyntaf yn y DU, sydd wedi'i gydnabod fel model i eraill yn y DU ac yn rhyngwladol.

Dywedodd yr Athro Mason: “Rwyf i wrth fy modd i gael fy anrhydeddu yn y modd hwn...”

Financial analytics software

Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi

Cafodd Dr Alison Parken o Ysgol Busnes Caerdydd ei chydnabod gydag OBE am ei gwaith ar gydraddoldeb ac amrywiaeth. Dr Parken yw arweinydd prosiect Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi (WAVE) ac mae ei hymchwil helaeth wedi creu sail tystiolaeth ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb economaidd-gymdeithasol drwy lunio polisïau ac mewn arferion sefydliadol.

Dywedodd Dr Parken: “Rwy'n falch iawn fod ymchwil a gynlluniwyd i hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi'i gydnabod drwy'r system Anrhydeddau.

“Rwy'n arbennig o falch os yw hyn yn arwydd fod prosiectau ymchwil cydweithredol gyda chyflogwyr i fynd i'r afael â chyflogaeth ac anghydraddoldebau cyflog, drwy brosiectau fel Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi, wedi gwneud gwahaniaeth.”

Schoolgirl in lab gear

Science made simple

Mae Wendy Sadler o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn derbyn MBE am wasanaethau i wyddoniaeth, cyfathrebu peirianneg ac ymgysylltu. Yn 2002, sefydlodd Wendy science made simple, sefydliad sy'n dod â gwychder gwyddoniaeth yn fyw gyda sioeau rhyngweithiol rhyfeddol, egni uchel, mewn ysgolion a gwyliau.

Wrth sôn am ei MBE dywedodd Wendy: "Pan gyrhaeddodd y llythyr, fe'm syfrdanwyd. Mae'n anrhydedd enfawr cael cydnabyddiaeth am flynyddoedd o waith caled; hyrwyddo pwysigrwydd dysgu'n seiliedig ar wyddoniaeth sy'n ddifyr ac yn ymgysylltu â phobl ifanc. Heb fy nhîm angerddol ac ymroddedig, fyddwn i byth wedi gallu cyflawni unrhyw beth yn debyg i hyn. Hoffwn ddiolch iddyn nhw ac i bawb sydd wedi cefnogi science made simple dros y 15 mlynedd ddiwethaf o waelod fy nghalon.”

Un arall a gafodd gydnabyddiaeth oedd yr Athro Pamela Taylor, deiliad Cadair Seiciatreg Fforensig yn yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol yn yr Ysgol Meddygaeth, a dderbyniodd CBE am ei gwasanaethau i seiciatreg fforensig.

“Yn anrhydedd mawr”

Nod ymchwil yr Athro Taylor yw ceisio gwella iechyd a diogelwch pobl sydd ag anhwylderau iechyd meddwl sy'n dod yn droseddwyr, ac iechyd a diogelwch y bobl maen nhw'n cysylltu â nhw, boed eu teulu, y gwasanaethau cyfiawnder troseddol, staff y trydydd sector neu'r cyhoedd yn ehangach.

Wrth siarad am ei CBE dywedodd yr Athro Taylor: “Mae hwn yn anrhydedd mawr, a hoffwn ei rannu gyda'r cydweithwyr niferus, yr ymchwilwyr, athrawon a sefydliadau rwyf i wedi gweithio gyda nhw yma yn y DU ac ar draws y byd. Yn benodol, hoffwn ddiolch i Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol Prifysgol Caerdydd a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion. Heb yr holl gefnogaeth, fyddwn i ddim wedi gallu ennill y wobr arbennig iawn hon.”

Meddai’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Rydym ni'n falch iawn i weld cydnabyddiaeth i waith ac ymroddiad ein staff a'n cymuned ehangach...”

Daw ymchwil gan Brifysgol Caerdydd i’r casgliad y gall adfywio cymdogaethau difreintiedig dan arweiniad y gymuned wella iechyd meddwl y trigolion.

Yn ôl yr astudiaeth - un o’r rhai cyntaf yn y byd i fesur y newidiadau i iechyd meddwl yn ystod gwaith adfywio’r gymdogaeth - bu newid bach ond mesuradwy i iechyd meddwl y trigolion yn ardaloedd Bwrdeistref Sirol Caerffili lle gwnaed gwaith adfywio yno dan arweiniad y gymuned. Roedd hyn yn cymharu’r trigolion ag ardal na chafodd ei hadfywio. Roedd hyn yn cyfateb i un o bob tri o drigolion mewn ardaloedd adfywio yn nodi bod eu symptomau’n well.

Gwelwyd hefyd gysylltiad amlwg rhwng yr amser a fuodd y trigolion yn byw yno ag iechyd meddwl. Awgryma hyn mai’r hiraf y mae person yn byw mewn ardal sy’n cael ei hadfywio, y mwyaf y gwnaeth ei hiechyd meddwl nhw wella.

Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf oedd y rhaglen adfywio cymdogaethol a werthuswyd. Menter gan Lywodraeth Cymru yw hon i leihau lefelau tlodi mewn 100 o’r 881 o wardiau etholiadol mwyaf difreintiedig yng Nghymru (Y Deyrnas Unedig). Gan ddefnyddio data dienw o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, meddygfeydd teulu ac astudiaethau blaenorol, astudiwyd 10,892 o drigolion o ardaloedd oedd wedi cael arian adfywio gan y fenter Cymunedau yn Gyntaf, a’r rhai hynny nad oedd wedi cael cymorth o’r fath. Dilynwyd y bobl yma am gyfnod o saith mlynedd (2001 hyd 2008).

Yn ôl arweinydd yr ymchwil, Dr James White, Uwch-ddarlithydd ym maes Iechyd Cyhoeddus yn y Ganolfan Treialon Ymchwil a Chanolfan DECIPHer: “Ni ddylid gorbwysleisio arwyddocâd yr ymchwil hon. Caiff biliynau o ddoleri eu gwario ar brosiectau adfywio ledled y byd, ac ychydig iawn sydd wedi’u gwerthuso...”

“Gwelsom fod Cymunedau yn Gyntaf yn lleihau’r blwch rhwng iechyd meddwl y bobl sy’n byw yn y cymdogaethau mwy difreintiedig a’r rhai sy’n byw mewn mannau llai difreintiedig.”

Yn ystod cyfnod yr astudiaeth (2001 hyd 2008), cwblhawyd 1,500 o brosiectau adfywio ym Mwrdeistref Sirol Caerffili (Cymru, y Deyrnas Unedig) yn rhan o raglen Cymunedau yn Gyntaf. Costiodd hyn £82,857,180.

Roedd y math o brosiectau adfywio’n amrywiol, ac yn cynnwys:

  • troseddu: gosod goleuadau stryd;
  • addysg: mwy o gynorthwywyr addysgu;
  • iechyd; darparu offer chwaraeon;
  • tai a’r amgylchedd ffisegol: gwneud gwaith cynnal a chadw ar dai ac atgyweirio, ailddatblygu tir gwastraff;
  • cymorth busnes a hyfforddiant galwedigaethol: rhoi sgiliau cyfrifiadurol a hyfforddiant i bobl ddi-waith;
  • y gymuned: adeiladu canolfannau cymunedol.

Dangosodd yr astudiaeth hefyd bod y nodweddion canlynol yn fwy cyffredin ymysg trigolion yn yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf cyn y gwaith adfywio: diweithdra (3.2% o’i gymharu â 2.5%), salwch neu anabledd (17.1% o’i gymharu â 10.6%), byw mewn llety rhent (25.8% o’i gymharu ag 14.7%), a byw mewn tlodi (58.8% o’i gymharu â 43.9%).

Ychwanegodd Dr White: “Mae’r rhaglen adfywio Cymunedau yn Gyntaf a werthuswyd gennym yn unigryw gan mai’r bobl oedd yn byw yn y gymuned, yn hytrach na chynghorau lleol neu lywodraethau, wnaeth adnabod yr ardaloedd a oedd angen eu hadfywio. Canlyniad y canfyddiad hwn, o ran llunio polisi, yw bod gwaith adfywio sydd wedi’i dargedu a’i arwain gan y preswylwyr yn y cymunedau trefol difreintiedig yn gallu lleihau anghydraddoldebau ym maes iechyd meddwl.”

Mae’r awduron yn gobeithio y bydd yr ymchwil yn llywio polisïau er mwyn gwella iechyd meddwl a lleihau’r anghydraddoldebau ym maes iechyd meddwl ar lefel y boblogaeth.

Cyhoeddir yr astudiaeth ‘Improving Mental Health through the Regeneration of Deprived Neighbourhoods: A Natural Experiment’ yn yr American Journal of Epidemiology.

Mae rhoi farnais fflworid ar ddannedd plant yr un mor effeithiol ar gyfer atal pydredd dannedd â'r dull arall o selio dannedd, a gallai arbed arian i'r GIG, yn ôl astudiaeth dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.

Fel rhan o astudiaeth 'Sêl neu Farnais?', a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, cafodd mwy nag 800 o blant eu trin naill ai â sêl tyllau neu farnais fflworid er mwyn darganfod pa driniaeth oedd yn cynnig y gwerth gorau am arian ar gyfer plant rhwng 6 a 7 oed.

Child receiving dental treatment

Haen blastig a roddir ar ddannedd er mwyn atal bwyd a bacteria rhag glynu wrthynt yw sêl tyllau, ac maent yn para am sawl blwyddyn. Neu, gellir rhoi farnais fflworid ar ddannedd ddwywaith y flwyddyn i roi amddiffyniad ychwanegol.

Ymhlith plant a gafodd y driniaeth â fflworid, roedd gan 17.5% ohonynt bydredd ar eu cilddannedd a oedd yn ddigon gwael bod angen llenwad neu fod angen tynnu'r dant allan ar ôl tair blynedd. Yn y grŵp a gafodd ei drin â sêl, roedd gan 19.6% o blant bydredd yn eu cilddannedd cyntaf. Dros y tair blynedd cafodd £68.13 ei arbed yn y grŵp a gafodd ei drin â'r farnais.

Dywedodd arweinydd yr astudiaeth, yr Athro Ivor Chestnutt, o Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae ein gwaith ymchwil wedi dangos bod farnais fflworid yn atal pydredd dannedd yr un mor dda â thriniaeth sy'n anoddach ac yn ddrytach. Mae defnyddio farnais fflworid yn broses syml ac mae'r ymyrraeth yn llai cymhleth na'r hyn sydd ei hangen ar gyfer gosod sêl blastig...”

Pydredd yn y dannedd yw un o'r clefydau mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar ddynol ryw. Mae gan 35% o boblogaeth y byd, sef 2.4 biliwn o bobl, bydredd yn eu dannedd parhaol sydd heb ei drin. Mae'r cilddannedd oedolyn cyntaf sy'n torri trwodd pan mae rhywun yn 6 oed, yn enwedig, mewn perygl o bydru.͏  Achosir pydredd yn y dannedd gan groniad o blac ͏͏– haen o facteria sy'n ymosod ar y dannedd. Deiet yw un o'r prif ffactorau sy'n achosi plac i dyfu, a bwydydd a diodydd sy'n llawn siwgr yw'r prif gyfranwyr. Yn aml, mae cyfraddau pydredd yn uwch ymhlith plant sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig.

Dywedodd Dinah Channing, rheolwr Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Mae canlyniadau'r treial yn cynnig tystiolaeth bwysig ynglŷn â sut i fynd i'r afael â'r lefelau annerbyniol o bydredd dannedd ymhlith plant difreintiedig.”

Cafodd yr astudiaeth ei chydlynu gan y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, a'i hariannu gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol. Mae wedi'i chyhoeddi yn The Journal of Dental Research.