Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Ein cenhadaeth yw gwella iechyd a lles Cymru a’r byd drwy ragoriaeth gydnabyddedig mewn treialon a phrosiectau ymchwil eraill a gynlluniwyd yn dda.

Pwy ydym ni

Y Ganolfan ar gyfer Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yw’r grwˆp mwyaf o staff treialon clinigol academaidd yng Nghymru. Mae’r ganolfan yn mynd i’r afael â’r clefydau mawr, a phryderon iechyd ein cyfnod ni, gan gynnwys ymwrthedd cynyddol i wrthfiotigau, diagnosis canser cynnar a sut i gael gwared ar anghydraddoldebau iechyd.

Mae’r Ganolfan yn cyflawni hyn drwy ffurfio partneriaethau strategol gydag ymchwilwyr, profiadol a newydd, a thrwy adeiladu cysylltiadau parhaus gyda’r cyhoedd, y mae eu cyfranogiad yn hanfodol ar gyfer llwyddiant yr astudiaethau.

Arolwg rhanddeiliaid 2022-23

Arolwg rhanddeiliaid 2022-23.pdf

Arolwg rhanddeiliaid 2022-23.

Adroddiad blynyddol

CTR You Said, We Did Stakeholder Survey 2021 (Welsh).pdf

Crynodeb o Arolwg Rhanddeiliaid y Ganolfan Treialon Ymchwil 2021.

Uned treialon clinigol cofrestredig

Mae'r Ganolfan ar gyfer Treialon Ymchwil yn uned treialon clinigol cofrestredig Cydweithredfa Ymchwil Clinigol y DU (UKCRC)

Mae'r Ganolfan yn gartref i ymchwilwyr, rheolwyr treialon, arbenigwyr systemau cyfrifiadur, rheolwyr data, gweinyddwyr, rheolwyr sicrwydd ansawdd ac ystadegwyr.

Adeiladu partneriaethau

O ganlyniad i’n cronfa eang o arbenigedd, rydym yn gallu deall y cymhlethdodau ar bob cam o'r llwybr ymchwil, o lunio cynigion ariannu effeithiol i gynnal astudiaethau sydd wedi'u cynllunio'n dda sy'n ymddangos mewn cyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid. Mae hyn yn ein galluogi i bartneru gydag ymchwilwyr tro cyntaf a rhai profiadol o'r GIG a diwydiant, yn ogystal â sefydliadau academaidd.

Nodau ymchwil

Ein nod yw atal afiechyd, diogelu ac ymestyn bywyd drwy:

  • gynllunio, datblygu a phrofi gwasanaethau ac ymyriadau er mwyn gwella iechyd a lles
  • deall achosion biolegol, amgylcheddol a chymdeithasol clefydau a phenderfynyddion ymddygiad sy’n berygl i iechyd
  • troi tystiolaeth yn bolisi a phroses ymarfer a’i gweithredu, o wyddoniaeth labordy i arferion meddygol a gofal iechyd gwell.

Portffolio ymchwil

Dr David Gillespie at Techniquest

Mae ein portffolio ymchwil presennol yn helaeth ac yn ymdrin â newid ymddygiad, canser solet a chanserau gwaed, plant a phobl ifanc, a heintiau.

Rydym yn parhau i ddatblygu astudiaethau sydd wedi'u cynllunio'n dda y tu allan i'n hardaloedd craidd, gan gynnwys treialon ar gyfer dyfeisiau meddygol, ac yn sefydlu portffolio o ymchwil ar y person hŷn.

Cynyddu capasiti ymchwil

Mae’r Ganolfan ar gyfer Treialon Ymchwil yn cael ei hariannu’n gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac Ymchwil Canser y DU i alluogi ymchwil cymwysedig sy'n llywio polisi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn y DU. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal astudiaethau ar draws Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Ein hymrwymiad i rannu canlyniadau

Rydym yn ymrwymo i ryddhau canlyniadau o'n treialon i'r cyhoedd cyn gynted â phosibl yn y fformat mwyaf priodol.