Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth sgan PET SCOPE2

15 Mehefin 2023

ESTRO - Oesophageal cancer study results presented at an international conference in Vienna in May 2023

Mae SCOPE2 yn dreial canser clinigol yn y DU ar gyfer cleifion â chanser yr oesoffagws sydd wedi lledaenu ychydig (canser y bibell fwyd). Mae'r treial yn archwilio'r dos gorau posibl o radiotherapi i'w roi i gleifion er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddynt wella. Mae SCOPE2 yn cynnwys is-astudiaeth sydd bellach wedi’i chwblhau, a chyflwynwyd y canlyniadau mewn cynhadledd ganser ryngwladol yn Fienna ar 13 Mai 2023. Nod yr is-astudiaeth lai hon oedd gweld a all defnyddio sgan arbenigol o’r enw sgan PET (Tomograffeg Gollwng Positronau), i asesu newidiadau cynnar mewn canser claf wrth iddo/iddi gael cemotherapi, arwain dull triniaeth fwy personol, a thrwy hynny gynyddu nifer y cleifion sy'n gwella. Gwiriwyd pob claf 24 wythnos ar ôl dechrau'r driniaeth i weld sut yr oeddent wedi ymateb.

Mae meddygon fel arfer yn rhoi dau gyffur o'r enw cisplatin a capecitabine i gleifion â chanser yr osoeffagws sydd wedi lledaenu ychydig rai wythnosau cyn dechrau radiotherapi. Gan nad yw'r driniaeth safonol hon yn gweithio i bob claf, roedd y treial am brofi a fyddai newid y cyffuriau i garboplatin a phaclitaxel yn gwella canlyniadau i'r cleifion hyn.

Cafodd y rhai a gymerodd ran yn yr is-astudiaeth hon sgan PET 14 diwrnod ar ôl iddynt ddechrau cemotherapi, gan fod data o ymchwil arall yn dangos bod hwn yn nodi cleifion na fyddent yn ymateb yn dda i driniaeth. Byddai'r sgan hwn wedyn yn cael ei gymharu â'r sgan PET gwreiddiol a gafodd y claf pan gafodd ei ddiagnosis cyntaf o ganser i weld a oedd y claf yn ymateb i bythefnos cyntaf ei driniaeth cemotherapi. Os nad oedd fawr o ymateb, os o gwbl, cawsant eu dewis ar hap naill ai i barhau i gael yr un drefn cemotherapi (sef y safon bresennol), neu newid i'r cyfuniad newydd o gyffuriau am weddill eu triniaeth. Yn ogystal â chael naill ai eu cemotherapi gwreiddiol neu newid cemotherapi, byddent hefyd yn cael naill ai dos safonol neu ddos ​​uwch o radiotherapi ochr yn ochr â 2 gylchred olaf eu cemotherapi. Recriwtiwyd cyfanswm o 103 o gleifion i'r is-astudiaeth hon, ac ni wnaeth 63 ohonynt ymateb yn dda i'w 14 diwrnod cyntaf o gemotherapi.

Mae’r is-astudiaeth bellach wedi’i dadansoddi a chyflwynwyd y canlyniadau’n ddiweddar yn y gynhadledd radiotherapi flaenllaw yn Ewrop o’r enw ESTRO (#ESTRO2023). Mae'r astudiaeth yn dangos nad yw diffyg ymateb ar sgan PET 14 diwrnod ar ôl dechrau triniaeth yn nodi grŵp o gleifion sy'n gwneud yn waeth gyda chemotherapi a radiotherapi i drin canser yr oesoffagws sydd wedi lledaenu ychydig. Mae'r canlyniadau hefyd yn awgrymu ei bod yn well peidio â newid y driniaeth cemotherapi yn y grŵp o gleifion nad ydynt yn dangos ymateb ar y sgan PET, oherwydd gall newid y drefn cemotherapi yn seiliedig ar yr ymateb ar y sgan PET ar ôl 14 diwrnod fod ychydig yn waeth i gleifion, mewn gwirionedd. Felly ni argymhellir y newid hwn.

Dywed yr Athro Richard Adams, Cyfarwyddwr y Ganolfan Treialon Ymchwil, “mae canlyniadau is-astudiaeth SCOPE2 a gyflwynwyd yn Fienna yn dangos pwysigrwydd cynnal asesiad trwyadl o ddulliau newydd o drin triniaethau cyn gwneud newidiadau. Mae ein gwaith ymchwil yn dangos, ar hyn o bryd, nad yw gwneud PET-CT ar ddiwrnod 14 i asesu ymateb yn ddefnyddiol ac felly nid yw'n cael ei argymell. Mae treial SCOPE2 yn parhau i recriwtio cleifion i archwilio’r prif gwestiwn sy’n ystyried a all cynnydd mewn dos radiotherapi wella cyfraddau goroesi ymhlith cleifion â chanser yr oesoffagws sydd wedi lledaenu ychydig. Rydym yn ddyledus i gleifion a’u teuluoedd am eu cefnogaeth barhaus wrth ein helpu i wella gofal cleifion yn y dyfodol”.

Ariennir SCOPE2 gan Ymchwil Canser y DU a’i noddi gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Cynhelir y treial gan y Ganolfan Ymchwil Treialon (Prifysgol Caerdydd) a chaiff ei ariannu drwy gyllid craidd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac Ymchwil Canser y DU. Y Prif Ymchwilydd yw'r Athro Tom Crosby, a'r Athro Somnath Mukherjee yw arweinydd yr is-astudiaeth PET. Hoffem ddiolch yn fawr i'r holl gyfranogwyr am gymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â SCOPE2@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon