Ewch i’r prif gynnwys

Mae chwarter y gweithwyr gofal cartref yng Nghymru wedi ceisio cymorth iechyd meddwl yn ystod y pandemig, yn ôl astudiaeth

20 Rhagfyr 2021

Datgelwyd effaith pandemig COVID-19 ar iechyd gweithwyr gofal cartref yng Nghymru yng nghanfyddiadau cychwynnol astudiaeth dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.

Canfu'r ymchwil, a gyflwynwyd mewn adroddiad polisi interim a gyhoeddwyd heddiw, fod chwarter (28%) wedi ceisio cymorth meddygol neu wedi cael triniaeth yn ymwneud ag afiechyd meddwl yn ystod 12 mis cyntaf y pandemig yng Nghymru o 1 Mawrth 2020.

Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod 12% o weithwyr gofal wedi cael canlyniad positif COVID-19. Wedyn, cododd y cyfraddau isel yn ystod y don gyntaf hyd at fis Awst 2020 yn sydyn yn yr ail don o 1 Medi 2020, yn ôl yr astudiaeth.

Dadansoddodd yr ymchwilwyr ddata iechyd arferol 15,727 o weithwyr gofal gan gyfweld hefyd â 24 o’r rhain i greu darlun ynghylch sut yr oedd gweithlu gofal cartref Cymru wedi ymdopi y llynedd.

"Mae ein canfyddiadau'n datgelu'r baich personol sylweddol sydd ar weithwyr gofal yn ystod y pandemig," meddai'r Athro Mike Robling, Cyfarwyddwr Treialon Iechyd y Boblogaeth yng Nghanolfan Ymchwil Treialon Prifysgol Caerdydd a phrif ymchwilydd yr astudiaeth.

"Mae sawl ffactor ar waith – torri ar draws trefniadaeth y gweithlu, y graddau y mae staff ar gael, arferion gwaith ynysig ac ansicrwydd ynghylch cyd-destunau gwaith. Testun edmygedd a pharch fu clywed sut mae gweithwyr gofal wedi addasu ac ymateb i'r her o gefnogi eu cleientiaid yn ystod y pandemig.

"Mae ein hargymhellion cychwynnol yn canolbwyntio ar sut y gallwn roi gwell gofal i'n gofalwyr. Mae strategaethau i gefnogi unigolion a thimau yn hynod bwysig er mwyn mynd i'r afael â baich emosiynol gofalwyr sy’n gweithio yn ystod pandemig yn ogystal â gofalu bod cleientiaid yn parhau i dderbyn gofal. Fy mhryder i yw bod y baich hwn hyd yn oed yn fwy ac yn parhau'n hirach hwyrach na’r hyn yr ydym wedi gallu ei ddangos hyd yma o ran y data sydd gennym."

Dywedodd un gofalwr mai'r pandemig oedd yr "her fwyaf" yr oedd y sector gofal wedi'i wynebu.

"Prinder Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), prinder staff, gofalu am unigolion sydd wedi dal y feirws tra hefyd yn ceisio cadw'ch hun yn ddiogel - mae wedi bod yn gryn frwydr," meddai Sarah Edmunds, rheolwr gwasanaeth Gofal Cymunedol Radis yng Nghasnewydd.

"Roedd iechyd meddwl y staff wedi cael ei ddibrisio i raddau helaeth iawn. Mae'r staff wedi gweithio oriau hir a chaled gan wisgo cyfarpar PPE llawn, a’r unig awyr iach a gawson nhw oedd pan lwyddon nhw i ddod o hyd i ychydig funudau i gamu allan o’r adeilad a diosg y cyfarpar PPE.

"Roedd y staff yn mynd yn sâl gan ddioddef o fân anhwylderau; fodd bynnag, roedd y rhain yn eu curo oddi ar eu traed am gyfnodau hir a doedden nhw ddim yn gwella mor gyflym ag yr oedden nhw’n arfer ei wneud, yn ôl pob tebyg, oherwydd y blinder yr oedd y flwyddyn flaenorol wedi'i achosi iddyn nhw a’u cryfder corfforol.

"Mae sôn am gyfnodau clo a chyfyngiadau posibl yn y dyfodol yn cael effaith negyddol enfawr ar staff. Mae ond meddwl am orfod gwneud y cyfan eto yn dorcalonnus, ond os daw, fe fyddwn ni yno, yn sefyll yn y bwlch yn dîm cryf fel pob tro yn y gorffennol."

Yn ôl yr adroddiad polisi, cofnodwyd problemau iechyd meddwl yn sgîl diagnosis, meddyginiaeth neu gysylltiadau a bod hyn yn awgrymu "lefel uchel o angen yn ystod y pandemig". Fodd bynnag, nid yw'n hysbys hyd yn hyn a yw hyn yn gyfystyr â chynnydd o’i gymharu â’r lefelau cyn y pandemig.

Yn y cyfweliadau â staff gofal, codwyd problemau yn ymwneud â’r graddau yr oedd cyfarpar PPE a phrofion ar gael, tra bod strategaethau megis taliadau bonws, asesiadau risg a hyfforddiant staff yn cael eu "defnyddio'n llai na’r hyn y dylen nhw fod a’u bod wedi'u teilwra'n annigonol" i anghenion gofalwyr, yn ôl yr adroddiad.

Dywedodd y gofalwyr eu bod yn frwdfrydig o hyd dros gefnogi eu cleientiaid ond rhoddon nhw wybod am feichiau ychwanegol megis ymweld â chartref y cleient neu weithio yno, pwysau i weithio pan nad oedden nhw’n gwbl iach, y gallu i ddefnyddio gofal plant yn ddigonol a’r ofnau am eu hiechyd eu hun yn ogystal ag iechyd eu teulu a'u cleientiaid mewn perthynas â COVID-19.

"Er bod llawer o bobl wedi gallu gweithio gartref yn ystod y pandemig, mae gweithwyr gofal cartref wedi bod ar y rheng flaen, gan roi cymorth a chefnogaeth i rai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas," meddai'r Athro Robling.

"Mae'n hanfodol bod y problemau a godir yn cael sylw ar lefel sefydliadol ac mewn polisïau, a hynny er mwyn cadw gweithwyr gofal yn ddiogel ac yn iach, fel eu bod yn gallu parhau i helpu'r rheiny sydd fwyaf anghenus."

Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) sy’n ariannu’r astudiaeth, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe a chymorth gan Ofal Cymdeithasol Cymru.

Mae'r Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd yn derbyn cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac Ymchwil Canser y DU.

Rhannu’r stori hon