Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd i gymryd rhan flaenllaw mewn treial gwrthfeirysol COVID-19

27 Hydref 2021

Bydd Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan bwysig mewn ymchwil ledled y DU i gyffuriau gwrthfeirysol a allai helpu i ddiogelu pobl rhag symptomau gwaethaf y feirws.

Mae'r Brifysgol yn gweithio gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru i gefnogi'r astudiaeth, sydd dan arweiniad Prifysgol Rhydychen.

Dyfarnwyd cyllid gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol i ymchwilwyr yn Rhydychen i ymgymryd â’r gwaith gyda chydweithwyr mewn nifer o brifysgolion yn y DU, gan gynnwys Caerdydd, a'r GIG.

Treial PANORAMIC (Treial platfform addasol ar gyfer gwrthfeirysau newydd i drin COVID-19 yn gynnar yn y gymuned) fydd y treial clinigol cyntaf o'i fath i brofi triniaethau COVID-19 gwrthfeirysol newydd er mwyn eu defnyddio'n gynnar yn salwch pobl â COVID-19 yn y gymuned a’r rheiny sydd â mwy o berygl o wynebu cymhlethdodau.

Mae tîm Prifysgol Caerdydd sy’n gweithio ar hyn yn cynnwys aelodau o'r Ganolfan Treialon Ymchwil (CTR) a'r Is-adran Meddygaeth Boblogaeth. Maent yn cynrychioli cydweithrediad cryf rhwng treialon clinigol a gofal sylfaenol, dan arweiniad yr Athro Kerry Hood a Dr Andrew Carson-Stevens.

Meddai'r Athro Hood, Cyfarwyddwr y CTR, sy'n arwain y treial yng Nghymru: "Mae hon yn astudiaeth bwysig iawn i lywio'r ffordd rydyn ni’n rheoli ac yn trin COVID-19 yn y gymuned. Mae cysylltiad y Brifysgol â’r treial yn ychwanegu at draddodiad cryf yng Nghymru o ddylunio a chyflawni ymchwil gofal sylfaenol pwysig ac effeithiol."

Dyma a ddywedodd Prif Ymchwilydd y treial, yr Athro Chris Butler, o Adran Gwyddorau Iechyd Gofal Sylfaenol Nuffield, a Meddyg Teulu yn ne Cymru: “Gallai triniaethau ar gyfer COVID-19 gael eu heffaith fwyaf yn gynnar yn y salwch, pan fydd pobl yn dal i gael gofal yn y gymuned. Hyd yn hyn, mae llawer o'r ymchwil wedi canolbwyntio ar ddarganfod a ellir addasu cyffuriau cyfarwydd i drin COVID-19.

"Bydd y treial newydd hwn yn profi a yw triniaethau gwrthfeirysol cyffrous, newydd sy'n fwy penodol i COVID-19 yn helpu pobl yn y gymuned i wella'n gyflymach a lleihau'r angen am driniaeth yn yr ysbyty."

Bydd yr Athro Hood hefyd yn arwain gwerthusiad yn yr astudiaeth ar effeithiolrwydd cynnig triniaeth i gysylltiadau aelwydydd pobl â COVID-19 i weld a yw'n lleihau’r posibilrwydd o ddal y feirws.

The Cardiff University team working on this are from the Centre for Trials Research (CTR) and the Division of Population Medicine, representing a strong collaboration between clinical trials and primary care, led by Professor Kerry Hood and Dr Andrew Carson-Stevens.

Professor Hood, Director of the CTR, who is leading the trial in Wales, said: “This is a really important study to drive the way in which we manage and treat COVID-19 in the community. Our involvement builds on a strong tradition in Wales of designing and delivering important and impactful primary care research.”

The trial’s Chief Investigator, Professor Chris Butler, from the Nuffield Department of Primary Care Health Sciences and a GP in South Wales, said: “It is early on in the illness, when people are still being cared for in the community, that treatments for COVID-19 could have their greatest benefit. So far, a lot of the research has focussed on finding out if well-known drugs can be repurposed to treat COVID-19.

“This new trial will test whether exciting, new antiviral treatments that are more specific to COVID-19 help people in the community recover faster and reduce the need for treatment in hospital.”

Professor Hood will also be leading an evaluation within the study on the effectiveness of offering treatment to household contacts of people with COVID-19 to see if is reduces their chances of getting the virus.

Rhannu’r stori hon