Ewch i’r prif gynnwys

Treial ledled y DU ar gyfer lleihau gwaedu ar ôl genedigaeth

6 Mehefin 2023

Mae strategaeth ar gyfer rhoi triniaeth, a ddatblygwyd yng Nghymru, i helpu i leihau gwaedu gormodol ar ôl genedigaeth yn cael ei ehangu i unedau mamolaeth ledled yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn rhan o dreial fawr.

Y nod o ran treialu’r Strategaeth Gwaedu Obstetreg ar gyfer y Deyrnas Unedig (OBS UK) yw gwella ansawdd y gofal ar gyfer mamau a babanod gyda ffocws arbennig ar wahaniaethau o ran gofal a chanlyniadau ar gyfer menywod sydd o ethnigrwydd a chefndiroedd amrywiol.

Mae'n cael ei arwain gan academyddion yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a bydd yn cael ei gydlynu gan Ganolfan Treialon Ymchwil y Brifysgol.

Mae OBS UK - sy'n cael ei ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil er Iechyd a Gofal (NIHR) - yn adeiladu ar lwyddiant y Strategaeth Gwaedu Obstetreg ar gyfer Cymru (OBS Cymru) - rhaglen gwella ansawdd genedlaethol a ddatblygwyd gan ymchwilydd yng Nghaerdydd sydd wedi golygu gostyngiad o 29% yn yr achosion o waedlif ôl-enedigol enfawr ac wedi golygu hefyd bod 160 o fenywod y flwyddyn yn osgoi'r angen am drallwysiad gwaed ar ôl rhoi genedigaeth.

Nawr, gyda grant o £3.65 miliwn gan yr NIHR, bydd y strategaeth yn cael ei threialu mewn 36 o safleoedd ysbyty ledled y DU a'i nod yw atal bron i 2,000 o fenywod bob blwyddyn rhag bod angen trallwysiad gwaed.

Dywedodd yr Athro Peter Collins, o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, a ddatblygodd OBS Cymru ac a fydd yn arwain y treial newydd ar y cyd: "Gwaedu gormodol yw’r cymhlethdod mwyaf cyffredin sy’n gysylltiedig â geni plentyn, gyda thua 50,000 o fenywod bob blwyddyn yn y DU yn colli un litr o waed neu fwy ar ôl rhoi genedigaeth. Mae nifer o fenywod sydd angen trallwysiad gwaed ar ôl colli gwaed, yn cael eu derbyn i uned ofal dwys, ac yn datblygu anhwylder straen ôl-drawmatig oherwydd gwaedu gormodol. Mae rhai menywod yn datblygu ceulo annormal sy'n gwneud y gwaedu'n waeth. Mae rhan o'r strategaeth ar gyfer rhoi triniaeth yn golygu nodi’r menywod hynny, ar yr adeg pan fo’r gwaedu’n digwydd, sydd â gwaed nad yw'n ceulo'n iawn. Mae hyn yn golygu bod y driniaeth gywir yn cael ei rhoi yn gyflym i'r menywod sydd ei hangen."

Lansiwyd rhaglen OBS Cymru yng Nghymru yn 2016 i fynd i'r afael â'r diffyg gwybodaeth o ran trin gwaedu gormodol ar ôl geni plentyn, i wella a safoni gofal mamolaeth a mynd i'r afael â gwahaniaethau hiliol. Cyflwynodd broses ar gyfer nodi’r menywod sydd â risg uchel o waedu, dulliau ar gyfer nodi a thrin gwaedu annormal yn gynnar, a nodi ac ymyrryd yn gynnar ar gyfer annormaleddau o ran ceulo gwaed.

Dywedodd Dr Sarah Bell, Anesthetydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac a oedd yn rhan o dîm strategaeth OBS Cymru ac a fydd yn arwain OBS UK ar y cyd: "Mae'r Strategaeth Gwaedu Obstetreg yn caniatáu i dimau clinigol nodi pan fo gwaedu yn annormal ac i weithio gyda'i gilydd i'w atal yn gyflym. Pan wnaethon ni gyflwyno hyn i unedau mamolaeth Cymru, gwelsom gwymp sylweddol yn nifer yr achosion o waedu mawr a nifer y trallwysiadau gwaed oedd eu hangen."

Un o nodau OBS UK yw archwilio gwaedu gormodol mewn perthynas â hil, ethnigrwydd ac elfennau eraill o amrywiaeth gymdeithasol.

Dywedodd Dr Julia Townson, Canolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd: "Mae sicrhau bod profiadau grwpiau lleiafrifol yn cael eu cynnwys yn yr ymchwil hon yn flaenoriaeth fawr i'r tîm ymchwil cyfan. Yn ogystal ag ymchwilio i brofiadau personol unigolion o grwpiau lleiafrifol, byddwn yn gweithio gyda Egality Health, asiantaeth ymgysylltu â'r gymuned sy'n canolbwyntio ar wella cynhwysiant ym maes ymchwil iechyd."

Ychwanegodd Julia Sanders, Athro Nyrsio a Bydwreigiaeth Glinigol yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd a fydd yn gweithio ar y treial OBS UK: "Mae lleihau gwaedu gormodol wrth eni plant yn bwysig. Yn achosion gormod o fenywod, ar adeg pan fydd angen iddynt deimlo'n holliach i ofalu am eu babi, mae'r gwaedu gormodol y bu iddynt ei brofi yn ystod genedigaeth yn golygu eu bod wedi blino ac yn sâl. Mae OBS Cymru yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd bydwragedd, obstetregwyr, anesthetyddion ac arbenigwyr eraill yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod gofal mamolaeth yn fwy diogel. Mae'n gyflawniad gwirioneddol bod cynifer o fenywod yng Nghymru eisoes wedi elwa o hyn. Rydym, bob un ohonom, yn edrych ymlaen at weithio gyda thimau o bob cwr o weddill y DU wrth iddynt gyflwyno OBS UK i'w gwasanaethau mamolaeth."

Mae'r treial ledled y DU yn dechrau ym mis Mai 2023 a bydd yn cael ei gyflwyno i 190,000 o fenywod dros 30 mis.

Bydd y treial yn gweithredu ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Lerpwl, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberdeen, Ymddiriedolaeth GIG Amwythig a Telford, Prifysgol Keele, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Egality Health.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.