Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect DURESS

Mae prosiect DURESS - Amrywiaeth Afonydd yr Ucheldir ar gyfer Cynaliadwyedd Gwasanaethau Ecosystemau - yn rhan o fenter fawr gan y Cyngor Ymchwil i asesu rôl bioamrywiaeth wrth ddarparu gwasanaethau ecosystem allweddol y mae cymdeithas yn dibynnu arnynt.

Ariennir y prosiect hwn gan grant o £3 miliwn gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC). Fe’i lansiwyd ym mis Mai 2012 ac mae’n cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd. Nod y prosiect yw deall sut mae bioamrywiaeth afonydd yn cynnal gwasanaethau ecosystem allweddol mewn byd sy'n newid.

Mae DURESS yn ymchwilio i sut mae organebau a swyddogaethau ecosystem yn cynnal gwasanaethau ecosystem afonydd pwysig megis rheoleiddio ansawdd dŵr, darparu pysgod i bysgotwyr, neu adar afonydd fel bioamrywiaeth a werthfawrogir yn ddiwylliannol.

Mae hon yn wybodaeth hanfodol oherwydd bod y gwasanaethau hyn mewn perygl o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd a defnydd tir, a gallant fod yn sensitif i aflonyddwch ar wahanol drothwyon ac ar wahanol amserlenni. Mae goblygiadau cymdeithasol ac economaidd yr effeithiau hyn yn fawr, er enghraifft ar gyfer pysgodfeydd hamdden, trin dŵr a bioamrywiaeth afonydd.

Disgwyliwn i effaith ymchwil DURESS ddeillio o’r canlynol:

  • dealltwriaeth well o'r mecanweithiau sy'n cysylltu bioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystem afonydd
  • offer newydd i asesu bioamrywiaeth a phrosesau a gwasanaethau ecosystem sy'n cael eu cyfryngu gan fioamrywiaeth
  • tystiolaeth i arwain rheolaeth ecosystem afonydd ac offer i roi dull ecosystem ar waith
  • hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol allweddol

Mae tîm DURESS yn dod â 32 o ymchwilwyr o'r gwyddorau ffisegol, biogeocemegol, ecolegol ac economaidd-gymdeithasol ynghyd. Aelodau tîm Prifysgol Caerdydd yw:

Partneriaid rhanddeiliaid

Er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl, mae’r prosiect yn dibynnu ar gydweithio agos â saith rhanddeiliad allweddol sy’n cynrychioli’r diwydiant dŵr, y diwydiant hamdden, llunwyr polisïau, tirfeddianwyr a rheolwyr tir:

Partneriaid academaidd