Ewch i’r prif gynnwys

Sefydliad Ymchwil Dementia

Sut rydym yn hyrwyddo rhagoriaeth er mwyn creu byd ble mae ymchwil yn cael y gorau ar ddementia.

Mae ein cryfder mewn deall dementia yn dod o’n diwylliant cydweithredol sy’n cyfuno arbenigedd academaidd, technegau newydd a chyfleusterau gwych.

Buddsoddiad ar y cyd gwerth £250m mewn ymchwil ym maes dementia yw Sefydliad Ymchwil Dementia y DU (UK DRI). Caiff ei arwain gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) ochr yn ochr ag elusennau sefydlol Cymdeithas Alzheimer ac Ymchwil Alzheimer y DU.

Newyddion diweddaraf

Computer generated image of DNA strand

Genynnau Alzheimer newydd yn cael eu darganfod yn astudiaeth fwyaf y byd

21 Tachwedd 2022

Cydweithrediad rhyngwladol yn dod o hyd i ddau enyn newydd sy'n cynyddu'n sylweddol y risg o glefyd Alzheimer.

Mae astudiaeth o bwys yn datgelu 42 o enynnau newydd sy'n gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu clefyd Alzheimer

4 Ebrill 2022

Gallai'r astudiaeth fwyaf o'i bath ddatgelu llwybrau newydd i gynnal ymyraethau therapiwtig

Neurons under a microscope

Darlith gyhoeddus lwyddiannus am yr ymchwil ddiweddaraf i glefyd Parkinson

10 Mawrth 2022

Mae uwch ymchwilydd o'r Sefydliad Ymchwil Dementia (DRI) wedi cyflwyno darlith gyhoeddus fel rhan o gyfres Gwyddoniaeth mewn Iechyd yn Fyw Prifysgol Caerdydd, sy'n canolbwyntio ar glefyd Parkinson.

Right quote

Mae diagnosis o achos newydd o ddementia rhywle yn y byd bob 4 eiliad, ac erbyn 2030 amcangyfrif bydd yna tua 75 miliwn o bobl gyda dementia.