Ewch i’r prif gynnwys

Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau

Trosi ymchwil fiofeddygol yn feddyginiaethau newydd ar gyfer anghenion clinigol sydd heb eu diwallu.

Rydym ni'n gosod Cymru ar y blaen o ran arloesedd meddygol, gan ddod â'r wyddoniaeth ddiweddaraf at y claf drwy droi ymchwil biofeddygol blaenllaw yn gyffuriau newydd.

Male researcher inspecting equipment

Ymchwil

Rydym yn cymhwyso ein harbenigedd mewn amrywiaeth o feysydd ymchwil i gynhyrchu meddyginiaethau newydd.

Professor Simon Ward at the Eisteddfod

Allgymorth cymunedol

Mae ein staff yn aml yn ymgysylltu â’r gymuned ac yn ymgymryd â gwaith allgymorth. Eu nod yw annog dysgwyr ifanc a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd o faes darganfod meddyginiaethau.

Female Researcher Inspecting equipment in chemistry lab

Ymunwch â ni

Rydym bellach yn awyddus i recriwtio gwyddonwyr eithriadol o bob cwr o’r byd i’n helpu i lywio a chyflawni ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

Brain

Pobl

Cwrdd â'r tîm tu ôl Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau.

Ein Nodau

molecule

Mynd i'r afael â'r angen sy’n cynyddu ond heb ei ddiwallu ym maes iechyd yr ymennydd

Manteisio ar ddarganfyddiadau gwyddonol o Gaerdydd

people

Hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr darganfod meddyginiaethau

Addysgu myfyrwyr ôl-raddedig mewn technegau darganfod meddyginiaethau arloesol

globe

Creu swyddi ac ysgogi twf economaidd

Rydym yn darparu rhyngwyneb gwerthfawr rhwng diwydiant a'r byd academaidd

Mae'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau’n cysylltu’r wyddoniaeth sylfaenol sy’n cael ei datblygu ym Mhrifysgol Caerdydd a'r ymchwil glinigol sydd ei hangen i bennu diogelwch ac effeithiolrwydd meddyginiaethau newydd. Mae salwch sy'n cael ei drin yn wael yn rhoi baich enfawr ar gymdeithas, ac mae'r costau'n parhau i godi. Gall meddyginiaethau gwell leihau’r baich hwn, ond mae'r llwybr darganfod cyffuriau, o fainc y labordy i ochr y gwely, yn un hynod o hir ac anodd.
Yr Athro Simon Ward Cyfarwyddwr, Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau