Ewch i’r prif gynnwys

Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd

Mae Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd yn dod ag arbenigwyr ym maes dysgu ac addysgu ynghyd i gefnogi staff i ddarparu profiad atyniadol a chynhwysol i'r holl fyfyrwyr.

Mae'r Academi'n cynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus i staff ar bob cam o'u gyrfaoedd yn AU, gan amrywio o'r rhaglenni cymrodoriaeth achrededig AdvanceHE, i ddigwyddiadau annibynnol a gweithdai pwrpasol, yn ogystal â deunyddiau ac adnoddau ar-lein.

Mae ein timau arbenigol yn gweithio mewn partneriaeth â staff yn yr Ysgol i wella profiad myfyrwyr drwy ddarparu cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth am y sector. Ar lefel sefydliadol, mae'r Cynllun Partneriaeth Academaidd yn galluogi staff i arwain ar ein darpariaeth o'r Is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr neu gyfrannu ati.

Strategaeth addysg ac arloesedd

Rydym yn cynnal cynlluniau lleoliadau gwaith i fyfyrwyr blaenllaw 'Interniaethau ar y Campws' y Brifysgol, CUROP a CUSEIP, gan gynnig tua 200 o gyfleoedd i fyfyrwyr bob haf weithio ochr yn ochr â'n staff dysgu ac addysgu ar brosiectau ymchwil a dysgu ac addysgu.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a LTASummerPlacements@caerdydd.ac.uk

Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu syniadau ac annog arfer blaengar, gan adeiladu rhwydweithiau o addysgwyr sy'n canolbwyntio ar wella. Rydym hefyd yn cynnig cyllid trwy'r Gronfa Arloesi Addysg i fuddsoddi mewn prosiectau a syniadau i ddeori arloesedd.

Mae ein cyllid arloesedd yn buddsoddi mewn prosiectau dysgu ac addysgu, gan roi'r amser a'r adnoddau i staff fyfyrio ar eu harferion, treialu mentrau newydd a datblygu partneriaethau traws-Brifysgol i ddatblygu rhagoriaeth dysgu ac addysgu yng Nghaerdydd. Gellir gweld enghreifftiau o allbynnau'r prosiectau hyn ar yr Hwb Dysgu

Darperir cymorth â phrosiectau yn yr Academi i gyflawni'r Is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr.

Adolygu a datblygu rhaglenni a modiwlau

Gallwn weithio ar y cyd â staff i nodi eu anghenion a dyheadau o ran datblygu cwricwlwm (fel unigolyn neu dîm rhaglen), gan drafod opsiynau wedi'u teilwra ac arferion gorau gyda staff, rhannu enghreifftiau perthnasol a cyfeirio staff at ddigwyddiadau ac adnoddau DPP priodol.

Cyngor: Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad arbenigol ar bob agwedd ar gwricwla.

Gweithdai:  Rydym yn cynnig amrywiaeth o adnoddau ar-lein a digwyddiadau DPP, a rhai gweithdai pwrpasol ar lefel rhaglen neu Ysgol, ar draws ystod o bynciau a themâu sy'n gysylltiedig â chwricwla. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft, asesu ac adborth, dysgu gweithredol a chynwysoldeb.

DPP: Rydym yn cynnig cefnogaeth cofleidiol a DPP fel rhan o'r broses datblygu ac ail-ddilysu rhaglenni, wedi'i alinio ag arfer gorau mewn addysgeg a'r themâu arweiniol o fewn egwyddorion Dylunio Rhaglenni Caerdydd. Trwy ddeialog a gweithio mewn partneriaeth, gallwn eich helpu i gymryd agwedd gyfannol tuag at ddatblygu rhaglenni o'r cysyniad cychwynnol hyd at gymeradwyaeth, gan eich cefnogi gyda hanfodion dylunio'r cwricwlwm gan ddefnyddio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth gan gynnwys ABC a Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu.

Ar gyfer ymholiadau, e-bostiwch y tîm Datblygu Cwricwlwm yn LTAcademy@caerdydd.ac.uk

At ddibenion ail-ddilysu gallwn weithio gyda staff i adolygu ystod o ffynonellau data, gan gynnwys adborth myfyrwyr, a chynnal ymchwiliad gwerthfawrogol o darpariaeth ddysgu ac addysgu er mwyn helpu staff i nodi eu cryfderau a gwneud diagnosis o feysydd lle mae lle i wella profiad dysgu myfyrwyr ymhellach drwy ailgynllunio'r cwricwlwm. Gallwn weithio mewn partneriaeth â staff i gynllunio a chyflawni gweithgareddau gwella'r cwricwlwm.

Fel rhan o'n cefnogaeth datblygu cwricwlwm, gallwn weithio gyda staff i ddylunio neu ddatblygu eich gweithgareddau asesu yng nghyd-destun polisïau ac arferion Prifysgol Caerdydd. Gallwn hefyd weithio gyda staff i ddatblygu adborth o ansawdd rhagorol sy'n hyrwyddo dysgu myfyrwyr, gan gynnwys datblygu arferion gorau wrth ddefnyddio adnoddau/dulliau adborth digidol.

Addysg ddigidol

Rydym yn darparu arweinyddiaeth ar strategaeth addysg ddigidol, arloesedd a llywodraethu, dan arweiniad Map Ffordd Addysg Ddigidol 2021-2023 a'r Fframwaith Dysgu Cyfunol.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion ac adrannau i ymgorffori arferion addysg ddigidol yn briodol mewn gwaith addysgu, dysgu ac asesu. Mae ein partneriaid ysgol yn helpu i fynd i'r afael â blaenoriaethau ysgol a chydlynu gweithgareddau a phrosiectau addysg ddigidol, gan sicrhau bod darpariaeth gyfunol a darpariaeth ar-lein wedi'u cynllunio, eu hadnoddau a'u cefnogi'n briodol.

Mae ein Hwb Cymorth Addysg Ddigidol yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth o ddydd i ddydd hyblyg ac ymatebol ar gyfer adnoddau, llwyfannau ac arferion gorau addysg ddigidol ar gyfer cydweithwyr ledled y Brifysgol.

Rydym yn arwain prosiectau a mentrau addysg ddigidol drawsnewidiol sydd ar hyn o bryd yn cynnwys: adolygiad o'n hamgylchedd dysgu digidol; datblygiad cyrsiau microgredydau achrededig; datblygiad deunyddiau dysgu, stiwdios recordio; a'r broses o gyflwyno adnoddau a llwyfannau newydd i gefnogi addysg ddigidol.

DPP ar gyfer dysgu ac addysgu

Rydym yn cyflwyno cyfres achrededig lawn o Raglenni Cymrodoriaethau Addysg sy'n anelu at rymuso a chefnogi addysgwyr o bob math ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae rhaglenni am ddim i staff Prifysgol Caerdydd ac maent yn agored i bawb mewn rolau sy'n cynnwys cymorth addysgu a dysgu ar bob cam o'u gyrfaoedd, gan arwain at ddyfarniadau a gydnabyddir gan y sector o Gymrawd Cyswllt, Cymrawd neu Uwch Gymrawd AdvanceHE.

Rydym yn cydnabod y rôl bwysig y mae Tiwtoriaid Graddedig ac arddangoswyr yn ei chwarae ac yn eu cefnogi i ddatblygu arferion addysgu o ansawdd uchel.

Rydym yn darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol i staff sy'n addysgu ac yn cefnogi gwaith dysgu ac addysgu i weithio tuag at gydnabyddiaeth fewnol ac allanol gan gynnwys hyrwyddo, Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol, Gwobr Gydweithredol am Ragoriaeth mewn Addysgu a Chydnabyddiaeth AU Uwch.

Rydym yn darparu rhaglen gynhwysfawr, gydol y flwyddyn o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) i gefnogi gweithgaredd dysgu a chynllunio asesu. Mae’r digwyddiadau yn agored i’r holl staff, gan gynnwys y rhai sy’n cefnogi dysgu ar-lein a dysgu cyfunol.

Mae ein rhaglen yn ategu ein Rhaglen Cymrodoriaethau Addysg achrededig Advance HE a'n hadnoddau ar-lein ac anghydamserol.

Rhaglen flwyddyn DPP

Rydym wedi creu rhaglen flwyddyn DPP dysgu ac addysgu i helpu staff gynllunio eu datblygiad proffesiynol am y flwyddyn – gwelwch ein llyfryn DPP dysgu ac addysgu 2023/24 newydd.

Ymgysylltu â myfyrwyr

Rydym yn rheoli pob arolwg sefydliadol a chenedlaethol ar gyfer Prifysgol Caerdydd. Gall y tîm ddarparu cefnogaeth gyda gwaith gweinyddu a hyrwyddo arolygon, gan gymeradwyo ceisiadau arolwg, a chyrchu data adborth myfyrwyr.

Rydym yn arwain y Cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr, grŵp o 26 o fyfyrwyr sy'n gweithio gyda ni fel partneriaid ar brosiectau a blaenoriaethau strategol allweddol.

Cysylltwch â'r tîm Hyrwyddwyr Myfyrwyr cardiffstudentchampions@caerdydd.ac.uk

Rydym yn darparu cefnogaeth a chyngor ynghylch ymgysylltu â myfyrwyr, a llais myfyrwyr, cynllunio a gweithredu i staff academaidd, staff gwasanaethau proffesiynol, arweinwyr academaidd, a rhanddeiliaid allanol.

Tîm Ymgysylltu â Myfyrwyr drwy studentengagement@caerdydd.ac.uk

Rydym yn gweithio ar y cyd ag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i wella partneriaeth myfyrwyr yn barhaus gan gynnwys drwy Brosiectau Partneriaeth Undeb y Myfyrwyr, cyfres flynyddol o brosiectau gwella dan arweiniad myfyrwyr.

Darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Rydym yn gartref i gangen o'r Goleg Cymraeg Cenedlaethol ac Academi Gymraeg Prifysgol Caerdydd, gan gefnogi datblygiad a thwf darpariaeth addysg gyfrwng Cymru yng Nghaerdydd a chyflawni ein Strategaeth Iaith Gymraeg.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os hoffech ragor o wybodaeth am ein gwaith, cysylltwch â ni:

Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd