Ewch i’r prif gynnwys

Canlyniadau

Ar ôl i chi wneud cais, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi aros nes i chi gael canlyniadau eich arholiadau cyn i ni allu cadarnhau eich lle.

Os ydych yn astudio drwy gorff dyfarnu CBAC efallai y byddwch yn cael canlyniadau dros dro ym mis Mehefin, cyn i'r canlyniadau swyddogol gael eu cyhoeddi ar 10 Awst. Gan mai dim ond dros dro yw'r canlyniadau hyn,  ni allwn eu defnyddio i wneud unrhyw gynigion swyddogol na chadarnhau unrhyw benderfyniadau.

Beth mae eich canlyniadau'n ei olygu

Ar ôl i chi gael canlyniadau terfynol eich arholiadau, byddwch yn un o'r tair sefyllfa isod:

Llongyfarchiadau! Rydych chi wedi cael eich canlyniadau ac yn barod i ddechrau ar gam nesaf eich gyrfa academaidd. Ar yr amod eich bod yn bodloni amodau eich cynnig yn llawn erbyn 31 Awst, bydd eich lle yn cael ei gadarnhau ar 'UCAS track.'

Os byddwch yn cyflwyno canlyniadau ar ôl y dyddiad hwn, gan gynnwys graddau uwch yn dilyn apêl i gorff dyfarnu, ni sydd i benderfynu a fyddwn yn cadarnhau penderfyniadau sy'n dibynnu ar y canlyniadau hyn ai peidio. Os bydd y rhaglen yn llawn ar 31 Awst, mae'n bosibl y byddwn yn cynnig lle wedi'i ohirio i chi.

Ar ôl i ni gadarnhau eich cynnig drwy 'UCAS track', byddwn yn ysgrifennu atoch i'ch croesawu i'r Brifysgol yn swyddogol, ac yn rhoi unrhyw wybodaeth arall fydd ei hangen arnoch.

Mae llawer o wybodaeth am baratoi ar gyfer eich dyfodiad i'r Brifysgol ar gael ar ein tudalennau newydd i fyfyrwyr.

Os nad ydych yn bodloni amodau eich dewis cadarn, ond rydych yn bodloni'r amodau a bennwyd gennym ar gyfer eich dewis wrth gefn yn llawn erbyn 31 Awst, caiff eich dewis wrth gefn ei gadarnhau ar UCAS Track.

Os byddwch yn cyflwyno canlyniadau ar ôl y dyddiad hwn, gan gynnwys graddau uwch yn dilyn apêl i gorff dyfarnu, ni sydd i benderfynu a fyddwn yn cadarnhau penderfyniadau sy'n dibynnu ar y canlyniadau hyn ai peidio. Os bydd y rhaglen yn llawn ar 31 Awst, mae'n bosibl y byddwn yn cynnig lle wedi'i ohirio i chi.

Ar ôl i ni gadarnhau eich cynnig drwy UCAS, byddwn yn ysgrifennu atoch i'ch croesawu i'r Brifysgol yn swyddogol, ac yn rhoi unrhyw wybodaeth arall fydd ei hangen arnoch. Cewch lythyr gan UCAS hefyd i gadarnhau eich lle yn y brifysgol.

Gallwch gyflwyno cais am le yn neuaddau preswyl y Brifysgol cyn gynted ag y bydd eich cynnig wedi ei gadarnhau. Mae llawer o wybodaeth am baratoi ar gyfer eich dyfodiad i'r Brifysgol ar gael ar ein tudalennau newydd i fyfyrwyr.

Os nad ydych yn bodloni amodau unrhyw un o'r cynigion yr ydych wedi'u derbyn, efallai ni fyddwch yn derbyn lle gan brifysgol. Cewch eich rhoi yn y broses clirio yn awtomatig. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan UCAS.

Newidiadau i'ch canlyniadau

Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw ganlyniadau newydd neu ddiwygiedig. Byddwn yn cadarnhau eich lle os byddwch yn bodloni amodau eich cynnig erbyn 31 Awst. Os byddwch yn cyflwyno canlyniadau ar ôl y dyddiad hwn, gan gynnwys graddau uwch yn dilyn apêl i gorff dyfarnu, ni sydd i benderfynu a fyddwn yn cadarnhau penderfyniadau sy'n dibynnu ar y canlyniadau hyn ai peidio.