Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg Fecanyddol Uwch (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Nod y rhaglen gradd hon yw darparu gwybodaeth uwch am beirianneg fecanyddol dros amrywiaeth o bynciau arbenigol, gydag astudiaeth fanwl, drwy brosiect uwch dan arweiniad ymchwil, mewn maes o’ch dewis.

molecule

Labordy Metroleg Rensihaw

Mae ein prosiect cydweithredol â'r cwmni metroleg blaenllaw, Renishaw a'n Labordy Metroleg Uwch Renishaw yn darparu mynediad ar unwaith i offer mesur o'r radd flaenaf i ategu'r addysgu a'r prosiectau a gynigir yn y cwrs hwn.

briefcase

Cysylltiadau a phrosiectau diwydiant

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys mewnbwn diwydiannol drwy ddarlithwyr gwadd, a chewch gyfle i gwblhau prosiect a arweinir gan ymchwil.

people

Diwylliant ymgysylltiol

Rydym yn cynnig diwylliant agored ac ymgysylltiol rhwng ein myfyrwyr a'n staff sy’n gwneud gwaith ymchwil ac sy’n cynllunio a chyflwyno'r cwrs hwn.

academic-school

Pwyslais cryf ar ymchwil

Byddwch yn dysgu mewn sefydliad addysgu a arweinir gan ymchwil, gyda'r cyfle i ymgymryd â'ch prosiect mewn amgylchedd llwyddiannus sy'n seiliedig ar ymchwil gyda mynediad at gyfleusterau o ansawdd uchel i gefnogi eich gwaith.

certificate

Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol

Wedi’i achredu gan y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol ar ran y Cyngor Peirianneg i ddiwallu’r gofynion academaidd ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf israddedig achrededig CEng i gydymffurfio â gofynion cofrestru llawn CEng.

A chithau’n beiriannydd mecanyddol graddedig, bydd y cwrs MSc hwn yn rhoi cymhwyster uwch i chi a fydd yn gwella eich rhagolygon o ran gyrfa ac yn ymestyn ac yn diweddaru eich sgiliau a'ch gwybodaeth. Mae'r cwrs yn annog myfyrwyr i ddeall a defnyddio meddylfryd peirianneg systemau rhyngddisgyblaethol sy'n cyfuno'r pynciau peirianneg fecanyddol mewn modd sy'n adlewyrchu anghenion prosesau datrys problemau diwydiannol ac academaidd.

Yn fwy penodol, nod y rhaglen yw:

  • Darparu gwybodaeth uwch am bynciau peirianneg fecanyddol ac amrywiaeth eang o bynciau arbenigol mewn disgyblaethau peirianyddol a gwyddonol cysylltiedig.
  • Darparu ymwybyddiaeth o'r cyd-destun diogelwch, amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y mae angen i beirianwyr mecanyddol weithio ynddo.
  • Cynnig y cyfle i chi ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau deallusol, ymarferol a sgiliau y gellir eu trosglwyddo a fydd yn caniatáu i chi ddilyn gyrfa ym maes ymchwil, yn y diwydiant ac ym meysydd proffesiynol eraill yr economi.
  • Eich helpu chi i gael dealltwriaeth systematig ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a gwybodaeth newydd sydd ar flaen y gad ym maes peirianneg fecanyddol.

Bydd integreiddio'r astudiaeth achos a'r prosiect yn agos yn eich galluogi i archwilio'n fanwl bwnc a ddewisir sy'n ymwneud â'r cwrs. Mae hyn yn rhoi rhaglen wedi'i theilwra'n unigol i chi ddiwallu eich anghenion mewn modd hyblyg ond sy'n canolbwyntio ar y prosiect, gyda'r prosiect yn cael ei ystyried yn gyfle allweddol i feithrin ac ymarfer gwybodaeth am beirianneg fecanyddol arloesol. Cewch y cyfle i ddangos gwreiddioldeb wrth ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi’n ei hennill, a byddwch yn dod i werthfawrogi sut mae ymchwil yn ymestyn ffiniau gwybodaeth. Byddwch yn cael eich hyfforddi i ddelio â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol, ac yn cael y cyfle a'r anogaeth i ddangos mentergarwch ac arloesedd wrth ddatrys problemau cymhleth a dylunio cydrannau a systemau newydd.

Mae'r ymwneud agos â diwydiant, yn enwedig yn ystod cam y prosiect, yn sicrhau bod y profiad y mae'r cwrs yn ei ddarparu yn berthnasol ac yn ystyrlon. Mae darlithwyr sy'n cyflwyno'r modiwlau yn gweithio gyda rhai o gwmnïau peirianneg enwocaf y byd. Ymysg y partneriaid, mae Airbus, BAe Systems, Bosch, Tata Steel, Daimler, EADS, Fiat, Hewlett-Packard, IBM, Messier-Dowty, Network Rail, TWI, Parametric Technology, Physical Acoustics Ltd, Renault, Renishaw, Rolls-Royce, SAP, Siemens, Silicon Graphics, Stile Bertone, yr Asiantaeth Priffyrdd, TRL, Microchip, a WS Atkins.

Bydd y cwrs gradd hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn ymchwil neu ddiwydiant. Yn ogystal â sgiliau technegol, byddwch yn meithrin sgiliau proffesiynol fel cyfathrebu'n effeithiol â chynulleidfaoedd rheolaethol, technegol ac annhechnegol, a chynllunio, gwerthuso a blaenoriaethu prosiectau.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Peirianneg

Dewch i astudio yn un o'r ysgolion peirianneg fwyaf blaenllaw yn y DU o ran ansawdd ymchwil ac addysgu.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0050
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn Peirianneg Fecanyddol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cynllun Cymeradwyaeth Technoleg Academaidd (ATAS)

Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n defnyddio unrhyw fath o visa gael cliriad ATAS i astudio'r cwrs hwn.

Strwythur y cwrs

Mae hwn yn gwrs MSc amser llawn am flwyddyn sy'n dechrau gydag adran a addysgir gwerth 120 o gredydau. Bydd semestrau'r hydref a'r gwanwyn yn defnyddio deunydd a addysgir a deunydd yn seiliedig ar brosiectau ymchwil i’ch galluogi chi i ddatblygu o safon gradd baglor arferol pan fyddwch yn dechrau, i lefel meistr. Caiff yr wyth modiwl dewisol a addysgir eu rhannu rhwng y semestrau hyn i gyflenwi wyth deg credyd o astudiaeth ar lefel meistr. Mae dau fodiwl Astudiaeth Achos ugain credyd yn ffurfio gweithgareddau grŵp (semester 1) ac unigol (semester 2). Mae hyn yn eich paratoi ar gyfer trydedd rhan y cwrs lle byddwch yn defnyddio'ch sgiliau uwch i gwblhau prosiect manwl a pharatoi traethawd hir ym maes Uwch-Beirianneg Fecanyddol. Mae cam prosiect a thraethawd hir eich cwrs yn werth 60 credyd arall.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae modiwl 10 credyd yn cynrychioli cyfanswm o 100 awr o astudio fel arfer. Gall hyn olygu 24–36 awr o amser cyswllt gyda staff addysgu. Bwriedir i'r oriau sy'n weddill fod ar gyfer amser astudio preifat, gwaith cwrs, adolygu ac asesu: disgwylir i bob myfyriwr dreulio cryn dipyn o amser (20 awr bob wythnos fel arfer) yn astudio'n annibynnol. Rhaid i chi roi gwybod i'ch tiwtor personol, i oruchwyliwr y prosiect ac i’r Swyddfa Addysgu am unrhyw amgylchiadau neu salwch a allai effeithio ar eich gallu i fynd i addysgu neu ymgymryd ag asesiad.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Defnyddir ystod eang o arddulliau a mecanweithiau addysgu i ddarparu'r deunydd amrywiol sy'n llunio cwricwlwm y rhaglen. Bydd disgwyl i chi fynychu darlithoedd a chymryd rhan mewn dosbarthiadau tiwtorial. Rhaid i bob myfyriwr gwblhau 120 o gredydau yng Ngham 1 er mwyn symud ymlaen i'r traethawd hir, a bryd hynny bydd goruchwyliwr yn cael ei ddyrannu i’r myfyrwyr o blith y staff addysgu. Fel arfer, dewisir pynciau traethawd hir o amrywiaeth o deitlau prosiect a gynigir gan staff academaidd, fel arfer mewn meysydd o ddiddordeb ymchwil cyfredol, er eich bod yn cael eich annog i gyflwyno eich syniadau prosiect eich hun.

Sut y caf fy asesu?

Asesir y gwaith o ddatblygu deilliannau dysgu yn y modiwlau yn yr ystafell ddosbarth drwy arholiadau'r Brifysgol ym mis Ionawr a Mai/Mehefin. Bydd asesiad sy'n seiliedig ar arholiadau yn bennaf yn cael ei ddefnyddio mewn wyth modiwl (80 credyd) a gymerir yng Ngham 1 y rhaglen. Mae'r cydbwysedd rhwng arholiadau a gwaith cwrs yn dibynnu ar y modiwlau a ddewisir. Mae’r hyn sy'n cyfateb i hyd at chwe chredyd ar gael mewn elfennau gwaith cwrs mewn modiwlau unigol, yn ogystal â dwy astudiaeth achos modiwl dwbl (40 credyd).

Mae angen cwblhau Cam 2 yn llwyddiannus, sef y Traethawd Hir, a chael marc o 50% neu uwch er mwyn cael MSc. Gellir dyfarnu Rhagoriaeth i ymgeiswyr sy’n cael marc o 70% ar gyfartaledd. Gellir dyfarnu Teilyngdod i ymgeiswyr sy’n cael marc o 60% ar gyfartaledd. Gall ymgeiswyr nad ydyn nhw’n llwyddo i ennill cymhwyster MSc gael Diploma Ôl-raddedig Addysg Uwch ar gyfer y 120 credyd yng Ngham 1. Gall ymgeiswyr nad ydyn nhw’n llwyddo i gwblhau’r 120 credyd angenrheidiol ar gyfer Cam 1 fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad Tystysgrif Ôl-raddedig Addysg Uwch am gyflawni o leiaf 60 credyd.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd Dysgu Canolog, amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Caerdydd, yn cael ei ddefnyddio'n helaeth i gyfathrebu â myfyrwyr, cefnogi darlithoedd a darparu deunyddiau cyffredinol rhaglenni, fel rhestrau darllen a disgrifiadau o’r modiwlau. Gellir ei ddefnyddio hefyd i roi adborth.

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi er mwyn eich helpu gyda chynnydd academaidd a chymorth bugeiliol pan fo angen. Bydd y tiwtor personol yn cwrdd â chi yn gynnar yn y rhaglen, ac yn ôl yr angen wedi hynny. Ar gyfer cam y traethawd hir, byddwch yn cael goruchwyliwr yn y maes ymchwil perthnasol, a dylech ddisgwyl cwrdd â’r goruchwyliwr yn rheolaidd. Yn ogystal â'r ystod eang o wasanaethau cymorth sy’n cael eu darparu’n ganolog gan Brifysgol Caerdydd, bydd myfyrwyr ag anghenion penodol yn cael eu cefnogi yn ôl yr angen.

Adborth

Byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig ar gyfer aseiniadau gwaith cwrs ysgrifenedig, ac adborth llafar ar gyfer cyflwyniadau a asesir.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

A. Gwybodaeth a Dealltwriaeth

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus bydd disgwyl i chi fod yn gallu:

  • Deall theorïau, egwyddorion gwyddonol a chysyniadau yng nghyd-destun uwch-beirianneg fecanyddol, gan gefnogi'r broses o gymhwyso’r canlynol yn effeithiol - gwyddoniaeth peirianneg, mathemateg a disgyblaethau eraill sydd eu hangen ar gyfer datrys problemau uwch-beirianneg.
  • Deall cyfyngiadau gwybodaeth a thechnolegau cyfredol a'r angen i gael gwybodaeth newydd drwy astudio mwy mewn ymateb i dechnolegau newydd ac sy’n dod i’r amlwg ac anghenion cymdeithas.
  • Deall rôl gwaith prosiect unigol a gwaith prosiect tîm yng nghyd-destun peirianneg fecanyddol broffesiynol.
  • Datblygu sgiliau rheoli prosiect sy'n briodol ar gyfer gyrfa mewn peirianneg a deall sut i gymhwyso'r sgiliau hyn mewn amgylchedd masnachol a/neu ymchwil.
  • Galluogi’r broses o ddadansoddi gwybodaeth yn feirniadol, gan gynnwys llenyddiaeth gyfredol i gefnogi'r gwaith o nodi bylchau mewn gwybodaeth a allai arwain at arloesi a datblygiadau ym maes uwch-beirianneg fecanyddol.
  • Bod yn ymwybodol o'r cyfrifoldebau sydd gan beirianwyr proffesiynol i gymdeithas.

B. Sgiliau Deallusol

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus bydd disgwyl i chi fod yn gallu:

  • Defnyddio gwybodaeth a dulliau gwyddonol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wrth asesu a datrys heriau peirianneg fecanyddol, yn aml heb fawr o wybodaeth ac o bosibl, gwybodaeth anghyson.
  • Delio â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol.
  • Dangos gwreiddioldeb wrth fynd i'r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd gan ddefnyddio arloesedd priodol ac addasu dulliau.
  • Ymgymryd â phrosiect ymchwil sylweddol mewn maes uwch-beirianneg fecanyddol sy'n cynnwys gwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth.
  • Casglu, gwerthuso, cyfosod a dehongli data ansoddol a meintiol mewn amrywiaeth o ffyrdd; a chanfod ffyrdd o gael data newydd pan fo angen.
  • Ystyried, cynllunio, gweithredu a chyfleu canlyniadau darn manwl estynedig o waith prosiect grŵp.
  • Cynnal dadl feirniadol, yn ysgrifenedig a thrwy gyflwyniadau.

C. Sgiliau Ymarferol

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus bydd disgwyl i chi fod yn gallu:

  • Defnyddio dulliau mathemategol ac arbrofol priodol ar gyfer modelu a dadansoddi problemau peirianneg fecanyddol.
  • Mentro a chymryd cyfrifoldeb personol wrth gwblhau prosiect grŵp, gan ystyried cyfyngiadau fel amser, cost, iechyd a diogelwch yn ogystal â materion peirianneg fecanyddol penodol.
  • Cyflawni prosiect mawr yn llwyddiannus, gan ystyried cyfyngiadau fel amser, cost, iechyd a diogelwch yn ogystal â materion peirianneg fecanyddol penodol.

D. Sgiliau Trosglwyddadwy

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus bydd disgwyl i chi fod yn gallu:

  • Trin, cyflwyno ac adrodd ar ddata mewn amrywiaeth o ffyrdd.
  • Rheoli adnoddau ac amser.
  • Cyfleu syniadau, egwyddorion a theorïau'n effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig a chorfforol neu ymarferol.
  • Llunio adolygiad cryno o lenyddiaeth.
  • Defnyddio offer technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) yn effeithiol.
  • Gweithio'n effeithiol mewn grŵp tuag at gyflawni nodau a thargedau penodol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Oherwydd hyd y rhaglen hon, dim ond myfyrwyr sy'n dod o Gymru a'r UE sy'n bodloni’r gofynion preswylio (mae myfyrwyr sy'n dod o Loegr wedi'u heithrio) sy'n gymwys i gael benthyciad ôl-raddedig. Rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer benthyciadau Llywodraeth y DU i Ôl-raddedigion.

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae'r cwrs yn darparu hyfforddiant lefel meistr i'r safon sy'n angenrheidiol ar gyfer ymarfer fel peiriannydd mecanyddol proffesiynol siartredig. Ar ôl graddio, byddwch wedi eich paratoi ar gyfer rolau lefel rheoli ar draws amrywiaeth eang o feysydd mecanyddol a pheirianyddol cysylltiedig. Bydd y deunydd sy'n cael ei gyflwyno yn ystod y cwrs yn sylfaen ardderchog i unrhyw yrfa ym maes peirianneg fecanyddol neu ddisgyblaeth gysylltiedig.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Peirianneg, Peirianneg gweithgynhyrchu, Peirianneg fecanyddol


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.