Cynllun ffioedd a mynediad
O dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, mae’n ofynnol i ni ddatblygu cynllun ffioedd a mynediad bob blwyddyn a buddsoddi cyfran o’r incwm ffioedd israddedig ar waith cynllun ffioedd a mynediad.
Mae ein cynllun ffioedd a mynediad yn nodi’r gweithgareddau y byddwn yn eu cyflawni i sicrhau cyfle cyfartal a mynediad teg i grwpiau a dangynrychiolir mewn addysg uwch, a’u cefnogi i gyflawni canlyniadau llwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys mesurau i ddenu ceisiadau gan fyfyrwyr o grwpiau a dangynrychiolir a’u cadw.
Mae manylion ar y cynllun ynghylch sut y byddwn yn parhau i ddarparu addysg uwch, gan gynnwys darpariaeth Gymraeg, i’r holl fyfyrwyr israddedig trwy wella profiad y myfyrwyr a chyflogadwyedd.
Crynodeb 2020-21
Er mwyn hyrwyddo cyfle cyfartal, ehangu mynediad at addysg uwch, cynyddu dysgu drwy'r Gymraeg a gwella deilliannau ar gyfer grwpiau a dangynrychiolir a myfyrwyr sy'n agored i niwed, byddwn yn:
- Codi dyheadau a chynyddu mynediad at addysg uwch ymhlith grwpiau a dangynrychiolir drwy weithgareddau wedi'u harwain gan y Brifysgol, ac ar y cyd â strategaeth Ymestyn yn Ehangach First Campus.
- Cefnogi parhad ymysg grwpiau a dangynrychiolir a'r rheini ag anghenion ychwanegol. Byddwn yn gwneud hyn drwy roi pwyslais newydd ar gefnogaeth gynhwysfawr ar gyfer pontio er mwyn addasu i fywyd yn y brifysgol.
- Ymestyn ein darpariaeth Gymraeg mewn partneriaeth â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhan o Strategaeth newydd, gyfannol y Gymraeg – un â'r nod o gynyddu'r niferoedd sy'n dewis ein darpariaeth drwy wella pob agwedd ar fywyd Cymraeg y Brifysgol.
- Gwella cyflogadwyedd grwpiau a dangynrychiolir gyda chefnogaeth gyrfaoedd wedi'i thargedu a phecynnau cymorth ychwanegol ar gyfer lleoliadau rhyngwladol.
Er mwyn hyrwyddo addysg uwch, gwella ymgysylltu dinesig, sicrhau dysgu ac addysgu o safon uchel a chefnogi llais y myfyriwr a chyflogadwyedd graddedigion, byddwn yn:
- Gweithredu rhaglen gymunedol ac ymgysylltu dinesig gan gynnwys gweithio gydag ysgolion a cholegau ar draws Cymru.
- Cynnig amgylchedd, profiad ac isadeiledd dysgu ac addysgu o safon uchel sy'n bodloni anghenion amrywiol myfyrwyr.
- Cynnig gwasanaeth cefnogi myfyrwyr o safon uchel sy'n atgyfnerthu'r amgylchedd dysgu ac addysgu gan alluogi myfyrwyr i gael y profiad gorau.
- Gwella cyflogadwyedd ein myfyrwyr drwy ein Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd a chynnig mwy o gyfleoedd profiad gwaith gan gynnwys lleoliadau, gwirfoddoli a chyfleoedd rhyngwladol.
Lawrlwytho ein cynlluniau presennol

Fee and Access plan 2021-22 (Welsh)
Cymeradwywyd Cynllun Ffioedd a Mynediad 21/22 gan CCAUC ym mis Mai 2020.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.

Fee and access plan 2020-21
Darllenwch ein cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd gan CCAUC ar 2020/21. Cymeradwywyd gan CCAUC 3 Medi 2019.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Cymeradwywyd y cynllun gwreiddiol gan CCAUC ym mis Gorffennaf 2018. Cymeradwywyd amrywiad i Atodiad Aii gan CCAUC ar 16 Gorffennaf 2019. Roedd yr amrywiad hwn mewn ymateb i gytundeb masnachfraint newydd gyda Phrifysgol Bangor ar gyfer cyflwyno’r radd MBBCCh yng Ngogledd Cymru.
Cynlluniau o’r blynyddoedd blaenorol
Lawrlwythwch ein cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd gan CCAUC o’r blynyddoedd blaenorol:
Name | Type | Last updated |
---|---|---|
Fee and access plan 2016-17 (Welsh) | 06/07/2015 | |
Fee and access plan 2017-18 (Welsh) | 15/07/2016 | |
Fee and access plan 2018-19 (Welsh) | 07/08/2017 | |
Fees and access plan 2019-20 Welsh version | 08/08/2018 |