Ewch i’r prif gynnwys

Daearyddiaeth Ffisegol gyda Blwyddyn yn Astudio Dramor (BSc)

Pam astudio'r cwrs hwn

screen

Cyfleusterau o ansawdd uchel

Bydd y technolegau diweddaraf mewn offer arolygu a mapio, labordai cemegol a labordai gyda System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) ar gael ar eich cyfer.

briefcase

Cysylltiadau cryf

Mae ein cysylltiadau rhagorol â sefydliadau lleol, megis Cyfoeth Naturiol Cymru a Phartneriaeth Aber Afon Hafren, yn helpu ein myfyrwyr i ddod o gyfleoedd i wneud prosiectau a mynd ar leoliadau gwaith.

location

Lleoliad gwych

O fynyddoedd trawiadol y gogledd i aber llanwol bioamrywiol yn y de, mae gan Gymru yn lle chwarae i ddaearyddwyr gan fod ystod enfawr o amgylcheddau naturiol i’w harchwilio.

globe

Cyfleoedd gwaith maes

Bydd teithiau maes rheolaidd yn y DU a thramor yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gwaith maes cryf. Mae cost teithiau maes yn rhan o ffioedd eich cwrs.

globe

Blwyddyn dramor

Dysgwch wrth i chi deithio a phrofi tirweddau neu arfordiroedd, addysg a diwylliant gwlad wahanol gyda'r cyfle i gwblhau blwyddyn yn astudio mewn prifysgol dramor.

Mae ein planed yn esblygu ac yn ail-lunio ei hun yn barhaus. Mae angen i ni ddeall y wyddoniaeth y tu ôl i brosesau a pheryglon ffisegol, fel llifogydd ac erydu arfordirol, fel y gallwn ni addasu a dod o hyd i atebion i’r heriau y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol. 

Byddwch yn archwilio sut mae’r Ddaear yn gweithredu ac yn dysgu am beryglon byd-eang mewn llosgfynyddoedd a thirlithriadau ac yn ymchwilio i sut mae tirweddau'n esblygu dros amser yn rhan o’n cwrs Daearyddiaeth Ffisegol. Byddwch yn astudio prosesau ffisegol o bedwar ban byd – o brosesau rhewlifol i ddiffeithdiro. Byddwch yn datblygu sgiliau mewn mapio ac ymchwilio, ac yn ennill profiad mewn defnyddio meddalwedd ac offer safonol yn y diwydiant. 

Rydym yn manteisio i’r eithaf ar ein lleoliad ac yn mynd ar deithiau dydd rheolaidd ar yr arfordir ac i Fannau Brycheiniog yn Ne Cymru. Bydd cyfleoedd hefyd i fynd dramor, ac yn y gorffennol mae ein myfyrwyr daearyddiaeth wedi bod yn y Swistir a Tenerife.

Ar y rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych y cyfle, yn amodol ar berfformiad academaidd, i dreulio blwyddyn academaidd yn astudio yn un o'n prifysgolion partner dramor. Mae astudio dramor yn gyfle gwych i brofi diwylliannau a safbwyntiau eraill, gan ddysgu'r gwahanol arddulliau ac ymagweddau at eich pwnc mewn gwlad arall ac archwilio amgylcheddau ffisegol, tirweddau ac arfordiroedd newydd. Byddwch yn cael cyfle i wneud ffrindiau a chysylltiadau newydd o bob cwr o'r byd. Hefyd, cewch gyfle i ddatblygu cyfoeth o sgiliau bywyd a chryfderau a fydd yn eich helpu i gystadlu mewn gweithle cynyddol fyd-eang, megis gallu i addasu, dyfeisgarwch a gwytnwch.

Fel arfer mae gan fyfyrwyr ar y cwrs hwn ddiddordeb yn y byd ffisegol o’n cwmpas, ac maen nhw am ddefnyddio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Bydd graddedigion yn gadael gyda’r sgiliau i ddatrys ystod o broblemau bywyd go iawn cymhleth o ran yr amgylchedd ffisegol a gyda phrofiad o waith maes ymarferol ac ymchwil gyfoes â gwyddonwyr blaenllaw. 

Maes pwnc: Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd

Maes pwnc: Daearyddiaeth (Ffisegol)

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth) neu BBB-BBC (gyda 2 bwnc gwyddoniaeth). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc HL (gydag 1 pwnc gwyddoniaeth HL) neu 31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc HL (gyda 2 bwnc gwyddoniaeth HL). Pynciau gwyddoniaeth derbyniol: Bioleg, Cemeg, Cyfrifiadureg, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Ffiseg.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn. Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddor Anifeiliaid, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Peirianneg, Gwyddor Iechyd, TGCh, neu Wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,350 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £4,230 Dim
Blwyddyn pedwar £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Mae’r costau gwaith maes ar gyfer eich modiwlau craidd wedi’u cynnwys, ond bydd angen i chi gyfrannu tuag at fwyd os caiff ei ddarparu yn ystod y daith.

Byddwch yn talu 15% o ffioedd arferol Prifysgol Caerdydd yn ystod eich blwyddyn astudio dramor. Bydd angen i chi hefyd dalu am eich costau byw tra byddwch chi dramor, a allai gynnwys costau yswiriant iechyd. Mae costau ychwanegol pellach yn cynnwys costau deithio a ffioedd gwneud cais am fisa. Mae cymorth ariannol ar gael. O dan y system bresennol, mae myfyrwyr yn parhau i fod yn gymwys i gael Cyllid Myfyrwyr ar gyfer lleoliadau tramor. Ar hyn o bryd mae'r Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang hefyd yn darparu bwrsariaeth i gynorthwyo gyda rhai o'r costau sy'n gysylltiedig â lleoliad tramor.  Bydd manylion llawn yn cael eu cadarnhau pan fyddwch chi'n ystyried eich opsiynau blwyddyn astudio dramor.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn radd amser llawn pedair blynedd. Byddwch yn astudio modiwlau craidd ac yn cael sylfaen gref mewn daearyddiaeth ffisegol yn eich blwyddyn gyntaf. Ym mlwyddyn dau a phedwar mae modiwlau craidd a dewisol felly mae gennych rywfaint o hyblygrwydd i ddewis astudio'r meysydd y mae gennych ddiddordeb ynddynt.   Treulir eich trydedd blwyddyn yn astudio mewn prifysgol bartner mewn gwlad arall.

Mae'n ofynnol i chi gyflawni marc cyfartalog o 60% ym Mlwyddyn 1 er mwyn symud ymlaen i wneud cais am leoliad astudio dramor.  Os na wnewch hynny, cewch eich trosglwyddo i'r rhaglen gyfwerth â 3 blynedd heb y flwyddyn astudio dramor.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio modiwlau craidd sydd wedi'u cynllunio i roi sylfaen gref i chi ym maes gwyddorau'r Ddaear a daearyddiaeth. Mae pynciau’n cynnwys cefnforoedd, yr hinsawdd, prosesau’r ddaear ac amgylcheddau byd-eang. Byddwch yn datblygu sgiliau daearyddol hanfodol megis gwaith map a siartiau, Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS) a dadansoddi data daearyddol.

Mae pob un o'r graddau yn yr Ysgol Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol yn astudio'r un semester cyntaf. Ar ôl semester un, gallwch benderfynu a ydych am barhau â’ch dewis gwreiddiol neu newid i un o’r graddau eraill (megis Daearyddiaeth Forol neu Amgylcheddol).

Byddwch yn ennill 120 o gredydau ar gyfer y flwyddyn, ac mae pob modiwl craidd yn werth 20 o gredydau.

Blwyddyn dau

Yn eich ail flwyddyn byddwch yn adeiladu ar yr wybodaeth o flwyddyn un ac yn dechrau archwilio cysyniadau mwy datblygedig fel geomorffoleg prosesau a hydroleg. Byddwch yn ennill sgiliau a phrofiad mewn samplu, casglu a dadansoddi data yn barod ar gyfer eich traethawd hir ym mlwyddyn tri.

Byddwn yn mynd ar gwrs maes preswyl i barc cenedlaethol arfordirol yng Nghymru (naill ai Sir Benfro neu Eryri) lle byddwch yn dysgu sgiliau maes allweddol gan gynnwys mapio ac arolygu.

Yn ystod yr haf rhwng blwyddyn dau a blwyddyn tri, byddwch yn cwblhau pum wythnos o ymchwil annibynnol i’ch paratoi chi ar gyfer eich traethawd hir ym mlwyddyn tri. Gallwch ddewis ymchwilio i faes sydd o ddiddordeb i chi, gan gynnwys pynciau megis llifogydd ac erydu arfordirol, newidiadau i’r dirwedd yn y dyfodol a newidiadau i broffiliau clogwyni ar hyd arfordiroedd sy’n erydu ar hyn o bryd.

Byddwch yn ennill 120 o gredydau ar gyfer y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys modiwlau craidd 40 a 20 o gredydau a dewis o fodiwlau dewisol gwerth 20 o gredydau.

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Blwyddyn pedwar

Bydd gennych fwy o ryddid i lywio eich gradd yn eich trydedd flwyddyn ac yn dewis modiwlau sy’n cyd-fynd â’ch dyheadau o ran gyrfa. Byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth a sgiliau proffesiynol hanfodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Byddwch yn ennill 120 o gredydau ar gyfer y flwyddyn. Mae’r modiwlau craidd yn cynnwys eich traethawd hir a Geomorffoleg Amgylcheddol. Gallwch ddewis astudio amrywiaeth o bynciau arbenigol fel Newid Hinsawdd y Byd fel rhan o'ch modiwlau dewisol.

Byddwn yn mynd ar gwrs maes preswyl dramor i leoliad yn Ewrop lle byddwch yn datblygu eich sgiliau mewn monitro amgylcheddol ac arolygu’r dirwedd ffisegol. Rydym wedi bod i’r Iseldiroedd a’r Swistir yn y gorffennol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydym yn ysgol gyfeillgar ac anffurfiol a chewch eich addysgu gan arbenigwyr sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang sy’n cynnal ymchwil arloesol yn rhyngwladol.

Rydym yn defnyddio dull addysgu sy’n gymysgedd o ddamcaniaeth a gwaith ymarferol, gan gynnwys: darlithoedd, gwaith yn y labordy, gwaith maes, tiwtorialau, gweithdai a seminarau. Cewch hefyd eich annog i ddysgu’n annibynnol ac mewn grwpiau drwy gydol y cwrs, gan ddatblygu ystod eang o sgiliau a fydd yn hanfodol ar gyfer eich gwaith yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys sgiliau rheoli prosiect a threfnu yn ogystal â datblygu eich gallu wrth gymhwyso technoleg gwybodaeth a defnyddio technegau ac offer o’r radd flaenaf.

Bydd sut y cewch eich dysgu yn ystod eich blwyddyn astudio dramor yn dibynnu ar y sefydliad cynnal.  Mae ein holl bartneriaid tramor o safon gymharol o leiaf â Phrifysgol Caerdydd ac mae'r bartneriaeth yn mynd drwy broses gymeradwyo drylwyr. Byddwch yn edrych yn fanwl ar ddulliau addysgu yn eich sefydliad cynnal ac yn trafod y rhain gyda Chyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol fel rhan o'ch proses ymgeisio a'ch cytundeb dysgu Astudio Dramor.

Sut y caf fy nghefnogi?

Ar ddechrau'r cwrs, dyrennir Tiwtor Personol i chi ac mi fyddwch yn cwrdd â hwy’n rheolaidd ar gyfer tiwtorialau. Cynhelir tiwtorialau bob pythefnos yn y flwyddyn gyntaf ac yna bob mis ym mlwyddyn dau a phedwar. Gall eich Tiwtor Personol gynnig cyngor ar faterion academaidd a phersonol. Ym mlwyddyn pedwar, byddwch hefyd yn cael goruchwyliwr ar gyfer eich prosiect traethawd hir.

Bydd cefnogaeth academaidd ar gyfer y flwyddyn astudio dramor yn cael ei darparu i chi yn ystod eich ail flwyddyn gan Gyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol Gwyddorau Ddaear ac Amgylcheddol a chymorth i gynllunio gan gydweithwyr yn y Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang. Rhoddir cyngor ynghylch dewis prifysgol, nodau'r flwyddyn, rheoliadau academaidd a dewis modiwl gan y Cyfarwyddwr Rhyngwladol, a fydd ar gael i drafod syniadau, pryderon a phroblemau gyda chi.

Mae Cyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol yn gweithio'n agos â'r Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang i'ch helpu i wneud cais i'r brifysgol gynnal, ac yn cynnig cyngor ar gyllid, fisâu a'r holl drefniadau ymarferol sy'n gysylltiedig ag astudio dramor. Bydd Cyfleoedd Byd-eang yn trefnu sesiwn cyn gadael ac yn darparu pecyn cyn gadael a fydd yn cynnwys arweiniad defnyddiol. Bydd aelodau staff y Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Bydd Cyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol yn cwrdd â chi i adolygu ac i gytuno ar eich cyrsiau dramor fel rhan o gadarnhau eich Cytundeb Dysgu Astudio Dramor.  Bydd hyn yn gyfle i chi i adolygu'r dulliau addysgu, y deilliannau dysgu a’r dulliau asesu yn y brifysgol bartner a byddwn yn sicrhau bod y rhain yn briodol i chi fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Os oes dulliau asesu sy'n newydd i chi, byddwn yn eich helpu i baratoi ar eu cyfer.

Un o ofynion y modiwl Blwyddyn Astudio Dramor yw eich bod yn cwblhau cyfnodolyn myfyriol ar-lein ac yn cwrdd i drafod hyn yn fisol gyda'ch Tiwtor Personol.  Mae hwn yn gyfarfod misol strwythuredig a gofynnol gyda'ch Tiwtor Personol Prifysgol Caerdydd i'ch galluogi i adolygu cynnydd eich astudiaeth ac i godi a mynd i'r afael ag unrhyw bryderon neu anghenion. Gallwch hefyd gysylltu â'ch Tiwtor Personol neu'r Cyfarwyddwr Rhyngwladol yn ôl yr angen.  Bydd gennych fynediad llawn at adnoddau ar-lein Prifysgol Caerdydd a'r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr tra byddwch dramor.  Bydd gwasanaethau cymorth cynhwysfawr Undeb y Myfyrwyr hefyd ar gael i chi gydol yr amser. 

Bydd Cyfarwyddwr Rhyngwladol yr Ysgol yn gweithio gyda chi a gyda'u cyswllt yn y Sefydliad Partner i ddatrys unrhyw broblemau gyda'r Sefydliad partner ei hun, gan fanteisio ar gymorth gan Gyfleoedd Byd-eang lle mae partneriaethau Prifysgol gyfan, fel sy'n briodol.

Mae pob prifysgol bartner o statws tebyg i Ysgol Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol Caerdydd, ac mae ganddynt drefniadau i ddarparu cymorth academaidd a bugeiliol, felly cewch gymorth ychwanegol trwy drefniadau gofal academaidd a bugeiliol eich prifysgol gynnal.

Cyfleusterau

Mae gennym wefan Dysgu Canolog lle byddwch yn gallu cyrchu fideos, lluniau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni i wneud darllen pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Caiff darlithoedd eu recordio pan yn bosibl fel y gallwch wylio ac astudio yn eich amser eich hun.

Mae gan y wefan Dysgu Canolog hefyd fodiwl ‘Cynllunio Datblygiad Personol’ sy’n eich cefnogi chi wrth asesu eich cynnydd a diwallu eich anghenion datblygu’n rheolaidd.

Gwasanaethau cymorth

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Amrywiaeth

Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol, cefnogol a chroesawgar sy'n parchu urddas staff a myfyrwyr o bob oed, ethnigrwydd, anableddau, strwythurau teuluol, rhyw, cenedligrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hiliau, credoau crefyddol neu gredoau eraill, a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol.  Darllenwch am ein hymrwymiad i egwyddorion Athena SWAN a'n statws Efydd ( https://www.cardiff.ac.uk/earth-environmental-sciences/about-us/equality-diversity-and-inclusivity ).

Sut caf fy asesu?

Byddwn yn asesu eich lefel o wybodaeth a dealltwriaeth ym mhob modiwl drwy gyfuniad o aseiniadau, cyflwyniadau, gwaith maes, arholiadau a thraethawd hir. Byddwch yn cael adborth ysgrifenedig ac ar lafar ar eich gwaith cwrs a bydd cyfleoedd i gael adborth anffurfiol drwy gydol y cwrs.

Byddwch yn cwblhau ystod eang o asesiadau, o draethodau traddodiadol, ymarferion dehongli data a phosteri ar themâu penodol i aseiniadau mwy rhyngweithiol gan gynnwys cyflwyniadau grŵp, adroddiadau technegol a phapurau briffio. Lluniwyd yr asesiadau gwahanol hyn i roi profiad asesu proffesiynol i chi a’ch helpu i baratoi ar gyfer byd gwaith.

SYLWER: Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ag anableddau ac rydym yn ymdrechu i gynnig dulliau asesu amgen rhesymol lle bo hynny’n bosibl.   Mae gennym Bolisi Gwaith Maes Amgen a fabwysiadir mewn achosion lle na all myfyriwr fynychu cwrs maes wedi'i drefnu, a addysgir, neu ran(nau) ohono, oherwydd anabledd neu amgylchiadau esgusodol.

Bydd sut y cewch eich asesu yn ystod eich blwyddyn astudio dramor yn dibynnu ar y sefydliad cynnal.  Mae ein holl bartneriaid tramor o safon gymharol o leiaf â Phrifysgol Caerdydd ac mae'r bartneriaeth yn mynd trwy broses gymeradwyo drylwyr.  Bydd y marciau a enillir o'ch holl gredydau yn eich sefydliad cynnal yn cael eu hadolygu gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi a'r Cyfarwyddwr Rhyngwladol yn yr Ysgol Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol.  Mae'r marciau'n cael eu coladu a'u trosi'n un marc Prifysgol Caerdydd cyfatebol ar gyfer y modiwl Blwyddyn Astudio dramor 120 credyd.  Bydd hyn yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio offeryn trosi marciau'r Brifysgol. Bydd y marc hwn yn cyfrif pwysiad o 10% wrth gyfrifo cyfartaledd eich gradd.  Byddwch yn trafod y dull trosi graddau gyda'r Cyfarwyddwr Rhyngwladol i sicrhau eich bod yn ei deall yn drylwyr cyn i chi gadarnhau eich cytundeb dysgu Blwyddyn Astudio Dramor, gan na fyddwch yn gallu ei herio yn nes ymlaen.

Bydd gofyn i chi gwblhau cyfnodolyn myfyriol yn ystod eich Blwyddyn Astudio Dramor a thrafod hwn yn fisol gyda'ch Tiwtor Personol.  Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn cwrdd ag amcanion dysgu astudio dramor o werthuso'ch profiad eich hun, gan nodi heriau a buddion eich blwyddyn dramor a chymharu a chyferbynnu astudiaeth eich pwnc yn eich sefydliad cynnal â'r un ym Mhrifysgol Caerdydd.  Ni fydd unrhyw farc am y gwaith hwn ac ni fydd yn cyfrif tuag at eich canlyniad modiwl neu radd.  Bydd trafod eich cyfnodolyn myfyriol gyda'ch Tiwtor Personol bob mis hefyd yn sicrhau eich bod yn parhau mewn cysylltiad â Phrifysgol Caerdydd ac yn cael cefnogaeth yr Ysgol, a bydd yn gyfle i chi i godi unrhyw bryderon neu anghenion o fewn gweithgaredd gofynnol.  

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae'r deilliannau dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.  Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.  

Gellir gweld y deilliannau dysgu ar gyfer y rhaglen hon isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • dealltwriaeth systematig o brosesau gofodol ac amserol sy'n ymwneud â phrosesau systemau’r ddaear, gan gynnwys dealltwriaeth feirniadol eang o'r rhyngberthynas rhwng y rhain ar ystod o raddfeydd
  • dealltwriaeth eang o heriau byd-eang gan gynnwys risgiau a pheryglon sy'n gysylltiedig â phrosesau system y ddaear, gan gynnwys dulliau o lywodraethu'r rhain
  • dealltwriaeth systematig o natur amlddisgyblaethol Daearyddiaeth Ffisegol, gan gynnwys ei chynnwys, ei dulliau a'i hathroniaeth, a dealltwriaeth ymarferol gysylltiedig o'r angen i gynnwys gwybodaeth o'r gwyddorau cytras, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â gwyddorau cefnfor, atmosfferig, ffisegol ac amgylcheddol

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Dadlau, dehongli ac egluro achosion a graddfeydd prosesau system ddaear gyfoes ac yn y dyfodol wrth gymhwyso syniadau, cysyniadau a dulliau perthnasol yn feirniadol
  • Casglu, coladu, syntheseiddio a gwerthuso'n feirniadol amrywiaeth eang o ddata a gwybodaeth Daearyddiaeth Ffisegol, gan ddefnyddio dulliau perthnasol mewn meysydd cytras o wyddoniaeth
  • Gwerthuso ymchwil gyfredol mewn agweddau dethol ar Ddaearyddiaeth Ffisegol, gan ddangos gwerthfawrogiad o ansicrwydd, amwysedd a therfynau dealltwriaeth wyddonol gysylltiedig
  • Gweithio ar draws disgyblaethau i gysylltu gwybodaeth a phrofiad o wyddorau perthynol i ddeall prosesau system y ddaear 

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Dadansoddi a dehongli'n feirniadol ystod o wahanol fathau o ddata sy'n gysylltiedig â'r prosesau ymchwil daearyddiaeth ffisegol i ymchwilio i ystod o bynciau amserol ar wyneb y ddaear a chysyniadau damcaniaethol
  • Cynllunio, dylunio a chynnal ymchwil sy'n gysylltiedig â daearyddiaeth ffisegol, gan ddefnyddio'n feirniadol ystod o ddulliau ansoddol a meintiol o gasglu a dadansoddi data mewn astudiaethau maes, ar y môr, yn y labordy ac wrth ddesg.
  • Deall a chymhwyso dulliau a ddefnyddir i gaffael data geo-ofodol a chynrychioli data o'r fath mewn fformatau cartograffig a graffig priodol gan ddefnyddio platfformau priodol, gan gynnwys GIS
  • Mynd i'r afael â phroblemau ymchwil sy'n cynnwys integreiddio a dadansoddi data amrywiol, sy’n aml yn anghyflawn ac ansicr gan ddefnyddio methodolegau a dulliau ansoddol a meintiol priodol
  • Arddangos sgiliau ymarferol a chymhwysedd mewn technoleg gwybodaeth, systemau gwybodaeth ddaearyddol, technegau cartograffig, ystadegol a dadansoddol eraill
  • Defnyddio sgiliau rheoli prosiect a threfnu effeithiol drwy weithio'n annibynnol a thrwy weithio mewn tîm
  • Deall yr agweddau ar gasglu data o ran cyfyngiadau ymarferol, logisteg, diogelwch a moesegol, a hynny mewn amrywiol amgylcheddau, a chymhwyso'r ddealltwriaeth hon, fel sy'n briodol i ymchwil gymhwysol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen gyfan yn llwyddiannus bydd myfyrwyr yn gallu dangos y canlynol:

  • Yr hyblygrwydd, y gwytnwch, agwedd meddwl agored a'r gallu i edrych ar bwnc o wahanol safbwyntiau, y gellir ei gael yn y flwyddyn astudio dramor.
  • Y gallu i gyfleu gwybodaeth, syniadau a dadleuon yn effeithiol mewn amrywiaeth o fformatau gan ddefnyddio cyfryngau llafar, ysgrifenedig a gweledol i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg
  • Y gallu i weithio'n gymwys yn unigol neu fel rhan o dîm wrth osod problemau a datrys problemau o fewn ystod o amgylcheddau ymchwil cymhwysol lle mae’r dasg o wneud penderfyniadau’n gymhleth ac yn amlddisgyblaethol
  • Y gallu i ymgymryd ag astudiaeth annibynnol ac ysgolheictod personol, wedi'u meithrin trwy gymryd mwy o gyfrifoldeb personol, menter a phrofiadau hunan-ddysgu
  • Dealltwriaeth o'r sgiliau a'r cymwyseddau sydd eu hangen i ddod o hyd i waith a chefnogi datblygiad proffesiynol parhaus, a’r gallu i gymhwyso hyn i hunan-fyfyrio, asesu a mynegi sgiliau ac anghenion cyflogadwyedd unigol

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Gyda’r blaned dan bwysau cynyddol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd a thirwedd newidiol, mae galw mawr am wybodaeth a sgiliau daearyddwyr ffisegol. Gallwch ddefnyddio eich dealltwriaeth o brosesau’r Ddaear i ddod o hyd i atebion cynaliadwy i nifer o heriau cymhleth rydym yn eu hwynebu heddiw ac y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol.

Gallwch ddewis gweithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau gwahanol a rolau llywodraeth, asiantaethau llywodraethol neu gwmnïau ymgynghori, gan gynnwys gweithio fel arbenigwr technegol neu ddadansoddwr geo-ofodol. Bydd gennych hefyd sgiliau y gellir eu rhoi ar waith mewn sectorau fel yswiriant, cyllid, addysg a chynllunio.

Mae rhai o’n myfyrwyr yn y gorffennol wedi mynd ymlaen i weithio yn Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, llywodraeth leol, cwmnïau ymgynghori amgylcheddol ac elusennau amgylcheddol.

Lleoliadau

Oes.  Mae cyfle i ymgymryd â lleoliad astudio yn y drydedd flwyddyn gyda sefydliad partner mewn gwlad arall.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cyfle i astudio mewn prifysgolion yn UDA, Canada, Awstralia, Sweden a'r Iseldiroedd.

Gwaith maes

Rhwng y mynyddoedd trawiadol yn y gogledd ac aber llanw bioamrywiol yn y de, cewch chi gyfoeth o brofiadau ymarferol yn archwilio rhai o ardaloedd o ddiddordeb daearyddol mwyaf unigryw y DU.

Rydym yn mynd ar deithiau dydd rheolaidd ar hyd yr arfordir ac i fynyddoedd Bannau Brycheiniog yn Ne Cymru, yn ogystal â thaith breswyl i Eryri, a thaith dramor i Ewrop. Mae lleoliadau blaenorol yn cynnwys y Swistir a Tenerife.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.