Dulliau Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (Seicoleg) (MSc)
- Hyd: 1 flwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Mae'r rhaglen hon yn cynnig hyfforddiant uwch mewn dulliau ymchwil ar draws holl ystod y gwyddorau cymdeithasol – mae’n cyd-fynd â gofynion grant ESRC ar gyfer cwrs PhD. Mae’n rhoi gwybodaeth drylwyr i fyfyrwyr o ddylunio ymchwil, casglu data, a’r prif ddulliau o ddadansoddi data meintiol a data ansoddol y gwyddorau cymdeithasol.
Bydd y cwrs MSc Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol yn cynnig uwch-hyfforddiant mewn dulliau ymchwil ar draws holl ystod y gwyddorau cymdeithasol. Mae gan bob llwybr cwrs gydnabyddiaeth ESRC ac maent yn bodloni’r anghenion hyfforddiant ar gyfer cyllid PhD ESRC.
Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd helaeth i astudio’n rhyngddisgyblaethol, i gymhwyso arbenigedd o ran ymchwil gymdeithasol at ddatblygu gyrfa alwedigaethol, ac i fynd ar drywydd maes sylweddol o ddiddordeb ar lefel ôl-raddedig.
Cewch lawer iawn o wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol am lunio astudiaethau ymchwil effeithiol, am yr amrywiaeth o ddulliau o gasglu data sydd ar gael i’r gwyddonydd cymdeithasol ac am y prif ddulliau o ddadansoddi data o fyd y gwyddorau cymdeithasol. Hefyd, cewch eich cyflwyno i’r fframweithiau gwleidyddol a moesegol y gwneir ymchwil i’r gwyddorau cymdeithasol ynddynt, a rhai o’r ffyrdd o ledaenu canlyniadau ymchwil gwyddorau cymdeithasol.
Llwybr Seicoleg
Mae’r Ysgol Seicoleg, sydd â llawer o adnoddau ac enw da rhyngwladol, yn un o ganolfannau seicoleg mwyaf y DU. Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf, dyfarnwyd ansawdd ein gwaith ymchwil yn yr 2il safle yn y DU ar gyfer meysydd Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth.
Bydd y llwybr Seicoleg yn darparu gwybodaeth uwch am ddylunio, cynnal, dadansoddi a dehongli astudiaethau empirig o fewn disgyblaeth seicoleg. Mae myfyrwyr ar y llwybr hwn yn ymgysylltu â gweithgaredd ymchwil yr Ysgol mewn dau faes o fewn yr Ysgol, o niwrowyddoniaeth, gwyddoniaeth wybyddol, datblygiad a iechyd, a seicoleg gymdeithasol ac amgylcheddol.
Nodweddion unigryw
The formal research training programme in Psychology draws on the internationally recognised research conducted at Cardiff University.
We are one of the largest psychology departments in Britain, allowing us to offer well-resourced teaching and research opportunities in all areas of psychology, from neuroscience and brain imaging to environmental risk, social and developmental psychology, encompassing both basic science and applied aspects. Our teaching was judged to be 'Excellent' in the Teaching Quality Assessment.
We take pride that Cardiff educates UK and International students from all backgrounds. We offer a rounded academic student experience both socially and academically, with the opportunity to pursue a wide range of activities. The overarching objective of postgraduate research training employed within the School is to equip students with a level of competence, comprehension and understanding of the theoretical and methodological underpinnings of their research so as to allow them to compete as international calibre researchers in the future.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Seicoleg
Dewch i astudio mewn amgylchedd dysgu deinamig sy’n ysgogi, wedi'i lywio gan ein gwaith ymchwil blaenllaw ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.
Meini prawf derbyn
2:1 in any undergraduate degree or equivalent, related to Psychology or Social Sciences. Alternatively, you may be considered for admission if you are able to demonstrate that you have held, for a minimum period of two years, a position of responsibility relevant to the programme, or, in exceptional circumstances, be able to demonstrate equivalent skills that are sufficient to meet the demands of the programme.
Where English is not your first language, we require a minimum IELTS score of 6:5 overall,(to include 6.5 in writing and 5.5 in all other sub-scores) or an equivalent English qualification.
In addition to the standard application, you will be asked to produce an initial outline description of your intended research topic which will form the basis for assessing the application, together with the completed application form and references. The research proposal will also be the means by which you are paired with potential supervisors. It is strongly advised that you contact potential supervisors in advance.
Research proposal forms and further advice are available through the pathway convenor or the general SSRM office. Completed forms can be attached to an application or returned via email directly to the pathway convenor or SSRM office (see contact details).
Applications are considered on a rolling basis throughout the academic year but due to the popularity of the course, places fill up quickly. Prospective students are advised to submit their application in the spring.
The deadline for applications from international students for this course is 1st August.
The deadline for applications from home students for this course is 1st September.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Byddwch yn astudio 6 modiwl 20 credyd. Mae pump o'r chwe modiwl yn fodiwlau craidd, oherwydd eu bod wedi'u cynllunio i roi sgiliau ymchwil i chi ac mae pob myfyriwr yn eu hastudio. Mae'r chweched modiwl yn benodol i'r llwybr penodol. Ar gyfer y llwybr seicoleg, mae hyn yn cynnwys lleoliadau ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg sydd wedi’u cynllunio i ddarparu dealltwriaeth fanylach o ymchwil empirig o fewn disgyblaeth seicoleg.
Ym mhob modiwl, mae gennych gyfle i ddefnyddio llenyddiaeth ac ymchwil sy'n berthnasol i'ch Llwybr (Seicoleg).
Ar ôl cwblhau'r gydran a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn paratoi traethawd hir (hyd at 20,000 o eiriau) i’w gyflwyno erbyn canol mis Medi. Mae angen astudio'n annibynnol ar gyfer y gydran traethawd hir sy’n 60 credyd. Chi fydd yn dewis pynciau traethawd hir mewn cytundeb â'ch goruchwylwyr.
Dyma rai o deitlau traethodau ymchwil Seicoleg diweddar ar y cwrs:
- Amlygrwydd a gwerthoedd plant: astudio pa effaith mae plant yn ei chael ar werthoedd pro-gymdeithasol.
- Y cyfuniad gorau o ddiet i helpu menywod gyda syndrom ofarïau polycystig i golli pwysau: Adolygiad systematig a dadansoddiad meta o dreialon rheoledig ar hap.
- Rhagfynegyddion dechrau teulu: Adolygiad systematig a synthesis naratif o astudiaethau hydredol.
- Defnyddio IAT (Prawf Cysylltiad Ymhlyg) wedi’i bersonoli i ganfod hunaniaeth rywiol ac agweddau tuag at gyfeiriadedd rhywiol rhywun.
- Dioddefwr rhywedd? Archwiliad esblygiadol o laddiadau a’r berthynas rhwng y dioddefwr a’r troseddwr.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Developing Core Research Skills | BST703 | 20 credydau |
Foundations of Social Science Research | CPT898 | 20 credydau |
Research Skills in Practice | PST016 | 20 credydau |
Qualitative Research Methods | SIT700 | 20 credydau |
Quantitative Research Methods | SIT701 | 20 credydau |
Research Applications | SIT703 | 20 credydau |
Dissertation | PST005 | 60 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae eich cwrs yn cynnwys gweithgareddau dysgu ar yr amserlen (gan gynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a sesiynau ymarferol) ac astudio annibynnol o dan arweiniad. Disgwylir i chi gymryd rhan weithredol yn yr holl weithgareddau addysgol ar eich rhaglen astudio, paratoi at yr holl weithgareddau addysgu ar yr amserlen a bod yn bresennol ynddyn nhw, a dod yn ddysgwyr annibynnol a hunan-gyfeiriedig.
Ar gyfer y rhai sy'n symud ymlaen ar ôl y diploma i'r MSc, mae rhan olaf y cwrs yn cynnwys traethawd hir (60 credyd). Ar gyfer y rhan hon, bydd tiwtor yn cael ei neilltuo i fyfyrwyr a byddant yn cyfarfod yn rheolaidd. Mae modiwl cynllun a dulliau’r ymchwil yn fodiwl gorfodol sy'n cyfrannu at baratoi ar gyfer y traethawd hir. Chi fydd yn dewis pynciau traethawd hir, mewn cytundeb â'ch goruchwyliwr.
Sut y caf fy asesu?
Asesir pob modiwl drwy gyflwyno gwaith cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae hyn ar ffurf adroddiadau ymchwil, traethodau, portffolios neu weithgareddau eraill a astudir yn y modiwlau.
Caiff traethawd ymchwil ei farcio'n annibynnol ar ôl ei gyflwyno.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir - Dysgu Canolog - lle byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig a gwybodaeth am asesiadau. Bydd tiwtor personol a goruchwyliwr traethawd hir yn cael eu neilltuo i chi pan fyddwch yn gweithio ar eich traethawd hir. Byddant yn trefnu cyfarfodydd rheolaidd i drafod cynnydd, rhoi cyngor ac arweiniad, a rhoi adborth ar fersiynau drafft.
Adborth
Byddwch yn derbyn adborth drwy gydol y flwyddyn ac ar gyfer pob modiwl mewn nifer o ffyrdd. Darperir adborth ysgrifenedig ar yr holl waith cwrs a gyflwynir ac mae’r adborth wedi’i gynllunio i'ch helpu i wella'r darn nesaf o waith cwrs, lle bo hynny'n berthnasol.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
O ganlyniad i ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, dylech allu gwneud y canlynol:
- Gwerthuso’n feirniadol wybodaeth, ysgolheictod ac ymchwil bresennol, a gwerthfawrogi haeriadau a safbwyntiau damcaniaethol croes.
- Cymhwyso’ch gwybodaeth a’ch sgiliau a dangos gwreiddioldeb yn eich meddwl, drwy fynd i’r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd.
- Fel y bo'n briodol, gwerthuso, cyfosod a dehongli data, a gallu casglu, gwerthuso, cyfosod a dehongli data ar ffurf prosiect neu draethawd hir.
- Dangos sgiliau academaidd a phersonol lefel uchel yn berthnasol i’ch ymchwil neu’ch ysgolheictod chi, fel ysgrifennu, cyflwyniadau llafar, datrys problemau a gwaith grŵp, a defnyddio a chymhwyso technolegau gwybodaeth, er enghraifft, mewn chwiliadau llenyddiaeth, dulliau ymchwil a dadansoddi a chyflwyno data.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £8,950 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £20,450 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Ni fydd angen unrhyw offer penodol.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Nod y cwrs yw darparu gwybodaeth ac arbenigedd sy’n addas ar gyfer gyrfaoedd ym maes ymchwil a datblygu, busnes, astudiaethau marchnad, asiantaethau cyhoeddus ar lefelau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol, addysg, addysgu a gwaith gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, a sefydliadau gwirfoddol.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Gwyddorau cymdeithasol, Seicoleg
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.