Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (Cynllunio Amgylcheddol) (MSc)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Hyfforddiant uwch mewn dulliau ymchwil i’ch paratoi ar gyfer eich astudiaeth PhD.
Llwybrau arbenigol
Cewch ddewis llwybr sy’n cyd-fynd â’ch prif faes diddordeb.
Ymwneud ag ymchwil newydd
Gallwch gymryd rhan yng ngweithgareddau grwpiau ymchwil yr Ysgol; mae ystod eang ohonynt!
Cynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd
Mae modiwl dewisol yn cynnig cyfle i astudio cynllunio drwy lens cynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd.
Ymchwil annibynnol
Cewch gymryd rhan mewn ymchwil annibynnol wedi'i seilio ar hyfforddiant dulliau dosbarth-cyntaf, yn rhan o'ch traethawd hir terfynol.
Bydd y cwrs MSc Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol yn cynnig uwch-hyfforddiant mewn dulliau ymchwil ar draws holl ystod y gwyddorau cymdeithasol. Mae gan bob llwybr cwrs gydnabyddiaeth ESRC ac maent yn bodloni’r anghenion hyfforddiant ar gyfer cyllid PhD ESRC.
Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd helaeth i astudio’n rhyngddisgyblaethol, i gymhwyso arbenigedd o ran ymchwil gymdeithasol at ddatblygu gyrfa alwedigaethol, ac i fynd ar drywydd maes sylweddol o ddiddordeb ar lefel ôl-raddedig.
Cewch lawer iawn o wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol am lunio astudiaethau ymchwil effeithiol, am yr amrywiaeth o ddulliau o gasglu data sydd ar gael i’r gwyddonydd cymdeithasol ac am y prif ddulliau o ddadansoddi data o fyd y gwyddorau cymdeithasol. Hefyd, cewch eich cyflwyno i’r fframweithiau gwleidyddol a moesegol y gwneir ymchwil i’r gwyddorau cymdeithasol ynddynt, a rhai o’r ffyrdd o ledaenu canlyniadau ymchwil gwyddorau cymdeithasol.
Llwybr Cynllunio Amgylcheddol
Cymerwch y cyfle i astudio’r maes Cynllunio Amgylcheddol sydd fwyaf addas i’ch diddordebau personol, megis polisïau trafnidiaeth gynaliadwy, cynllunio ar gyfer cynaliadwyedd, neu systemau bwyd cynaliadwy.
Byddwch yn elwa ar y brif rôl sydd gan yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn y trafodaethau academaidd a pholisi ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol, gydag addysgu a arweinir gan ymchwil sy’n ysbrydoli myfyrwyr i ymgysylltu’n feirniadol â’r heriau sy’n wynebu ein byd. Fe gewch chi’ch annog, o dan oruchwyliaeth arbenigwyr yn y maes, i edrych ar y seminarau a’r digwyddiadau mae ein Grwpiau Ymchwil amrywiol yn eu cynnig.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio a mynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd, datblygiad ac amgylcheddol sy'n effeithio ar ble a sut yr ydym ni'n byw.
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Cynhelir ein graddau gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ag enw da o ran dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ar draws y byd.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis astudiaethau maes, troseddeg, seicoleg feirniadol, addysg, daearyddiaeth, hanes, cysylltiadau diwydiannol a gweithwyr, y gyfraith, rheolaeth ac astudiaethau busnes, gwleidyddiaeth, addysgeg, gweinyddiaeth gyhoeddus, polisi cymdeithasol a gwaith cymdeithasol, a chymdeithaseg, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhaid i'ch cyflogwr ddarparu geirda i ddangos eich bod yn gweithio mewn maes sy'n berthnasol i'r rhaglen ar hyn o bryd. Dylai hyn gael ei lofnodi, ei ddyddio a'i fod yn llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Y dyddiad cau yw 31 Awst. Os byddwch yn cyflwyno cais ar ôl y dyddiad hwn, byddwn ond yn ei ystyried os oes lleoedd ar gael o hyd.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrion
- Rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Rhaglen amser llawn dros flwyddyn yw hon.
Bydd gofyn i chi gwblhau chwe modiwl 20 credyd - pum modiwl ymchwil craidd ac un modiwl llwybr arbenigol. Ym mhob modiwl cewch gyfle i ddefnyddio llenyddiaeth ac ymchwil sy'n berthnasol i'ch llwybr.
Ar ôl cwblhau'r gydran a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn paratoi traethawd hir hyd at 20,000 o eiriau. Mae angen astudio'n annibynnol ar gyfer y gydran traethawd hir sy’n 60 credyd. Byddwch yn dewis pwnc eich traethawd hir mewn cytundeb â'ch goruchwyliwr.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/26. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Datblygu Sgiliau Ymchwil Craidd | BST703 | 20 credydau |
Sylfeini Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol | CPT898 | 20 credydau |
Dulliau Ymchwil Ansoddol | SIT700 | 20 credydau |
Dulliau Ymchwil Meintiol | SIT701 | 20 credydau |
Ceisiadau Ymchwil | SIT703 | 20 credydau |
Traethawd hir | CPT006 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Rheolaeth Amgylcheddol | CPT826 | 20 credydau |
Polisi Amgylcheddol a Newid Hinsawdd | CPT855 | 20 credydau |
Cynllunio ar gyfer Cynaliadwyedd | CPT878 | 20 credydau |
Polisïau Trafnidiaeth Cynaliadwy | CPT903 | 20 credydau |
Datblygu a Chynllunio Ynni Adnewyddadwy | CPT909 | 20 credydau |
Amgylchedd a Datblygu | CPT917 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Bydd eich rhaglen yn cynnwys gweithgareddau dysgu ar yr amserlen (gan gynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a sesiynau ymarferol) ac astudio annibynnol o dan arweiniad.
Bydd disgwyl i chi gymryd rhan weithredol yn yr holl weithgareddau addysgol ar eich rhaglen astudio, paratoi at yr holl weithgareddau addysgu ar yr amserlen a bod yn bresennol ynddyn nhw, a dod yn ddysgwyr annibynnol a hunan-gyfeiriedig.
Sut y caf fy asesu?
Bydd yn rhaid i chi gwblhau'r gydran a addysgir yn llwyddiannus, sy'n cynnwys 120 credyd.
Ar ôl cwblhau'r gydran a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn paratoi traethawd hir hyd at 20,000 o eiriau.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir - Dysgu Canolog - lle byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig a gwybodaeth am asesiadau. Byddwch yn cael tiwtor personol.
Adborth
Bydd adborth ar gael i chi drwy gydol y rhaglen a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad â'ch tiwtor personol.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Byddwch yn caffael ac yn meithrin amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr sy’n benodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau ""cyflogadwyedd"" mwy cyffredinol.
Bydd sgiliau’n cynnwys:
- y gallu i gasglu, dadansoddi a dehongli amrywiaeth o ddata cymhleth;
- amrywiaeth o sgiliau ymchwil ansoddol a meintiol priodol;
- defnyddio a chymhwyso technolegau gwybodaeth;
- y gallu i gyfleu a chyflwyno syniadau a chanfyddiadau mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft, yn ysgrifenedig, ac ar lafar;
- y gallu i ddatrys problemau, a gweithio'n unigol ac mewn grwpiau.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Nid yw ffioedd ar gyfer mynediad 2025/26 ar gael eto
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Ni fydd angen unrhyw offer penodol.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Mae’r rhaglen yn cynnig gwybodaeth ac arbenigedd sy’n addas ar gyfer gyrfaoedd ym maes ymchwil a datblygu, busnes, astudiaethau marchnad, asiantaethau cyhoeddus ar lefelau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol, addysg, addysgu a gwaith gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, a sefydliadau gwirfoddol.
Mae hefyd yn cynnig hyfforddiant addas ar gyfer symud ymlaen at PhD.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Gwyddorau cymdeithasol, Cynllunio amgylcheddol
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.