Ewch i’r prif gynnwys

Diploma Graddedig yn y Gyfraith (Diploma Graddedig)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Ymgeisiwch

Bydd angen i chi wneud cais i'r cwrs hwn trwy un o'n partneriaid.

conversion-course

Cwrs trosi

Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu yrfa gyfredol, a'ch cefnogi gyda newid llwybr gyrfa.

calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Os ydych wedi graddio mewn pwnc heblaw'r gyfraith ac yr hoffech newid i yrfa gyfreithiol, bydd y Diploma Graddedig yn y Gyfraith (DGG) yn berffaith i chi.

book

Cymryd eich cam cyntaf tuag at fod yn gyfreithiwr

Astudiwch fodiwlau academaidd craidd cwrs gradd yn y gyfraith mewn blwyddyn.

mortarboard

Rhinweddau gorau addysg gyfreithiol draddodiadol

Sicrhau cydbwysedd rhwng dysgu egwyddorion cyfreithiol hanfodol a datblygu sgiliau rhesymu a dadansoddi cyfreithwyr.

calendar

Strwythur cwrs sy'n gadael i chi drefnu eich amser astudio

Mae'r amser cyswllt ar ddydd Iau a dydd Gwener (ac eithrio pythefnos cyntaf y tymor). Mae sesiynau tiwtorial yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb a chaiff darlithoedd eu recordio.

academic-school

Ategu eich astudiaethau academaidd

Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cynnig amrywiaeth o brosiectau pro bono arloesol sy’n eich galluogi i weithio ar brosiectau ac achosion go iawn, gyda chymorth a dan oruchwyliaeth gweithwyr proffesiynol.

Os ydych chi yn ystyried cymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr, mae ein Diploma Graddedig yn y Gyfraith yn eich galluogi i astudio strwythur ac athrawiaethau'r system gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr a saith pwnc craidd (sylfaen) gradd yn y gyfraith: cyfraith contractau, cyfraith trosedd, cyfraith ecwiti ac ymddiriedolaethau, cyfraith yr UE, cyfraith tir, cyfraith gyhoeddus a chyfraith camweddau.

Byddwch yn astudio’r rhain yn ddwys dros flwyddyn, yn hytrach na'r tair blynedd arferol sy'n ofynnol ar gyfer gradd yn y gyfraith.

Os ydych chi’n ystyried cymhwyso fel bargyfreithiwr, mae’r GDL yn rhoi’r modiwlau academaidd y mae gofyn i chi lwyddo ynddyn nhw cyn symud ymlaen at Gwrs Hyfforddiant y Bar (BTC) . Mae modd astudio’r cwrs hwn yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth hefyd.

Os ydych chi’n ystyried cymhwyso fel cyfreithiwr, gall y GDL ganiatáu i chi symud ymlaen at y cam proffesiynol cyfredol yn yr hyfforddiant cyfreithiol, sef y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC). Fel arall, mae’r GDL yn rhoi’r wybodaeth academaidd i chi am gyfraith llythrennau duon y bydd ei hangen arnoch fel rhan o’ch gwaith paratoi ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso’n Gyfreithiwr (SQE) newydd a gaiff ei asesu’n ganolog, a fydd yn cael ei gyflwyno o fis Medi 2021. Cyn ymgymryd â’r SQE, bydd arnoch angen bod wedi astudio agweddau proffesiynol ymarfer a addysgir ar hyn o bryd drwy’r Cyrsiau Ymarfer Cyfreithiol (LPCs) ond unwaith y bydd y drefn asesu ganolog newydd ar waith, bydd cyrsiau LPC yn cael eu disodli gan amrywiaeth o gyrsiau sy’n ceisio paratoi myfyrwyr ar gyfer yr SQE. Ar hyn o bryd, mae Caerdydd wrthi’n datblygu cyrsiau paratoi ar gyfer SQE i olynnu’r cwrs LPC presennol ar ôl i’r drefn newydd gael ei chyflwyno.

Fe wnes i wir fwynhau’r ymagwedd strwythuredig at ddysgu. Mae’r cwrs wedi’i ddylunio dda fel eich bod chi’n adeiladu eich gwybodaeth ym mhob agwedd ar y gyfraith fesul wythnos, gyda seminarau wythnosol i gadarnhau’r dysgu.
Crash Wigley GDL, 2020

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae ein corff myfyrwyr bywiog, ynghyd â'n staff academaidd hynod gymwysedig, yn darparu'r amgylchedd perffaith i archwilio meysydd dynamig a phrysur y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 6102
  • MarkerRhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX

Meini prawf derbyn

Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol, a'ch cefnogi gyda newid gyrfa. Nid oes angen gwybodaeth na gradd flaenorol yn y pwnc.

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon, bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad a'r Trefniadau Trosiannol a bennir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a chyflwyno cais drwy'r Bwrdd Ceisiadau Canolog (CAB).

Gyda'ch cais bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 y DU mewn unrhyw bwnc, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.5 yn ysgrifenedig a 6.0 ym mhob is-sgil arall, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Tystiolaeth eich bod wedi gwneud cais am Dystysgrif Statws Academaidd gan Fwrdd Safonau'r Bar (os ydych chi'n bwriadu cymhwyso fel bargyfreithiwr) os ydych chi'n cael eich ystyried yn fyfyriwr Tramor neu'n gwneud cais gyda chymwysterau ansafonol.
  4. Datganiad personol sy'n amlinellu eich ymrwymiad i'r proffesiwn cyfreithiol, profiad gwaith cyffredinol (os o gwbl), a'r rhesymau dros fod eisiau astudio'r DGG ym Mhrifysgol Caerdydd.
  5. O leiaf un geirda academaidd sy'n amlinellu eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Bydd ceisiadau i'r CAB yn agor ar 1 Hydref ac yn cau ar 31 Gorffennaf ym mhob cylch cais, fodd bynnag, rydym yn gweithredu ein dyddiad cau ein hunain sef 30 Ebrill. Os byddwch yn cyflwyno cais i'r CAB ar ôl 30 Ebrill, byddwn ond yn ei ystyried os yw lleoedd ar gael o hyd.

Sylwch y bydd y CAB ond yn rhyddhau ceisiadau i ni ar ôl cyflwyno ffurflen gais wedi'i chwblhau'n llawn, ynghyd â'r holl dystiolaeth ategol gan gynnwys cyfeiriadau (lle bo hynny'n ofynnol gan y CAB), ac os yw'r ffi ymgeisio wedi'i thalu. 

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar yr holl ffactorau canlynol:

  • os ydych wedi bodloni'r gofynion mynediad ac wedi darparu'r dystiolaeth sydd ar gael i gefnogi'ch cais (e.e. cofnod academaidd, geirdaon a datganiad personol)
  • eich gradd o ymrwymiad i'r proffesiwn cyfreithiol (dangosir, er enghraifft, drwy leoliadau gyda chwmnïau cyfreithwyr neu brofiad cyfatebol)
  • Profiad gwaith cyffredinol
  • rhesymau dros fod eisiau astudio'r LPC ym Mhrifysgol Caerdydd
  • dyddiad derbyn y cais gan Brifysgol Caerdydd
  • Trefn Dewis y Sefydliad
  • unrhyw amgylchiadau esgusodol a allai effeithio ar eich gallu i astudio yn rhywle arall.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Yn ystod y tymor cyntaf byddwch yn astudio modiwlau mewn Cyfraith Contractau, Troseddu a'r UE yn ogystal â Chyfraith Ecwiti ac Ymddiriedolaethau. Yn ystod yr ail dymor byddwch yn parhau i astudio Cyfraith Contractau yn ogystal â Chyfraith Tir, Cyfraith Gyhoeddus a Chyfraith Camweddau. Yn ystod yr ail dymor byddwch hefyd yn gweithio'n annibynnol ar draethawd estynedig a osodir mewn maes cyfreithiol y tu allan i'r modiwlau hyn.

Mae'r rhan fwyaf o waith addysgu GDL yn digwydd ar ddau ddiwrnod yr wythnos. Fodd bynnag, bydd hefyd yn ofynnol i chi astudio a llwyddo mewn prawf byr ar hanfodion System Gyfreithiol Cymru a Lloegr (EWLS) o fewn ychydig wythnosau i ddechrau unrhyw gwrs GDL.

I helpu i baratoi ar gyfer hyn, gofynnir i chi wneud rhywfaint o ddarllen cyfeiriedig cyn cofrestru. Ar ôl cofrestru, bydd sesiynau addysgu dwys wedi'u cynllunio i sicrhau bod pob myfyriwr, beth bynnag fo'ch disgyblaeth flaenorol, yn gallu mynd i'r afael â'r prawf EWLS yn hyderus. Er mwyn caniatáu ar gyfer y rhain ac ar gyfer sesiynau rhagarweiniol, bydd gofyn i chi fynychu gwersi am y rhan fwyaf o’r pythefnos cyntaf ar y cwrs.

Yn ystod eich dau ddiwrnod cyswllt byddwch yn mynychu tiwtorialau. Yn ystod gweddill yr wythnos byddwch yn darllen, yn gwrando ar ddarlithoedd (caiff y rhain eu recordio’n electronig, felly gallwch wrando arnyn nhw pan fydd yn fwyaf cyfleus) ac yn paratoi ar gyfer tiwtorialau.

Mae pob modiwl yn y rhaglen hon yn orfodol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
System Gyfreithiol Cymru a LloegrCL90001 credydau
Traethawd EstynedigCL910010 credydau
Cyfraith DroseddolCL920020 credydau
Ecwiti ac YmddiriedolaethauCL920120 credydau
Cyfraith yr UECL920220 credydau
Cyfraith TirCL920320 credydau
Cyfraith GyhoeddusCL920420 credydau
CamweddCL920520 credydau
ContractCL930030 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Bydd y ddau ddiwrnod cyswllt bob wythnos fel arfer yn cynnwys dwy neu dair sesiwn o fath tiwtorial yr un sy'n para dwy awr fel arfer. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu mewn tiwtorialau, gan gynnwys ymarferion gwaith tîm.

Bydd eich gwaith paratoi yn cynnwys darllen helaeth, gwrando ar ddarlithoedd, gwneud ymchwil gyfreithiol a mynd i'r afael â phroblemau a chwestiynau traethawd neu ymarferion paratoadol eraill. Er enghraifft, efallai y gofynnir i chi ymchwilio i wahanol bwyntiau, crynhoi achosion neu erthyglau cyfnodolion ar ran grŵp tiwtorial cyfan. Er y bydd lleiafrif y darlithoedd yn cael eu cyflwyno'n fyw mewn darlithfa, bydd pob un yn cael ei recordio a'i rhoi ar amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol i fyfyrwyr gael mynediad oddi ar y campws ar adeg gyfleus.

Sut y caf fy asesu?

Bydd arholiadau heb lyfrau (statudau heb nodiadau’n unig) ar bob un o'r saith modiwl sylfaen a'r prawf ar System Gyfreithiol Cymru a Lloegr yn asesu eich gwybodaeth a'ch defnydd o egwyddorion cyfreithiol, eich gallu i werthuso'n feirniadol a'ch ymwybyddiaeth o faterion cyd-destunol. Byddwch yn sefyll prawf System Gyfreithiol Cymru a Lloegr yn ystod wythnosau cyntaf y cwrs. Asesir gweddill y modiwlau naill ai ym mis Ionawr neu ym mis Mehefin.

Cyflawnir asesiad crynodol o'r deilliannau hyn a'r gallu i ddysgu'n annibynnol a throsglwyddo sgiliau o un maes i'r llall hefyd drwy gyfrwng y traethawd estynedig.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio Dysgu Canolog yn helaeth. Yma, byddwch yn dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig a phrofion amlddewis. Bydd copïau caled o ddeunyddiau addysgu allweddol hefyd yn cael eu darparu. Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi. Bydd eich tiwtor personol yn eich cynorthwyo i fyfyrio ar berfformiad ar y cwrs ac yn helpu gyda CVs a cheisiadau am swyddi, ar y cyd â Chynghorydd Gyrfaoedd arbenigol. Cyflwynir rhaglen o ddarlithoedd a gweithdai gyrfaoedd yn yr Ysgol. Gwneir addasiadau rhesymol fel y bo'n briodol ar gyfer myfyrwyr ag anableddau.

Adborth:

Byddwch yn cael o leiaf un ymarfer ffurfiannol wedi'i farcio (er enghraifft prawf dosbarth neu draethawd) y byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig unigol arno, ar gyfer pob modiwl a astudir. Byddwch hefyd yn gallu profi eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun drwy gyfrwng profion ar-lein sy'n cyd-fynd â deunyddiau dysgu. Bydd sgiliau cyfathrebu llafar yn cael eu profi a rhoddir adborth ar gyflwyniadau anffurfiol mewn tiwtorialau. Byddwch yn cael adborth yn ystod sesiynau tiwtorial ar eich paratoadau ynghyd ag adborth cyffredinol wedyn.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn datblygu eich gallu i ymgymryd â dysgu annibynnol a hefyd eich sgiliau gweithio mewn tîm. Datblygir sgiliau cyfathrebu mewn tiwtorialau, lle gall tasgau a ddyrennir ymlaen llaw gynnwys cyfraniadau unigol i astudiaethau grŵp, er enghraifft drwy grynhoi dyfarniad neu erthygl benodol ar gyfer y grŵp. Yn gyffredinol, mae astudiaethau cyfreithiol yn datblygu'r gallu i drefnu ffeithiau a syniadau mewn ffordd systematig, gan nodi egwyddorion perthnasol a gwerthuso'r rhain er mwyn llunio cyngor ar gyfer cleient neu ddadl gyfreithiol fel y bo'n briodol. Mae ysgrifennu traethodau cyfreithiol nid yn unig yn datblygu sgiliau cyfathrebu ond hefyd y gallu i ddadlau mewn modd gwrthrychol, rhesymegol, proffesiynol, gan roi sylw dyledus i awdurdod a dulliau dyfynnu derbyniol.

  • Ochr yn ochr â'r cwricwlwm, cewch gyfle i ddatblygu sgiliau ""cyflogadwyedd"" ehangach drwy gymryd rhan yng nghynlluniau pro-bono yr Ysgol, sy'n cael eu rhedeg ar y cyd â chyfreithwyr a sefydliadau partner, lle mae gwirfoddolwyr sy'n fyfyrwyr yn cynorthwyo pobl go iawn wrth ymwneud â'r gyfraith.
  • Mae gweithgareddau eraill yn yr Ysgol yn cynnwys cystadlaethau ymryson, negodi a chyfweld cleientiaid.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,200 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 £1,000

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Bydd angen i chi brynu un gwerslyfr cyn dechrau'r cwrs, er mwyn gwneud rhywfaint o ddarllen paratoadol. Darperir yr holl werslyfrau eraill ar y cwrs.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Cymhwyster fel bargyfreithiwr

Mae ein DGG yn cynnwys y pynciau craidd sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i Gwrs Hyfforddi i’r Bar (CHB) yr ydym hefyd yn ei gynnig. Mae rhagor o wybodaeth am gymhwyso fel bargyfreithiwr ar gael ar wefanBwrdd Safonau'r Bar.

Cymhwyster fel cyfreithiwr

Mae’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA), y corff sy’n rheoleiddio’r proffesiwn, yn newid y llwybr cymhwyso presennol.

Cafodd yr Arholiad Cymhwysol Cyfreithwyr (SQE) ei gyflwyno ym mis Medi 2021. Ers hynny, nid yw'n hanfodol bellach i fyfyrwyr feddu ar radd yn y gyfraith neu DGG i ddod yn gyfreithiwr.  Fodd bynnag, bydd y modiwlau sylfaenol a astudir ar y cwrs DGG yn ymdrin â phynciau sy'n cael eu harchwilio fel rhan o'r SQE. Mae'r DGG yn cynnig manteision addysg gyfreithiol gyflawn a chymhwyster sy'n uchel ei barch ac sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr o fewn y proffesiwn cyfreithiol.

I fod yn gymwys pan fyddwch wedi cwblhau eich cwrs DGG, bydd angen i chi ddilyn cwrs paratoi ar gyfer graddedigion DGG a'r gyfraith, gan gwmpasu elfennau proffesiynol ac ymarfer gwybodaeth gyfreithiol a pharatoi ar gyfer yr SQE.  Mae rhai cyrsiau eisoes ar gael gan ddarparwyr, ac mae mwy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd. Ein nod yw cyflwyno cwrs paratoi SQE ym mis Medi 2025.  Mae rhagor o wybodaeth am gymhwyso ar gael ar wefan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

Mae gan yr Ysgol gysylltiadau cryf gyda chwmnïau a Siambrau lleol a chynhaliwyd digwyddiadau rheolaidd i helpu myfyrwyr rwydweithio ac archwilio opsiynau gyrfa ar gyfer y dyfodol. Roedd fy nhiwtoriaid i gyd yn gyfeillgar ac fe roddon nhw lawer o adborth adeiladol ar fy CV a fy ngheisiadau, yn ogystal â fy helpu i baratoi ar gyfer cyfweliadau. Roedd hyn yn hynod werthfawr mewn cylch o gyfweliadau a cheisiadau a fyddai’n frawychus fel arall. Gan fod llawer o’r tiwtoriaid yn meddu ar brofiad proffesiynol, roedd eu cyngor bob amser yn ymarferol ac agos atoch.
Crash Wigley

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Sut i ymgeisio

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais i'r cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Y gyfraith


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.