Anhwylderau Seicolegol Plant (MSc)
- Hyd: 1 flwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn

Bydd y rhaglen hon yn rhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol drylwyr i chi o'r ffactorau seicolegol sy'n achosi ac yn cynnal problemau emosiynol ac ymddygiadol mewn plant.
Ystod anhygoel o gyfleusterau datblygiadol
Bydd ystod o gyfleusterau ar gael i chi gan gynnwys ystafell synhwyraidd, labordai arsylwi a labordai niwroddelweddu.
Hyfforddiant datblygiadol arbenigol
Mae'r cwrs hwn yn darparu hyfforddiant mewn asesiadau emosiynol, gwybyddol a niwroddatblygiadol i blant, yn ogystal â chodio arsylwadol o ymddygiad plant a rhyngweithiadau rhwng rhieni a'u plant.
Addysgu a arweinir gan ymchwil
Addysgir gan ymchwilwyr blaenllaw sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol yn eu maes.
Bydd y cwrs MSc hwn mewn Anhwylderau Seicolegol yn ystod Plentyndod yn cynnig dealltwriaeth ddamcaniaethol drylwyr o'r ffactorau seicolegol sy'n achosi ac yn cynnal problemau emosiynol ac ymddygiadol mewn plant.
Cewch eich addysgu gan arbenigwyr rhyngwladol blaenllaw, a byddwch yn darganfod ac yn ymchwilio i sut mae anawsterau iechyd meddwl a chyflyrau niwroddatblygiadol, sy'n cynnwys gorbryder, iselder, ADHD, awtistiaeth ac anhwylder ymddygiad, yn dod i'r amlwg yn ystod plentyndod. Byddwch yn cael gwybodaeth fanwl am y ffordd orau o asesu'r cyflyrau hyn; gan eich galluogi wedyn i lywio ymyrraeth a rhoi cyngor ar y ffordd orau o drin.
Mae’r rhaglen hon wedi’i lleoli yn ein Canolfan Gwyddoniaeth Datblygiad Dynol (CUCHDS), a bydd yn rhoi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad i chi ddilyn gyrfa werth chweil ym maes niwroddatblygiad plant, seicoleg glinigol neu seicoleg addysg.
Cewch amrywiaeth o hyfforddiant proffesiynol ar asesiadau emosiynol, gwybyddol a niwroddatblygiadol i blant, ar systemau dosbarthu anhwylderau plant ac ar godio ymddygiad plant a rhyngweithio rhwng rhiant a phlentyn trwy arsylwi.
Ffocws allweddol i’r rhaglen hon hefyd yw hyfforddiant ymchwil, a’i nod yw cryfhau’r rhinweddau sydd gennych i ddechrau PhD mewn seicopatholeg ddatblygiadol, neu i raglenni hyfforddiant doethurol mewn Seicoleg Glinigol neu Seicoleg Addysg.
Yn ogystal â darparu hyfforddiant ar ymchwil sylfaenol, mae’r cwrs yn ceisio integreiddio safbwyntiau ymchwil o seicoleg glinigol a seicoleg addysg.

Roeddwn i’n gwybod pa mor wych oedd astudio yng Nghaerdydd, y ffordd o fyw a’r amgylchedd diogel a sylweddolais pa mor lwcus oeddwn i i fod yn astudio o dan bobl a oedd nid yn unig yn adnabyddus am eu gwaith, ond pobl a oedd yn angerddol ac eisiau addysgu’r hyn oedd yn bwysig iddynt. Mae'r cwrs hwn wedi llywio llwybr fy addysg a’m gyrfa, ac wedi llunio fi fel person hefyd. Dysgais lawer amdanaf fy hun yn ystod y cwrs ac roedd gallu gweithio mewn dosbarth bach yn golygu ein bod ni'n agos iawn ac yn cyd-dynnu.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Seicoleg
Dewch i astudio mewn amgylchedd dysgu deinamig sy’n ysgogi, wedi'i lywio gan ein gwaith ymchwil blaenllaw ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have the equivalent of 65% overall in a UK degree in Psychology or a Psychology-related subject, or a recognised equivalent qualification.
You will need to be able to handle scientific concepts, be numerate, and have excellent writing skills. A-levels in Biology, Chemistry, History, Mathematics, and English at grade A are desired.
Other essential requirements:
You will also need to provide:
- two references, one of which should be an academic reference. If you are a current Cardiff University student, you are not required to supply references.
- a personal statement of no more than 600 words which answers the six questions below.
- Why would you like to study the MSc in Children’s Psychological Disorders?
- Why would you like to do this at the Cardiff University Centre for Human Development Sciences (CUCHDS)?
- Which aspect of our course interests you most, and why?
- Please discuss a research finding on children’s psychological disorders which you found interesting.
- How will completion of this course help you to achieve your career goals?
- Please describe your familiarity and expertise in psychological research methods in general and SPSS in particular.
English language requirements:
IELTS with an overall score of 7.5 and 6.5 in all subskills, or an acceptable equivalent.
Selection process:
If you meet the entry requirements, you will be made an offer.
Application deadline:
Offers are made on a first come, first served basis and so early application is recommended.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Y broses ddewis neu gyfweld
Bydd y cyfweliad yn canolbwyntio ar yr angen i fyfyrwyr ar y cwrs hwn feddu ar amrywiaeth o sgiliau, gan gynnwys gwybodaeth am theori seicolegol, diddordeb mewn sut mae plant yn meddwl ac yn ymddwyn a phrofiad o hynny, a'r gallu i ymwneud ag ystod eang o bobl gan gynnwys plant, cleifion a chydweithwyr.
Mae'r rhaglen yn arbennig o addas ar gyfer myfyrwyr sydd â chefndir academaidd cryf mewn seicoleg a disgyblaethau cysylltiedig, sydd â diddordeb mewn anhwylderau niwroddatblygiadol plant ac sy'n dymuno symud ymlaen i Ddoethuriaeth PhD neu Glinigol neu Addysgol.
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael rhywfaint o brofiad ymchwil perthnasol ac mae'n bwysig bod ymgeiswyr yn gyfarwydd ag ymchwil empirig (e.e. casglu data, dadansoddi ac ysgrifennu).
Mae'r rhaglen hefyd yn addas ar gyfer y rhai sydd eisoes wedi cymhwyso fel gweithwyr clinigol neu addysgol proffesiynol, neu therapyddion ymddygiadol, ond sy'n dymuno ategu a diweddaru eu profiad a'u gwybodaeth bresennol.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Trefnir yr addysgu ar draws tri semester: yr hydref, y gwanwyn a'r haf. Mae gan Semester 1 a 2 dri modiwl 20 credyd yr un, sy'n cynnwys darlithoedd, seminarau a gweithdai; yn Semester 3 byddwch yn mynd ar leoliad ymchwil a fydd yn arwain at brosiect ymchwil. Mae pob modiwl yn para 10 wythnos ac yn cael ei asesu drwy asesiadau ffurfiannol a chrynodol.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Semester 1:
1. Tarddiad Seicobatholeg Ddatblygiadol (20 credyd)
2. Cyflwyniad i Seicoleg Glinigol ac Addysgol (20 credyd)
3. Ystadegau a dylunio ymchwil ôl-raddedig, a dulliau asesu plant (20 credyd)
Semester 2:
1. Anhwylderau Niwroddatblygiadol 1: Niwrobioleg (20 credyd)
2. Anhwylderau Niwroddatblygiadol 2: Gwybyddiaeth ac Emosiwn (20 credyd)
3. Asesu ac ymyrryd plant (20 credyd)
Cam Traethawd Hir:
Traethawd Hir: Prosiect ymchwil (60 credyd).
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Research Design and Statistics 1 | PST010 | 10 credydau |
Research Design and Statistics 2 | PST011 | 10 credydau |
Origins of Developmental Psychopathology | PST701 | 20 credydau |
Introduction to Clinical and Educational Psychology | PST702 | 20 credydau |
Neurodevelopmental Disorders 1: Neurobiology | PST704 | 20 credydau |
Neurodevelopmental Disorders 2: Cognition and emotion | PST705 | 20 credydau |
Child Assessment Methods 1 | PST708 | 10 credydau |
Child Assessment Methods 2 | PST709 | 10 credydau |
Dissertation | PST707 | 60 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Saif athroniaeth addysgol yr Ysgol ar yr argymhelliad bod ymchwil dda o fudd i addysgu da. Mae'r holl addysgu a dysgu yn cael eu harwain gan ymchwil. Defnyddir ystod amrywiol o arddulliau addysgu a dysgu drwy'r MSc. Byddwch yn mynychu darlithoedd, yn cymryd rhan mewn seminarau, clybiau cyfnodolion a thiwtorialau, ac yn ennill profiad mewn dulliau asesu plant. Byddwch yn chwarae rhan flaenllaw yn eich hyfforddiant eich hun. Mae'r Ysgol yn hwyluso dysgu trwy amlygu gwaith darllen priodol a threfnu dosbarthiadau ymarferol.
Gweithdai a dosbarthiadau ymarferol yn y labordy
Byddwch yn cael y cyfle i gael cryn dipyn o brofiad ymarferol (caffael a dadansoddi data) mewn gweithdai/arddangosiadau amrywiol yn Semester 1 a 2, gan gynnwys cyfweld clinigol, tracio llygaid, codio arsylwadol, gweithredu gweithredol a phrofi gallu llafar. Bydd y sgiliau ymarferol y byddwch yn eu datblygu yn cadarnhau eich dealltwriaeth o'r theori a gyflwynir yn y darlithoedd ac yn cynnig sail ar gyfer y gwaith ymchwil yn Semester 3.
Darlithoedd
Mae darlithoedd yn tynnu sylw nid yn unig at yr hyn sy'n hysbys, ond hefyd yr hyn nad yw'n hysbys. Cewch eich annog i feddwl am yr hyn sydd angen ei wneud i ddatblygu gwybodaeth. I'r perwyl hwn, mae'r darlithoedd yn para 2 awr i ganiatáu am archwilio dadleuon mwy cymhleth, ac i annog mwy o amser i’r myfyrwyr a’r darlithwyr drafod a chwestiynu.
Traethawd hir
Mae myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect ymchwil mawr yn ystod Semester 3. Cewch eich annog i ddewis goruchwyliwr yr hoffech weithio gydag ef ar eich prosiect a mynd at y goruchwyliwr hwnnw i ddatblygu a chynllunio prosiect sydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr. Gall tiwtoriaid eich helpu i adnabod goruchwyliwr priodol os oes angen.
Seminarau DPP
Bydd ymchwilwyr, clinigwyr a seicolegwyr addysg o fri yn cynnal seminarau bob mis. Fel hyn, byddwch yn cael gwybod am waith ymchwil arloesol a/neu faterion ymarferol perthnasol, a bydd yn eich helpu i'ch paratoi ar gyfer eich ymchwil a'ch gwaith yn y dyfodol. Cewch eich annog i fynychu seminarau eraill o amgylch y Brifysgol sy'n berthnasol i'ch cwrs a'ch dysgu cyffredinol. Hysbysebir llawer o'r rhain drwy Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl y Brifysgol. (www.cardiff.ac.uk/research/neuroscience-mental-health)
Seminarau’r Ysgol
Yn ogystal â'r Seminarau DPP bob mis, mae'r Ysgol yn cynnal seminarau ymchwil rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Cyflwynir y seminarau hyn gan siaradwyr gwadd ac aelodau o staff. Maen nhw’n eich galluogi i gael yr wybodaeth fwyaf cyfredol am y syniadau ymchwil diweddaraf. Cewch eich annog yn fawr i fynychu'r seminarau hyn.
Sut y caf fy asesu?
Cewch eich asesu mewn amrywiaeth o ffyrdd er mwyn llywio dysgu (ffurfiannol) ac i asesu dysgu (crynodol). Astudir chwe modiwl gwerth 20 credyd yr un yn Semester 1 a 2. Mae pump o'r modiwlau hyn yn cynnwys arholiadau ysgrifenedig (fformat traethawd); asesir pob modiwl hefyd drwy draethodau a/neu aseiniadau ymarferol. Yn Semester 3, asesir y Prosiect Ymchwil (60 credyd) drwy draethawd hir ar ffurf erthygl mewn cyfnodolyn (100%).
Ar gyfer y rhaglen gyfan, mae'r asesiadau'n cynnwys arholiadau, aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau llafar, a'r traethawd hir. Yn ogystal, yn ystod y flwyddyn, byddwch yn llunio portffolio myfyriol lle byddwch yn dangos tystiolaeth o'ch gwybodaeth a’ch profiad hyfforddi mewn ystod o ddulliau ac asesiadau. Nod y strategaeth asesu hon yw sicrhau eich bod yn dangos dull ""archwiliol-feirniadol cilyddol"" lle rydych yn dangos eich gallu i ddefnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth rydych wedi’u cael i lywio eich gwaith ymarferol a hefyd i ddefnyddio'ch profiad yn ymarferol i werthuso'ch gwybodaeth yn feirniadol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi, a fydd yn un o arweinwyr y modiwl ar y cwrs. Bydd y tiwtor hwn ar gael i ddarparu gofal bugeiliol a chyngor cyffredinol a bydd hefyd yn gyfrifol am fonitro eich cynnydd academaidd. Gall y tiwtor helpu i neilltuo goruchwylwyr posibl ar gyfer y prosiect ymchwil yn Semester 3. Bydd goruchwyliwr y prosiect yn trefnu cyfarfodydd rheolaidd i drafod cynnydd ac i roi cyngor ac arweiniad
Adborth
Bydd adborth yn cael ei ddarparu drwy diwtorialau, sylwadau/taflenni marcio gwaith cwrs a gwaith ymarferol. Bydd cyfarfodydd rheolaidd hefyd gyda thiwtoriaid personol.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Byddwch yn caffael ac yn meithrin ystod o sgiliau gwerthfawr, gan gynnwys rhai sy’n benodol i’r ddisgyblaeth a 'sgiliau cyflogadwyedd' mwy cyffredinol. Drwy'r rhaglen byddwch yn datblygu sgiliau asesu sy'n seiliedig ar ymchwil a chlinigol, a byddwch yn cael nifer o gyfleoedd i ehangu eich sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Ymhlith y sgiliau penodol eraill a gaiff eu caffael, mae'r gallu i gynllunio astudiaeth empirig mewn plant, gan gasglu, dadansoddi a dehongli ystod o ddata cymhleth. Bydd nifer o sgiliau ymchwil neu ymarferol gwerthfawr yn cael eu datblygu hefyd, drwy gwblhau'r Prosiect Ymchwil.
Beth yw deilliannau dysgu’r cwrs/rhaglen?
Knowledge & Understanding:
On successful completion of the Programme you will have gained:
- A systematic understanding of knowledge and a critical awareness of current problems and/or new insights, much of which is at, or informed by, the forefront of psychology, research on developmental psychopathology, and/or area of professional practice (clinical and educational psychology);
- A comprehensive understanding of techniques applicable to own research or advanced scholarship.
Intellectual Skills:
On successful completion of the Programme you will be able to demonstrate:
- Originality in the application of knowledge, together with a practical understanding of how established techniques of research and enquiry are used to create and interpret knowledge in the discipline;
- Conceptual understanding (1) to evaluate critically current research and advanced scholarship in the discipline, and (2) to evaluate methodologies and develop critiques of them and, where appropriate, to propose new hypotheses.
Professional Practical Skills:
On successful completion of the Programme you will be able to demonstrate:
- Effective communication and listening;
- Team working via participation in day-to-day activities of the course and your research group;
- Readiness to improve own performance based on reflective learning occurring across the year and in relation to practical activities.
Transferable/Key Skills:
On successful completion of the Programme you will be able to:
- Exercise initiative and personal responsibility;
- Make decisions in complex and unpredictable situations;
- Learn independently to support your continued professional development.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £10,950 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £25,450 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Na
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
- Gradd ymchwil (PhD) a gyrfa academaidd mewn seicopatholeg ddatblygiadol.
- Gyrfa mewn ymchwil drosi yn ymarferol neu mewn canolfannau ymchwil cymhwysol, mewn gwasanaethau iechyd meddwl neu addysgol.
- Gweithio mewn ymarfer clinigol neu addysgol fel seicolegydd cynorthwyol.
- Bydd y cymhwyster yn ddefnyddiol i'r rhai a fydd am wneud cais yn ddiweddarach am radd DClinPsych neu DEdPsych.
- Gweithio mewn amrywiaeth o feysydd proffesiynol sy’n cynnwys gwaith gyda phlant a phobl ifanc, megis addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, polisi teulu, gwaith ieuenctid, cyfiawnder, datblygiad rhyngwladol a gwaith elusennol.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Seicoleg
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.