Ewch i’r prif gynnwys

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Gwybodaeth sefydliadol, strwythurau, lleoliadau a chysylltiadau.

Fframwaith cyfreithiol

Mae'r fframwaith cyfreithiol y mae'r Brifysgol yn gweithredu o fewn yn seiliedig ar ei Siarter, Statudau a Deddfiadau.

Ein trefn

Strwythur sefydliadol y Brifysgol:

Lleoliad a manylion cyswllt

Rydym wedi ein lleoli yng Nghaerdydd, prif-ddinas Cymru. Mae ein hysgolion academaidd wedi eu lleoli ein campysau. Os oes angen i chi gysylltu ag Ysgol Academaidd neu Wasanaeth Proffesiynol, defnyddiwch ein teclyn chwilio am bobl.

Prif fanylion cyswllt

Prifysgol Caerdydd
Caerdydd
Cymru
CF10 3AT
DU

Ffôn: +44 (0)29 2087 4000
Ffacs: +44 (0)29 2087 4000

Sefydliadau rydym yn gyfrifol amdanyn nhw, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â nhw, rydym yn eu noddi, a chwmnïau sy’n eiddo yn gyfan gwbl neu’n rhannol i ni

Er mwyn gwneud y mwyaf o effaith ein hymchwil rydym yn mynd ati i weithio gydag amryw o bartneriaid, yn cynnwys busnesau bach a chanolig, corfforaethau amlwladol, y llywodraeth, asiantaethau rhyngwladol a nifer o gyrff eraill ledled y byd.

Mae rhestri a gwybodaeth sy’n ymwneud â chwmnïau sy’n eiddo’n gyfan gwbl i’r Brifysgol ar gael yn ein datganiadau ariannol blynyddol

Gweithgareddau myfyrwyr

Mae ein Hundeb Myfyrwyr yn darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â gweithredu a gweithgareddau Undeb y Myfyrwyr a chlybiau, cymdeithasau a gweithgareddau anacademaidd eraill sy’n cael eu trefnu ar gyfer y myfyrwyr neu ganddyn nhw.