Ewch i’r prif gynnwys

Ceisiadau am wybodaeth bersonol

Ceisiadau gan yr unigolyn

Os ydych am gael mynediad i'ch data personol eich hun, neu os oes gennych awdurdod i weithredu ar ran unigolyn, gallwch gyflwyno Cais am Fynediad at Ddata.

Ceisiadau gan yr Heddlu neu swyddogion gorfodi'r gyfraith eraill

O dan Ddeddf Diogelu Data 2018 gall y Brifysgol rannu data personol gyda'r Heddlu neu awdurdodau cymwys eraill mewn rhai amgylchiadau, gan gynnwys ar gyfer atal neu ganfod troseddau, dal neu erlyn troseddwyr, neu asesu neu gasglu trethi neu dollau.

Dylai awdurdodau sy'n dymuno gwneud cais o dan Adran 29(3) Ddeddf Diogelu Data 2018 ebostio inforequest@caerdydd.ac.uk yn rhoi naill ai:

  1. y Cais i sefydliadau allanol am ddatgelu data personol i ffurflen yr Heddlu 

    neu

  2. y manylion perthnasol canlynol:
  • enw/gwybodaeth adnabod yr unigolyn/unigolion;
  • manylion am y wybodaeth sy'n ofynnol;
  • y diben y mae angen y wybodaeth y gofynnir amdani ar ei gyfer.

Bydd y cais yn cael ei adolygu, a darperir gwybodaeth lle ystyrir ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur â'r diben y gofynnir amdani, yn unol â chyfrifoldebau'r Brifysgol o dan GDPR y DU.